Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/669

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º1 BAICH Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos.

2 Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion.

º3 Myfi a orchmynnais I’m rhai sanctaidd, gelwais hefyd fy nghedyrn i’m dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad.

º4 Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: ARGLWYDD y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.

º5 Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr ARGLWYDD, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.

º6 Udwch; canys agos yw diwrnod yr ARGLWYDD; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.

º7 Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:

º8 A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a’u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda, eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.

º9 Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, yn greulon a digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.

º10 Canys sêr y nefoedd, a’u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lloer ni oleua a’i llewyrch.

º11 A mi a ymwelaf a’r byd am ei ddrygioni, ac a’r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnafi falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.

º12 Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chyn o aur Offir.

º13 Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear a gryn o’i lle, yn nigofaint AR¬GLWYDD y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef.

º14 A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a’i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant.

º15 Pob un a gefhr ynddi a drywenir; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf.

º16 Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir.

º17 Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo.

º18 Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: cu llygad nid eiriach y rhai bach.

º19 A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr Duw at Sodom a Gomorra.

º20 Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswyhr hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a’r bugeiliaid ni chorlannant yno.

º21 Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a’r ellyllon a lamant yno:

º22 A’r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a’r dreigiau yn y . palasoedd hyfryd: a’i hamser sydd yn agos i ddyfod, a’i dyddiau nid oedir.


PENNOD 14

º1 CANYS yr ARGLWYDD a dosturia wrth. Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain; a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob.

º2 Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.

º3 A bydd, yn y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo,

º4 I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd. Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur?

º5 Yr ARGLWYDD a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr.