Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phregethodd Howell Harris, areithiwr nerthol, yn gystal wrth natur a thrwy ras, ond nid yw yn ddyledus am ddim i gelfyddyd na dysgeidiaeth." Cyfeiria ef ei hun yn aml at brinder ei wybodaeth, a'i fod yn methu cael amser i ddarllen, fel rhwystrau ar ei ffordd gyda'r weinidogaeth. Ond fel yr ydoedd yr oedd gymhwysaf ar gyfer ansawdd y wlad. Mewn ymroddiad diarbed i lafur, mewn teithiau hirion a pheryglus, mewn cydwybodolrwydd dwfn i'r Arglwydd Iesu, mewn hyfdra sanctaidd yn ngwyneb gwawd ac erhd, ac mewn ymdeimlad difrifol a gwerth yr eneidiau oedd yn teithio

yn ddiofal i ddinystr, ni ragorodd un o'r Diwygwyr ar Howell Harris. Braidd na allai ddweyd yn ngeiriau Paul: "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll;" ac yn briodol iawn y gelwir ef yn Luther Cymru. Yr oedd ei allu trefniadol hefyd agos a bod yn gyfartal i'w ddawn fel siaradwr; bu ganddo ef law fawr, yn wir y llaw fwyaf, yn lluniad y cyfansoddiad Methodistaidd ar y cychwyn, ac y mae ei ddelw ef i'w gweled yn amlwg ar y Cyfundeb hyd heddyw. Gadawn hanes Howell Harris yn y fan hon yn bresenol, ond cawn ddychwelyd ato eto.

—————————————

—————————————

HANES Y DARLUNIAU.

ATHROFA TREFECCA CHAPEL COFFERWDAETHOLAETHOL HOWELL HRRIS. Cymerwyd y darlun hwn ar gyfer y gwaith presenol yn ngwanwyn y flwyddyn hon, 1894. Yn mis Ebrill, y flwyddyn 1752, y gosododd Howell Harris sail yr adeilad i lawr; ac yr oedd rhan o hono wedi ei orphen yn y flwyddyn ganlynol. Ar ddiwedd y flwyddyn 1754 yr oedd teulu sefydledig yn Nhrefecca, o gylch cant o rifedi, heblaw y rhai oedd yn myned ac yn dyfod. Gan y rhoddir hanes cyflawn o'r sefydliad yn Nhrefecca yn amser Howell Harris yn y lle priodol yn nghorff y gwaith, ni raid ymhelaethu arno yn y fan hon. Yn y flwyddyn 1842 yr agorwyd y lle fel Athrofa y Deheudir, ac am yr ugain mlynedd cyntaf, y Parch. D. Charles, B.A., oedd yr unig athraw. Agorwyd y Capel Coffadwriaethol yn mis Gorphenaf, 1873, sef can-mlwyddiant marwolaeth Howell Harris. Gwasanaethwyd ar yr agoriad gan y Parchedigion Dr. Lewis Edwards, Bala; Dr. Owen Thomas, Liverpool; Edward Matthews, David Williams, Troedrhiwdalar, ac eraill. Cynllunydd y capel ydoedd Mr. R. G. Thomas, Menai Bridge; a'r adeiladydd Mr. Evan Williams, Bangor. Costiodd £3,432 2s. 2c. Casglwyd yr arian drwy ymdrechion y Parchedigion Edward Matthews, a Dr. J. Harris Jones, un o athrawon y sefydliad.

DARLUN GWREIDDIOL HOWELL HARRIS. Cyhoeddwyd dau Gofiant o Howell Harris yn y flwyddyn ar ol ei farwolaeth. Argraffwyd hwy yn Nhrefecca, ac yr oedd y cyntaf yn yr iaith Gymraeg, a'r llall yn Saesneg; ond ni chyhoeddwyd darlun o'r Diwygiwr hynod yn y Cofiantau hyny. Cyhoeddwyd Cofiant eilwaith iddo yn Nhrefecca yn 1792, ond nid oes darlun o hono yn hwnw ychwaith. Ond yn y flwyddyn 1838, sef yn mhen tri ugain a phump o flynyddau wedi marwolaeth Howell Harris, fe ail-argraffwyd y Cofiant a ddygwyd allan yn 1792 gan Mr. Nathan Hughes, tad y diweddar Barch. Jobn Ricbard Hughes, Brynteg, Sir Fon. Argraffwyd ef yn Merthyr Tydfil. Pan ynghylch cyhoeddi yr argraffiad hwn o Gofiant Howell Harris, cafodd Mr. Nathan Hughes afael ar ddarlun o hono yn Nhrefecca, pa un a osododd yn llaw fod pris y darlun ei hun yn llawn cymaint a hyny, o herwydd dywedir ddarfod i'r platcerfiedydd mewn dur, a chyhoeddodd liaws o gopïau o hono. Er fod cyhoeddiad y Cofiant hwn a'r darlun yn gyfamserol, ymddengys eu bod yn cael eu gwerthu ar wahân; o herwydd nid yw y darlun wedi ei rwymo gyda'r Cofiant, yn y copïau yr ydym ni wedi eu gweled; ac yr ydym wedi dyfod ar draws y darlun yn aml, heb y Cofiant. Pris y Cofiant ydoedd swllt, a thebygol e gostio deg punt; felly gwerthid hwy gyda'u gilydd neu ar wahân, yn ol ewyllys y prynwr. Dywedir fod y plate yn awr yn meidiant y Parch. Dr. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, Scranton, Pen. America, sef un o feibion Mr. Nathan Hughes. Y mae darlun Howell Harris wedi ei gerfio lawer gwaith yn ystod y blynyddau diweddaf.

EGLWYS TALGARTH. Copi ydyw y darlun hwn o'r print a gyhoeddwyd gydag argraffiad Mr. William Mackenzie o "Holl Weithiau Williams, o Bantycelyn," dan olygiad y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones. Cymerwyd y photograph gwreiddiol tua'r flwyddyn 1867, gan Mr. T. Gulliver, Abertawe. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw heb fyned dan unrhyw gyfnewidiad. Y mae yr eglwys yn bresenol yn bur debyg i'r fel yr ydoedd yn amser Howell Harris, ac y mae genym wrth law amryw ddarluniau diweddar o honi, eto gwell oedd genym dalu am y copyright i Mackenzie na gwneyd defnydd o honynt.

ATHROFA'R IARLLES HUNTINGTON. Cymerwyd y darlun o'r adeilad dyddorol hwn allan o'r Evangelical Register am Ebrill yn y flwyddyn 1824, cyhoeddiad perthynol i Gyfundeb yr Iarlles. Gan y mynegir hanes yr adeilad yn yr amser priodol yn ngborff y gwaith hwn, nid oes eisiau ond crybwyll yn y fan hon, fod Athrofa yr Iarlles, ag Athrofa presenol y Methodistiaid yn Nhrefecca, yn ddau adeilad hollol wahanol, fel y gwelir oddi wrth y darluniau sydd yn addurno y benod hon. Saif Athrofa'r Iarlles ar dir Trefecca Isaf; daeth y tir hwn yn eiddo, trwy bryniad, i Thomas Harris, a disgynodd trwy etifeddiaeth ar ol ei ddydd ef, i Mrs. Hughes, unig ferch brawd hynaf Howell Harris, sef Joseph Harris. Ar ol marwolaeth yr Iarlles, symudwyd yr Athrofa i Cheshunt, ac aeth yr adeilad yn adfaeledig. Y mae bellach er ys blynyddau yn amaethdy, a gelwir ef yn "College Farm," ac y mae yn meddiant James P. W. Gwynne Holford, Ysw., o Buckland, yr hwn sydd yn disgyn