Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/708

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef?

º12 Yr hwn a’u tywysodd hwynt a de-heulaw Moses, ac a’i ogoneddus fraich, gan holiti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw uigwyddol?

º13 Yr hwn a’u harweirdodd .hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent?

º14 Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.

º15 Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sel a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant?

º16 Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.

º17 Paham, ARGLWYDD, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ftyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, Hwythau dy etifeddiaeth. . .

º18 Dros ychydig ennyd y aaeddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di.

º19 Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.


PENNOD 64

º1 ONA rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di,

º2 Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot!

º3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen.

º4 Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant a chlustiau, ac ni welodd llygad, O DDUW, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho.

º5 Cyfarfyddi a’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig.

º6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthia- som ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynl, a’n dug ni ymaith.

º7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein haawireddau.

º8 Ond yn awr,0 ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.

º9 Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.

º10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anial¬wch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd.

º11 tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith.

º12 A ymateli di, ARGLWYDD, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?


PENNOD 65

º1 CEISIWYD fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.

º2 Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;

º3 Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogl-darthu ar allorau priddfeini;

º4 Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;

º5 Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tan yn llosgi ar hyd y dydd.