Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/833

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2:1 Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho.

2:2 A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.

2:3 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.

2:4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i’th weision, a mynegwn y dehongliad.

2:5 Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a’i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a’ch tai a osodir yn domen.

2:6 Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a’i ddehongliad.

2:7 Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef.

2:8 Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf.

2:9 Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.

2:10 Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.

2:11 Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd.

2:12 O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon.

2:13 Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeirion i’w lladd.

2:14 Yna yr atebodd Daniel trwv gyngor a doethineb i Arioch, pen-distain y brenin, yr hwn a aethai allan, i ladd doethion Babilon:

2:15 Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.

2:16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin.

2:17 Yna yr aeth Daniel i’w dŷ, ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;

2:18 Fel y ceisient drugareddau gan DDUW y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon.

2:19 Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd DDUW y nefoedd.

2:20 Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef:

2:21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall:

2:22 Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.