Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/684

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech.

º20 gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau.

º21 Eithr yr ARGLWYDD ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a-ffrydiau llydain: y rhwyflong nid a trwyddo, a llong odidog nid a drosto.

º22 Canys yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr, yr AR¬GLWYDD yw ein brenin; efe a’n ceidw.

º23 Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth.

º24 Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.


PENNOD 34

º1 NESEWCH, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a’i holl gnwd.

º2 Canys llidiowgrwydd yr ARGLWYDD sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa.

º3 A’u lladdedigion a fwrir allan, a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed. hwynt.

º4 Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.

º5 Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i fam, ac ar y bobl a ysgymunais.

º6 Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd "o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed wyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i’r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.

º7 A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a’r bustych gyda’r teirw; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt, a’u llwch fydd dew o fraster.

º8 Canys diwrnod dial yr ARGLWYDD, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw.

º9 A’i hafonydd a droir yn byg, a’i llwch yn frwmstan, a’i daear yn byg llosgedig.

º10 Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi, ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.

º11 Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna; y dylluan a’r gigfran a drigant ynddi; ac etc a estyn arni xxx linya anhrefn, a meini gwagedd.

º12 Ei phendcfigion hi a alwant i’r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim.

º13 Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys.

º14 Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a’r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr wyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.

º15 Yno y nycha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda’i gymar.

º16 Ceisiwch allan o lyfr yr ARGLWYDD, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a ftrchmynnodd, a’i ysbryd, efe a’u casglodd hwynt.

º17 Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.


PENNOD 35

º1 YR anialwch a’r anghyfanheddk a lawenychant o’u plegid; y ‘diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.

º2 Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd a llawcnydd ac a chan: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr ARGLWYDD, a godidowgrwydd ein Duw ni.