Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/718

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.

6:27 Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.

6:28 Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ynt; llygru y maent hwy oll.

6:29 Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.

6:30 Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o’r ARGLWYDD hwynt.


PENNOD 7

7:1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy¬wedyd, 7:2 Saf di ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD.

7:3 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma.

7:4 Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt.

7:5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog;

7:6 Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddi¬fad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun;

7:7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.

7:8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.

7:9 Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;

7:10 Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll?

7:11 Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD.

7:12 Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel.

7:13 Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:

7:14 Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo.

7:15 A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.

7:16 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni’th wrandawaf.

7:17 Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

7:18 Y plant sydd yn casglu cynnud, a’r tadau yn cynnau tân., a’r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau .i frenhines y nef, ac i dywallt diod-offrymau i dduwiau dieithr, i’m digio i.

7:19 Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr ARGLWYDD: ai hwynt eu hun, er cywilydd i’w hwynebau eu hun?

7:20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.

7:21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.

7:22 Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchymynnais idd-