Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/779

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

bwyta y llyfr hwn a dos, a llefara wrth d Israel.

2 Yna mi a agorais fy safn, ac efe 4 wnaeth i mi fwyta'r llyfr hwnnw.

3 Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, a'r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.

4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dy Israel, a llefara a'm geiriau wrthynt.

5 Canys nid at bobl o iaith ddieitfar ac o dafodiaith galed y'th anfonir di, ond at dy Israel;

6 Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y'th anfonaswn atynt?

7 Eto ty Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys m fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dy Israel.

8 Wele, gwneuthmn dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a'th dal yn gryf yn erbyn eu taloennau hwynt.

9 Gwneuthum dy daloen fel adamant, yn galetach na'r gallestr: oac ofna bwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai ty gwrthryfelgar ydynt.

10 Dywedodd hefyd wrthyf. Ha fafa dyn, derbyn a'th galon, a chlyw a'th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt.

11 Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dpuw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio.

12 Yna yr yabryd a'm cymerodd, a chlywn swn cynnwrf rnawr o'm hoi, ya dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr ARGLWYDD o'i Ie.

13 A swn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd a'i gilydd, a swn yr olwynion ar cu cyfer hwynt, a swn cynnwrf mawr.

14 A'r ysbryd a'm cyfododd, ac a'm cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr ARGLWYDD oedd gref arnaf.

15 A mi a ddeulhum i Tel-abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt.

16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

17 Mab dyn, mi a'th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o'm genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi.

18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.

19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na'i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid. y

20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o'i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.

21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o'r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.

22 Ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i'r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt.

23 Yna y cyfodais, ac yr euthum fr gwastadedd: ac wele ogoniant yr Aft-GLWYDD yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrth iais ar fy wyneb.

24 Yna yr aeth yr ysbryd ynof, ac a'm gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddan.odd a mi, ac a ddywedodd wrthyf, DOS, a chae arnat o fewn dy dy.

25 Tithau fab dyn, wele, hwy a roddani rwymau arnat, ac a'th rwymant a hwynt, ac na ddos allan yn eu plith.

26 A mi a wnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fud, ac ni byddi iddynt yn