Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/948

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

11:16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml,

11:17 Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.

11:18 A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.

11:19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas.

11:20 ¶ A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd.

11:21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino.

11:22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw:

11:23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo.

11:24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.

11:25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:

11:26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau.

11:27 ¶ A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a ddaethant ato,

11:28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?

11:29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

11:30 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi.

11:31 Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo?

11:32 Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd.

11:33 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.


PENNOD 12

12:1 A efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

12:2 Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan.

12:3 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw.

12:4 A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus.

12:5 A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.

12:6 Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

12:7 Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni.