iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.
º34 Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDDS oherwydd hwynt-hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach.
º35 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr paa ruo ei donnau; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw:
º36 Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd’ i, medd yr ARGLWYDD, yna had Israel a baid a bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd.
º37 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr ARGLWYDD.
º38 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr adeiledir y ddinas i’r ARGLWYDD, o dwr Hananeel hyd berth y gongl.
º39 A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath. ; . ‘
º40 A holl ddyffryn y celaneddau, a’r lludw, &’r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain, a fyAd sanctaidd i’r ARGLWYDD; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.
PENNOD 32
º1 ~V GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebu chodonosor.
º2 Canys y pryd hwnnw yr oedd llm brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nh brenin Jwda.
º3 Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi;
º4 Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan âg ef enau yng ngenau, a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau;
º5 Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr ARGLWYDD: er i chwi ymladd a’r Caldeaid, ni lwyddwch.
º6 A Jeremeia a lefarodd, Gair yr AR¬GLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,
º7 Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Pryn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder, y pryniad i’w brynu ef.
º8 Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a; ddywedodd wrthyf, Pryn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Ben¬jamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr’ etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng;1 pryn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr ARGLWYDD oedd hwn.,
º9 A mi a brynais y maes oedd yn Ana¬thoth gan Hanamesi mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian.
º10 A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriaimau.
º11 Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a (lefod, a’r hwn oedd yn agored.
º12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.
º13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd,
º14 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r