Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/878

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:1 Gwae y fudr a'r halogedig, y ddinas orthrymus!

3:2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ni nesaodd at ei DUW.

3:3 Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.

3:4 Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷ r anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith.

3:5 Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol, ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.

3:6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb w^r, a heb drigiannol.

3:7 Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.

3:8 Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.

3:9 Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.

3:10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwrn.

3:11 Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.

3:12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy.

3:13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a'u tarfo.

3:14 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon.

3:15 Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach.

3:16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo.

3:17 Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu.

3:18 Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i'r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich.

3:19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a'u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth.

3:20 Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD.


LLYFR HAGGAI.

PENNOD 1

1:1 Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

1:2 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.