Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/982

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid.

7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai fetly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhau, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.

8 Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?

9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau, gan ddy¬wedyd, Cydlawenhewch a mi; canys cefais y dryll a gollaswn.

10 Felly, meddaf i chwi, y -mae llaw¬enydd yng ngwydd angylion Dwv am un pechadur a edifarhao.

11 d Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:

12 A’i ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth d dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.

13 Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymenh ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgaiodd ei dda, gan fyw yn afradlon.

14 Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, y cododd newyn mawr trwy’r wlad honnc ac yntau a ddechreuodd fod mewn cisiau.

15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch.

16 Ac efe a chwenychai knwi ei fol a’r cibau a fwytai’r moch; ac ni roddodd neB iddo.:

17 A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddy¬wedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r (yg nhad sydd yn cael eu gwa " newyn? o fara, a minnau v"

18 Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau;

19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’rn galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision tjyflog.

20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a i cusanodd.

21 A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng ¥m galw yn fab i ti.

22 A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygweh allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:

23 A dygwch y llo pasgedig, a Ileddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen.

24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.

25 Ac y roedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesau at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.

26 Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.

27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a’th dad a laddodd y llo pasg¬edig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.

28 Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef.

29 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dŷ orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion:

30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr_ hwn a ddifaodd dy fywyd eytta phuteiniaid, ti a ledd— tt0 " y lte pasgedig.

31 Ac efe a ddywedodd wrthfr, Fy mab, -yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a eiddof fi oll ydynt eiddot ti.

32 Rhaid pedd llawenychu, a goribl eddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn, farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.


PENNOD 16

1 AZ; efe a ddywedodd llefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wrgoludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.