Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a dröwyd yn waed.

21 A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aipht.

22 A swynwyr yr Aipht a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharaoh, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

23 A Pharaoh a drodd ac a aeth i’w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.

24 A’r holl Aiphtiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed, canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.

25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i’r Arglwydd daro’r afon.


PENNOD VIII.

1 Danfon llyffaint. 8 Pharaoh yn ymbil â Moses. 12 A Moses trwy weddi yn eu tynnu hwynt ymaith. 16 Troi y llwch yn llau: yr hyn ni allai y swynwyr ei wneuthur. 20 Yr heidiau ednog. 25 Pharaoh yn lled-foddlawn i’r bobl fyned; 32 etto efe a galedir.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

2 Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a darawaf dy holl derfynau di â llyffaint.

3 A’r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.

4 A’r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

5 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â’th wïalen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tir yr Aipht.

6 Ac Aaron a estynodd ei law ar ddyfroedd yr Aipht; a’r llyffaint a ddaethant i fynu, ac a orchuddiasant dir yr Aipht.

7 A’r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fynu lyffaint ar wlad yr Aipht.

8 ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd.

9 A Moses a ddywedodd wrth Pharaoh, Cymmer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa y llyffaint oddi wrthyt, ac o’th dai, a’u gadael yn unig yn yr afon?

10 Ac efe a ddywedodd, Y fory. A dywedodd yntau. Yn ol dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni.

11 A’r llyffaint a ymadawant â thi, ac â’th dai, ac â’th weision, ac â’th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharaoh. A Moses a lefodd ar Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharaoh.

13 A’r Arglwydd a wnaeth yn ol gair Moses; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai, o’r pentrefydd, ac o’r meusydd.

14 A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

15 Pan welodd Pharaoh fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

16 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wïalen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â’i wïalen, ac a darawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

18 A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddyn ac ar anifail.

19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharaoh, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharaoh, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

20 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh; wele, efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

21 O herwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti,