Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/724

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

12:9 Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgasglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.

12:10 Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.

12:11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.

12:12 Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr ARGLWYDD a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.

12:13 Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt; a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.

12:14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt.

12:15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w eti¬feddiaeth, a phob un i’w dir.

12:16 Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr ARGLWYDD, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.

12:17 Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 13

13:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.

13:2 Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a’i dodais am fy llwynau.

13:3 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, gan ddywedyd,

13:4 Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o’r graig.

13:5 Felly mi a euthum, ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i mi.

13:6 Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno.

13:7 Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.

13:8 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

13:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru.

13:10 Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.

13:11 Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dy^ Israel a holl dy^ Jwda lynu wrthyf, medd yr ARGLWYDD, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.

13:12 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?

13:13 Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, a meddwdod.

13:14 Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr AR¬GLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.