Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/728

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º12 A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;

º13 Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ifafr.

º14 Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft:

º15 Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.

º16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr ARGLWYDD, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac, oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.

º17 Canys y mae fy ngolwg ar eu hôl} ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.

º18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir a’u ffiaidd gelanedd, ie, a’u ffieidd-dra y llanwasant fy eti-feddiaeth.

º19 O ARGLWYDD, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt.

º20 A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?

º21 Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chant wybod mai yr ARGLWYDD yw fy enw.


PENNOD 17

º1 PECHOD Jwda a ysgrifennwyd a phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau;

º2 Gan fod eu meibion yn cofio eu hall-orau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel.

º3 O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau.

º4 Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaelh a roddais i ti; a mi a wnafi ti wasanaethu dy elynion mewn tir ni,dxxxx adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.

º5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr AR¬GLWYDD.

º6 Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wel pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyf-anheddol.

º7 Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, ac y byddo yr AR¬GLWYDD yn hyder iddo. - 8 Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a ffrwytho.

º9 Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn?

º10 Myfi yr ARGLWYDD sydd yn chwilio’r galon, yn profi’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.

º11 Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.

º12 Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.

º13 O ARGLWYDD, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrif-ennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.

º14 lacha fi, O ARGLWYDD, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.