Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/805

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y'th guddio dyfroedd lawer;

20 A'th ddisgyn ohonof gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, at y bobl gynt, a'th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, fel na'th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;

21 Gwnaf di yn ddy chryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni'th geir mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW.


PENNOD 27

1 GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

2 Tithau fab dyn, cyfod alamad am Tyrus;

3 A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch.

4 Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.

5 Adeiladasant dy holl ystyllod o ffy-nidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.

6 Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.

7 Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a tedit i fed yn hwyl i ti; glas, a phorffor o ynysoedd: Eliaa, oedd dy do.

8 Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd; d'y long-lywiawdwyr.

9 Henuriaid Gebal a'i doethion oeddr ynot yn cau dy agennau,: holl longau, y môr a'u Hongwyr oedd ynot ti i farehnata! dy farchnad.

10 Y Persiaid, a'r Ludiaid, a'r Phutiaid-n oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tariaa.a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant.t li harddwch.

11 Meibion Arfad oedd gyda'th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammad-iaid yn dy dyrau '. crogasant eu tarianau an dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithh iasant dy degwch.

12 Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amidra pob gplad.; ag arian, haeain, alcam,. a phlwm, y marchnatasant. yn dS ffeiriau.

13 Jafan, Tubal, a Mesech, hwytha» oedd dy farchnadyddion: marchnatasaial yn dy farchnad am ddynion a Hestri pres;

14 Y rhai o dy Toganna a farchnatasaat yn dy ffeiriau a meirch, a marchogion, a mulod.

15 Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gym ifori ac ebenus ya anrheg i ti.

16 Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amied pethau o'th waith di: ass. garbunci, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllm, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

17 Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mel, ac olew, a tliriagl.

18 Damascus oedd dy farchnadydd yn amider dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn.

19 Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haeasa wedi ei weithio, casia,, a'i- calamus, oedd yn dy farchnad.

20 Dedan oedd dy farchnadydd'. mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau.

21 Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti aim wyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn. yr oedd dy farchnadyddion.

22 Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: march:-: natasant yn dy ffeiriau am bob pri£ beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur.

23 Haran, a Channe, ac Eden, march-nadyddion Seba, Assur, a Chiimad, oedd yn marchnata a thi.

24 Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiaus gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwynaa) a rhaffau a'u gwneuthur o gedrwydd ymysg dy farchnadaeth.