Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/722

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef.

10:11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.

10:12 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.

10:13 Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau.

10:14 Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

10:15 Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

10:16 Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw.

10:17 Casgl o’r tir dy farsiandiaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.

10:18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

10:19 Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf.

10:20 Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.

10:21 Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr ARGLWYDD: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.

10:22 Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.

10:23 Gwn, ARGLWYDD, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad.

10:24 Cosba fi, ARGLWYDD, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim.

10:25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.


PENNOD 11

11:1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

11:2 Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem;

11:3 Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn,

11:4 Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi; felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau:

11:5 Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O AR¬GLWYDD, felly y byddo.

11:6 Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerw¬salem, gan ddywedyd, Gwrandewch eir¬iau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt.

11:7 Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais.

11:8 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

11:9 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem,

11:10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando