Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/974

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

i chwi; ond ll.iwcnhewch yn hytrach, am fod eich cnwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.

21 Yr awr honno yr Iesu a lawcn-ychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid fefly y gwelid yn dda yn dy edwg di.

22 Fob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni w^yr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.

23 Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neillta, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yi ydych chwi yn eu gweled:

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brentanoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.

25 Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?

26 Yntau a ddywedodd wrtho. Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?

27 Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dŷ Dduw a’th holl galon, ac a’th hoil enaid, ac a’th holl nerth, ac a’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun.

28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.

29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?

30 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner rnarw.

31 Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o’r tu arall heibio.

32 A’r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth o’r tu arall heibio. /

33 Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,

34 Ac a aeth ato, ac a rwymodd id archollioB ef, gaa dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd.

35 A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuhech yn ychwaneg, par-ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti.

36 Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?

37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, DOS, a gwna dithau yr un modd.

38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a’i henw Martha, a’i derbyniodd ef i’w thy.

39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wstik draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.

40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd., onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.

41 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thraff-erthus wyt ynghylch llawer o bethau:

42 Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon m ddygir oddi arni.


PENNOD 11

1 BU, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd loan i’w ddisgyblion.