Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/692

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mewn delwau. cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.

º18 O fyddariaid, gwrandewch; a’r deill¬ion, edrychwch i weled.

º19 Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy môr ddall a’r perffaith, a dall fel gwas yr ARGLWYDD?

º20 Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy.

º21 Yr ARGLWYDD sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus.

º22 Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyilau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anriiaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl.

º23 Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw?

º24 Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith.

º25 Am hynny y tywalltodd efe ame lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.


PENNOD 43

º1 OND yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canySr gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.

º2 Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tan) ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.

º3 Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.

º4 Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th

hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.

º5 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf.

º6 Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o . bell, a’m merched o eithaf y ddaear;,

º7 Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y-gwneuthunLef.;

º8 Dwg allan y bobl ddall sydda llygaid Kidynt, a’r byddariaid sydd & chlusitiau iddynt.

º9 Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawn-fcaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.

º10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr ARGLWYDD, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.

º11 Myfi, myfi yw yr ARGLWYDB;ac Bid oes geidwad ond myfi.

º12 Myfi a fynegais, ac a ach’iiibais, ac a ddangosais, pryd nad oedd dttw dieithi? yn eich mysg: am hynny ohwi ydych fy nhystion, medd yr ARGLWTOI!),fliai myft sydd DDUW. ‘

º13 Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid Oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i Huddia?

º14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau.

º15 Myfi yr ARGLWYDD yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin Chwi.

º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYBD, yr hwn a wna ffordd yn y dor, a’flwybr yn,y dyfroedd cryfion;;’ ,

º17 Yr hwn a ddwg allan y cerfeyd a*r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y difiaddasant., .

º18 Na chofiwch y pethau O’T blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. .

º19 Wele fi yn gwneuthur peth