Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/672

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha.

º5 Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi a’i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.

º6 Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym miaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd ARGLWYDD DDUW Israel.

º7 Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, â’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel: . 8 Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na’r llwyni, na’r delwau.

º9 Yn y dydd hwanw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd-dra.

º10 Oherwydd anghofio ohonot DDCW dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt a chang¬hennau dieithr.

º11 Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.

º12 Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.

º13 Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymheli, ac a erhdir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym miaen corwynt.

º14 Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.


PENNOD 18

º1 GWAE y tir sydd yn cysgodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt’i afonydd Ethiopia:

º2 Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflyro, at genhedlaeth wasgaredig ( ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac etc, cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir.

º3 Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner tr y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn.

º4 Canys fel hyn y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwi gwhth yng ngwres cynhaeaf.

º5 Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a’r grawnwia surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig a chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghencau.

º6 Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.

º7 Yr amser hwnnw y dygir rhodd i ARGLWYDD y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd d thir, i le enw ARGLWYDD y lluoedd, sef i fynydd Seion.


PENNOD 19

º1 BAICH yr Aifft. Wele yr ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl ysgafh, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol.

º2 Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.

º3 Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chpnol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac a swynyddion; ac a dewiniaid, ac a brudwyr.

º4 A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd

caled; a bren nc cadarn a lywodraetha arnynt, medd’yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd.

º5 A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech.

º6 A hwy a droant yr afonydd ym