Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/854

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

10:7 Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.

10:8 A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.

10:9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt.

10:10 Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gwys.

10:11 Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.

10:12 Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr ARGLWYDD, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.

10:13 Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn.

10:14 Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth-arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant.

10:15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi, am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.


PENNOD 11

11:1 Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aifft.

11:2 Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl-darth i ddelwau cerfiedig.

11:3 Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt.

11:4 Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.

11:5 Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.

11:6 A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun,

11:7 A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef.

11:8 Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd.

11:9 Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas.

11:10 Ar ôl yr ARGLWYDD yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant.

11:11 Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr ARGLWYDD.

11:12 Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda’r saint.


PENNOD 12

12:1 Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft.

12:2 Ac y mae gan yr ARGLWYDD gwyn ar Jwda; ac efe a ymwâl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

12:3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw.

12:4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;

12:5 Sef ARGLWYDD DDUW y llu-