Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/791

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

i ti ddelwau gwyr, a phuteiniaist gyda hwynt.

18 Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a'u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a'm harogl-darth a roddaist o'u blaen hwynt.

19 Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beilliaid, ac yn olew, ac yn fel, a'r rhai y'th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o'u blaen hwynt yn arogi peraidd: fel hyn y bu, medd yr ARGLWYDD DDUW.

20 Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y Thai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,

21 Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?

22 Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th but- eindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lorn a noeth, a'th fod ym ymdrybaeddu yn dy waed.

23 A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr ARGLWYDD DDUW,)

24 Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.

25 Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob icyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra.

26 Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Ain't dy gymdogion, mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy buteindra, i'm digio i.

27 Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrmheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler.

28 Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni'th ddigon-wyd.

29 Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni'th ddigonwyd a hyn.

30 Mor llesg yw dy galon, medd yr ARGLWYDD DDUW, gan i ti wneuthur hyn oil, sef gwaith puteinwraig yn llywod-raethu!

31 Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd, ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol; ac nid oeddit fel putain, gan dy fod yn dirmygu gwobr;

32 Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr.

33 I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau, ac a'u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i'th buteindra.

34 Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.

35 Gan hynny, O butain, clyw air yr ARGLWYDD;

36 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda'th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd-dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt;

37 Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi am¬gylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.

38 Barnaf di hefyd a barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.

39 Ie, rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy uchelfa, ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd: diosgant di hefyd o'th ddillad, a chymerant ddodrefn dy harddwch, ac a'th adawant yn Horn ac yn noeth.

40 Dygant hefyd dyrfa i'th erbyn, ac a'th labyddiant a meini, ac â’u cleddyfau y'th drywanant.

41 Llosgant hefyd dy dai a than, a gwnant arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer: a mi a wnaf i ti beidio a phuteinio, a hefyd ni roddi wobr mwy.

42 Felly y llonyddaf fy llid i'th erbyn, a symud fy eiddigedd oddi wrthyt; mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy.

43 Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenc-tid, ond anogaist fi i lid yn hyn oil; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr ARGLWYDD DDUW: fel na wnel-