Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phrophwyd; ac yn ei holl rasau, ffydd, cariad, gostyngeiddrwydd, doethineb, mwyneidd-dra, a thosturi. "Teimlwn hwy," meddai, " fel rhan o honof fy hun; yr oeddwn yn foddlon bod yn arolygwr i wylio drostynt; ac yr oeddwn yn dra chartrefol gyda hwynt. Darostyngwyd hwythau hyd adref; deallent fod arnynt eisiau pob cymhwysder." Buwyd yn y capel hyd saith, yn ymdrin a gwahanol faterion; "ac yr oeddym oll yn cyduno ar bob peth," meddai Howell Harris. Awd gwedi hynny i'r tŷ; eisteddwyd i fynnu hyd gwedi deuddeg yn gorphen y gwaith, yn gosod pob un yn ei le, ac yn trefnu y Gymdeithasfa. "Yr oeddym yn llawn cariad," meddai Harris, "yn sicr, yr oedd yr Arglwydd gyda ni; o gwmpas dau, aethum i'm gwely yn hyfryd yn fy yspryd." Gwelir, os cafodd teimlad anniddig le yn ei fynwes y dydd blaenorol, ei fod erbyn hyn wedi diflannu yn llwyr; fod dylanwad yr Yspryd Glan wedi ei uno ef a'r holl frodyr ynghyd, fel y mae dau haiarn yn cael eu hasio mewn twym ias. Yr oedd rhyw fan bethau, pa fodd bynnag, heb eu llwyr benderfynu; a chyfododd y brodyr o gwmpas hanner awr wedi saith dydd Gwener, i orphen y trefniadau. "Erbyn deg," meddai Howell Harris, "yr oeddym wedi trefnu ein holl faterion, ac yn llawn cariad. O'r fath heddwch, doethineb, serch, a threfn a welir pan y rhoddir yr holl waith i ddwylaw yr Arglwydd!" Ymadawodd y nifer fwyaf tua chanol dydd, eithr arosod Harris a John Cennick i bregethu y noswaith honno. Cawsant odfa ryfedd. Sylw Harris yw: "Daeth Duw i lawr." Teimlai ei hun yn cael ei dynnu allan o hono ei hunan yn felus pan y pregethai Cennick; aeth ei gadwynau yn ddarnau; teimlai ei fod mewn byd newydd, byd o ryddid. Yr oedd yr effeithiau yn ddwysach pan yr aeth ef ei hun i lefaru. " Yr oeddwn fel yn yr amser gynt," meddai; " dangosais fod y rhai sydd yn meddu ffydd yn Nghrist yn gweled gogoniant yr Iesu, eu bod yn aros yn yr Yspryd, yn caru eu gilydd, yn meddu gwir zêl dros achos Duw; eithr eu bod yn myned allan o'r Yspryd yn fynych, fel plentyn gwedi myned dros drothwy y drws, yn cael ei hun yn ddiarwybod iddo yn mysg y cwn a'r moch, ond na faidd y creaduriaid hyn ddyfod i'r tŷ. Yn sicr, gwresogwyd llawer gan dan Duw. Yna aeth yn floedd yn mysg y dorf." Dyddorol yw deall na therfynodd y Gymdeithasfa gyntaf, mwy na degau o Gymdeithasfaoedd ar ei hol, heb arwyddion amlwg o'r Presenoldeb dwyfol. Ymadawyd ynghanol moliant a chan. Ac os oedd llethrau mynydd Caerphili, a dyffrynnoedd y Taf a'r Rhymney, yn adseinio y noswaith hono gan glodforedd y dorf a ddychwelai adref wedi yfed hyd at ddigon o felus win yr iachawdwriaeth, nid oedd ond canlyniad naturiol y dylanwadau a ddisgynnent yn ddibrin ar y lliaws a ymgasglasai ynghyd.

A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeithasfa, fel eu ceir yn llawysgrif Howell Harris: "[1] Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr cyhoedd; sef Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James (i fod fel y mae hyd nes y byddo ei amgylchiadau wedi cael eu trefnu), Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, a Thomas Lewis.

  • Cydunwyd fod Richard Tibbott i fod yn ymwelydd cyffredinol a'r seiadau.
  • Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr anghyoedd: James Williams, i ymweled a'r cymdeithasau yn Cayo, Talley, Llanfynydd, a Llangathen.
  • Morgan Hewes (felly y sillebir ei enw), Cayo, Lledrod, a Rhydfendigaid.
  • David Williams, Lledrod a Llanilar.
  • Price Thomas, Pontargamddwr a Charon.
  • John Powell, Defynog.
  • Wm. Evans, Llanddewi, Llandegle, a LIandrindock (Llandrindod?).
  • Howell Griffith, Llantrisant a Glynogwr.
  • Richard Thomas, Llanedern, ac i gynorthwyo yn Watford.
  • John Belsher, ymwelydd a'r brodyr sengl yn Watford.
  • Evan Thomas, Mynyddislwyn.
  • William Rice, ymwelydd a'r brodyr priod yn Watford.
  • Thomas Evans, i gymeryd gofal y pethau allanol yn Watford.
  • William Morgan, ymwelydd y gwŷr.
  • Henry Harris, i gynorthwyo y brawd Price.
  • Thomas Price, i gymeryd gofal Watford.
  • William Powell, i gymeryd gofal y seiadau yn ei dŷ.
  • Stephen Jones, Glasgoed a'r Goetre.
  • Thomas Lewis, Pentyrch a Newhouse.
  • Trevecca Minutes.