Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/788

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6 Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr ARGLWYDD ; a'r ARGLWYDD heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.

7 Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr ARGLWYDD a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd?

8 Am hynny, fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i'ch erbyn, medd yr AR¬GLWYDD DDUW.

9 A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen ty Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.

10 O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo a chlai heb ei dymheru.

11 Dywed wrth y rhai a'i priddant a phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a'i rhwyga.

12 Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthychi Mae y clai a'r hwn y priddasoch ef?

13 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW, Minnau a'i rhwygaf a gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i'w ddifetha.

14 Felly y bwriafi lawr y pared a briddasoch a phridd heb ei dymheru, ac a'i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

15 Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a'i priddasant a phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na'r rhai a'i pridd¬asant:

16 Sef proffwydi Israel, y rhai a broff¬wydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr ARGLWYDD DDUW.

17 y Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o'u calon eu hun; a phroff-wyda yn eu herbyn hwynt,

18 A dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl', a'r rhai a weithiant foledau am ben pot( corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddel atoch?

19 Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandaw-ent gelwydd?

20 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, a'r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.

21 Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o'ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.

22 Am dristau calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o'i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes;

23 Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o'ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.


PENNOD 14

1 YNA y daeth ataf wyr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o'm blaen.

2 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,