Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/810

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

aith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.

13 Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi;

14 Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghano'l meibion dynion, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dirpw; Yn y -dydd y disgynnodd hi fr bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum. i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y macs lesmair amdani hi.

16 Gan swn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddis-gyn i uffern gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll; a holl goed Eden, y dewis a'r gorau yn Libanus, y dyfradwy oil, a ymgysurant yn y tir isaf.

17 Hwythau hefyd gyda hi a ddisgyn¬nant i uffern at laddedigion y cleddyf, a'r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.

18 I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i'r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigiony cleddyf. Dyma Pharo a'i holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.


PENNOD 32

1 A yn y deuddegfed mis o'r ddeu-ddegfed flwyddyn ar y dydd cyntaf o'r

2 Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda'th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd a'th draed, a methraist eu hafonydd hwynt. ,.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat a chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a'th godant yn fy rhwyd i.

4 Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear.

5 Rhoddaf hct'yd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd a'th uchder di.

6 Mwydaf hefyd a'th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot.

7 Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu ser hwynt: yr haul a guddiaf a chwmwl, a'r lleuad ni wna i'w goleuni oleuo.

8 Tywyllaf amat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd DDUW.

9 A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhed¬loedd i diroedd nid adnabuost.

10 A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a'u brenhinoedd a ofnant yn fawr o'th blegid, pan wnelwyf i'm cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11 Canys fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd: DDUW; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti.

12 A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a'i holl liaws hi a ddinistrir.

13 Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt.

14 Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfr¬oedd hwynt, a gwnaf i'w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd DDUW.;

15 Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o'i llawnder, pan drawyf y rhai oll a