Yr Ogof/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod IX


VIII



LAWR yn Nyffryn Cidron modrwyai'r afonig o olau'r lloer i gysgod dail, o gysgod dail i olau'r lloer, gan dincial dros y cerrig. Ni synnai Joseff fod Othniel mor hoff o eistedd yng nghwr pellaf y berllan gartref a murmur y nant yn hyfrydwch i'w glustiau. Othniel druan! Ef wedi'r cwbl a oedd yn iawn am y Nasaread, a byddai clywed am ei ddal a'i ladd yn loes i'w galon. Ei ladd? Ie, oherwydd ni wnâi Pilat ond arwyddo'r warant yn frysiog ac ysgornllyd.

Rhyfedd i'r breuddwyd hwnnw fflachio fel proffwydoliaeth i feddwl Othniel! Nid oedd ei hiraeth am wellhad yn ddigon i egluro'r peth. Byth er pan ddychwelasai Elihu o'r Gogledd, am y Nasaread y meddyliai ac y siaradai Othniel; a phe gallai gerdded, gwyddai ei dad yr aethai i'w gynnig ei hun yn ddisgybl iddo, er na welsai mohono erioed.

Gwenodd Joseff ar loywder yr afonig oddi tano. Mab y Sadwcead cyfoethog yn ddisgybl i ryw . . .! I ryw beth? "Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr,"—clywai'r geiriau yn su'r afon ac yn siffrwd dail llwydion yr hen olewydd cnotiog o'i amgylch. Ar y bryn uwchben yr oedd llonyddwch enfawr y Deml, a thybiai y crwydrai'r geiriau drwy ei chynteddau a'i chlawstyrau a'i chysegroedd hi. Ymhlith y sêr, yn rhyddid holl ehangder y nef, nofiai llais y Nasaread ei hun: "Eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef." Darfu ac yna nid oedd ond telyn y nant a su'r dail.

Mab y Dyn. Cofiai Joseff yr edrychiad a chwiliai i guddleoedd ei enaid, gan chwalu ymaith bob rhagrith a ffuantwch. Cofiai hefyd yr urddas a wisgai'r Nasaread fel mantell pan droes i lefaru wrth y Sanhedrin. Oedd, yr oedd yr ystorïau a glywsai am hwn yn wir, bob un ohonynt, ac nid rhyfedd bod yr hen Elihu yn siarad amdano mewn islais dwys. Nid tipyn o saer o Nasareth oedd hwn. Nid rhyw benboethyn â'i feddwl yn llawn o syniadau gwyllt. Nid ymhonnwr yn mwynhau sylw a hynodrwydd. Hwn. . . Hwn oedd . . . Hwn oedd . . . y Crist.

Fel y deuai'r pedwar gair hyn i'w feddwl, sylweddolai Joseff fod sylfaen ei fywyd yn cael ei chwilfriwio. Buasai'i fyd yn esmwyth a difater, a throes ei ben yn awr i'r cyfeiriad lle gorweddai Arimathea a'i ystâd ffrwythlon ef ymhell dros y bryniau. Yno yr oedd tawelwch dibryder, cyfoeth grawnwin a ffigys ac olifaid, gweision a chaethweision at ei alwad, cysur a digonedd. Ond dywedasai'r llygaid tosturiol mai gŵr hunanol a rhagrithiol ydoedd, duwiolfrydig ond didduw, defosiynol ond digrefydd. Dywedent hynny'n huawdl, ond heb ei gyhuddo na'i farnu, gan losgi drwy bob ffug a rhodres. Gododd byddin o esgusion ym meddwl Joseff. Oni chadwai'r Sabath cystal ag un Pharisead? Cyn gynted ag y deuai, ar yr hwyrnos cyn y Sabath, sain utgorn yr hazzan o fur y synagog, darfyddai pob gwaith ar ei ystâd ef, a phan wawriai'r dydd sanctaidd nid oedd un teulu mor ffyddlon yn y Cwrdd â'i deulu ef. Ac onid ef a dalodd am godi'r synagog hardd yn Arimathea? Ac am yr arch o goed cedr lle cedwid memrynau'r Gyfraith? Onid ag ef yr ymgynghorai Rheolwr y synagog ynghylch pob gwasanaeth? Oni welodd y Sanhedrin yn dda, ddeng mlynedd yn ôl, i'w ethol ef yn aelod? Oni roddai i'w weithwyr a'i weision gyflog da a bwyd a chysur gwell nag a enillai neb yn unman arall yn y cylch? Onid oedd ei enw da yn ddihareb yng Ngogledd Jwdea? Oni fendithid ef gan dlodion a gweddwon ac amddifaid? Oni . . .?

"Onid tydi a aeth yn daeog at Gaiaffas?" meddai'r ffrwd wrth ei draed. Gwyliodd hi'n ymdroelli yng ngolau'r lloer, gan geisio rhoi ei holl sylw ar grychiadau arian ei dŵr. Ond ni fedrai. Gwelai eto lygaid unig y Nasaread a'i urddas rhyfeddol fel y safai tu allan i dduwch ffiaidd yr ogof. Aeth eto dros ddigwyddiadau'r praw ym mhlas Caiaffas, a mwyaf yn y byd y meddyliai amdano, mwyaf annheg y gwelai ef. Ni allai ddeall sut y gallodd ef eistedd yn dawel yn y Cyngor yn gwylio'r fath anghyfiawnder. I ddechrau, dim ond ym man cyfarfod y Sanhedrin, Neuadd y Meini Nadd yn y Deml, y gellid profi neb ar gyhuddiad yn haeddu angau: nid oedd ganddynt hawl o gwbl i gynnal y praw ym mhlas yr Archoffeiriad. Ac ordeiniai'r rheolau fod y praw i'w agor yn y bore, gan wahardd ei ddechrau yn y prynhawn heb sôn am y nos. Yna, ar ddiwedd y praw, ni ellid cyhoeddi'r ddedfryd, ond ei chadw'n ôl tan y dydd canlynol, gan roi amser i bob meddwl ailystyried yr holl dystiolaeth. Gwthiasai Caiaffas bob rheol o'r neilltu, yn benderfynol o gondemnio'r carcharor ar frys gwyllt. Ben bore yfory, ar yr awr gyntaf, cyfarfyddai'r Sanhedrin eto ym mhlas Caiaffas, yn fwy niferus a ffurfiol efallai y tro hwn, a byddai digon o dystion o blith y Cynghorwyr eu hunain i brofi bod y Nasaread yn euog o gabledd echrydus. Gallai Joseff ddychmygu'r hen Falachi â'i ddwylo i fyny mewn braw ac o'i gwmpas ddwsin o Phariseaid duwiolfrydig yn gwneud, fel Isaac, sŵn huawdl iawn yn eu gyddfau dwys. Yna, cyn ymgasglu o'r pererinion a gysgai hyd y bryniau tu allan i'r ddinas, cymhellid Pilat i arwyddo'r condemniad, a llusgai rhai o filwyr Rhufain y Nasaread ymaith i'w groeshoelio. A bu ganddo ef, Joseff o Arimathea, law fawr yn yr ysgelerder hwn.

Ond a allent hwy groeshoelio'r Crist? Cyflawnodd ef wyrthiau nerthol, gan roddi llygaid i'r deillion a chlyw i'r byddar, ac oni ddywedid iddo dynnu gŵr ifanc o Fethania o afael angau ei hun? Safai'n awr yn rhwym wrth golofn o garreg yn un o'r celloedd diffenestr dan blas yr Archoffeiriad, ond yn y bore troai'i rwymau'n llwch a chydiai parlys, dro, ym mreichiau plismyn y Deml a milwyr Antonia. Toddai pob cleddyf yn nwylo'r Rhufeinwyr; ysigai pob gwaywffon fel brwynen. A phan lifai'r pererinion i'r ddinas, gwaeddent "Hosanna!" ag un llef. Gwawriai dydd Iafe: safai yn eu plith "y Brenin a ddeuai yn enw'r Arglwydd." A sibrydai'r dail a'r afonig yn awr gân y Salmydd yng nghlustiau Joseff:

"Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
a aeth yn ben i'r gongl . . .
Dyma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd;
gorfoleddwn a llawenychwn ynddo!
Bendigedig yw a ddêl yn enw'r Arglwydd. . ."

Ac uwchben, ymhlith y sêr:

"Pwy yw hwn yn dyfod o Edom,
yn goch ei ddillad o Bosrah?

hwn sydd hardd yn ei wisg,
yn ymdaith yn amlder ei rym?
Myfi, yr hwn a lefaraf, mewn cyfiawnder
ac sydd gadarn i iacháu.
Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad
a'th wisgoedd fel un a sathrai mewn gwinwryf?
Sethrais y gwinwryf fy hunan,
ac o'r bobl nid oedd un gyda mi:
canys mi a'u sathraf hwynt yn fy nig,
ac a'u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd;
a'u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad,
a'm holl wisgoedd a lychwinaf.
Canys dydd dial sydd yn fy nghalon,
a blwyddyn fy ngwaredigaeth a ddaeth.
Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr;
rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr:
yna fy mraich fy hun a'm hachubodd
a'm llidiowgrwydd a'm cynhaliodd.
A mi a sathraf y bobl yn fy nig,
ac a'u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd:
a'u cadernid a ddisgynnaf i'r llawr.'

Cadernid Annas a Chaiaffas a'u lleng o ddilynwyr ariangar a droesai'r Deml yn "ogof lladron." Cadernid preswylwyr taeog Jerwsalem a besgai ym mhorfa fras y mynydd sanctaidd. Cadernid y Phariseaid a'u gwag ddefosiwn. Cadernid-ie, cadernid Sadwceaid moethus fel ef ei hun, a'u bryd ar fywyd esmwyth, digynnwrf ar bob cyfrif. Cadernid rhagrith, uchelgais annheilwng, pob twyll, pob malais, pob gormes. Yfory gwawriai Dydd Iafe, a chyn hir dylifai'r holl genhedloedd i syllu ar ogoniant Seion. Heno, y Crist unig a dirmygedig yn y gell dywyll; yfory. . .

Tybiai Joseff y gwelai wyneb Jwdas o Gerioth yn gwenu arno o loywder yr afonig, a'r llygaid o hyd yn eiddgar a sicr a buddugoliaeth yn eu trem. Nid er mwyn arian y bradychodd ef y Crist, yr oedd Joseff yn sicr o hynny. Ai ceisio prysuro dydd Iafe yr oedd? Ie, fe eglurai hynny ei holl ymddygiad ei gynllun parod, ei ddifrawder ynglŷn â'r wobr, ei olwg ffyddiog, ei gamau sicr wrth fyned ymaith. Ac yfory, pan ddatguddiai'r Crist ei allu a'i fawredd, byddai Annas a Chaiaffas yn plygu o flaen Jwdas o Gerioth ac yn erfyn am faddeuant iddo. Yfory.

Cododd Joseff oddi ar y boncyff lle'r eisteddai, a cherddodd, yn araf o dan yr hen olewydd, a'i sandalau'n dawel ar fwsogl y llawr. Ar y dde iddo, gloywai'r creigiau gwynion yng ngolau'r lloer, a gwnâi'r beddau, a naddwyd fel ogofau ynddynt, i Joseff gamu'n dawelach fyth. Ymhen ennyd oedodd wrth glawdd a gaeai ryw ugain o'r olewydd i mewn yn berllan. Mor dawel oedd y lle! Disgwyliasai weled amryw o bererinion yn cysgu o dan y coed, ond nid oedd yno neb nac un sŵn ond siffrwd y dail. Diferai arian y lloer drwy gangau'r pren nesaf ato, gan ffrydio'n batrymau cain ar y llawr islaw. Syllodd Joseff arnynt, gan wylio'u llewych yn troi'n dywyllwch dwfn wrth fôn y pren.

Aeth ias sydyn i lawr ei gefn. Gwelsai rywbeth neu rywun yn symud o dan y goeden, ac wrth i'w lygaid gyfarwyddo â'r gwyll, yr oedd yn sicr fod rhywun yn sefyll yno a'i bwys ar ei chyff. Torrodd ochenaid ddofn ar ei glust, ac yna gwelai bwy bynnag a oedd wrth y pren yn llithro i'r llawr ac yn curo'r boncyff yn wyllt â'i ddwylo, gan riddfan mewn ing. Tybiai Joseff hefyd fod geiriau yn gymysg â'r ocheneidiau, ond ni ddeallai un ohonynt.

Sylweddolodd ei fod wrth glawdd gardd Gethsemane, a gwelai draw ar y dde yr hen olew-wryf a roes ei enw i'r lle. Onid yma y dywedodd pennaeth y plismyn iddynt ddal y Nasaread? Ie, ac efallai mai un o'i ddilynwyr oedd hwn a dorrai'i galon wrth fôn y pren. Agorodd Joseff y glwyd fechan gerllaw, a dug y sŵn y griddfannwr yn gyflym o'r cysgod i olau'r lloer. Chwipiodd ei gleddyf o'r wain, a safai yno'n fygythiol rhwng y goeden a'r glwyd. Adnabu Joseff y rhegwr a welsai'n rhuthro ymaith o blas Caiaffas.

"Gweiniwch eich cleddyf, fy nghyfaill. Ni fwriadaf un drwg i chwi."

"Hy! Cyfaill!" Yr oedd ei dôn yn sarrug, ond er hynny, gwthiodd ei gleddyf yn ôl i'r wain.

"Ie, cyfaill, er bod yr urddwisg hon amdanaf. Un o ddisgyblion Iesu o Nasareth, onid e?"

Nid atebodd y dyn, dim ond codi'i ben yn herfeiddiol a chadw llaw fygythiol ar ei gleddyf.

"Un o ddisgyblion Iesu o Nasareth, onid e?" gofynnodd Joseff eilwaith.

"Pam y gofynnwch?" Siaradai'n araf a thawel a'i lais yn llusgo'n llidiog drwy'i eiriau. "Onid yw dal y Meistr yn ddigon i chwi? Beth a fynnwch yn awr?"

Gwelai Joseff o'i flaen un o'r dynion hynny a edmygai gymaint pan ddeuai i Jerwsalem yn hogyn gyda'i dad. Ie, pysgodwr o Lyn Galilea oedd hwn—gŵr araf ei leferydd, dwfn ei lais, llydain ei ysgwyddau, didwyll ei lygaid, ag ôl y tywydd ar ei wyneb onest. Ni thwyllai hwn mohonoch o ffyrling, ac os dilynai ryw arwr, âi drwy ddŵr a thân, drwy uffern ei hun, er ei fwyn. Nid ofnai hwn un perygl, a phe deuai'r galw

Cofiodd Joseff i'r Nasaread gael ei ddwyn ymaith yn unig a digyfaill i dŷ'r Archoffeiriad ac i'r gŵr o'i flaen haeru yng nghwrt y plas nad adwaenai ef mohono.

"Yr oeddwn i yn y Sanhedrin," atebodd yr un mor dawel. "Fe'i cafwyd yn euog o gabledd ac yn haeddu—marwolaeth." Tynnodd y dyn ei law oddi ar garn ei gleddyf, a nodiodd yn araf. Yna syllodd yn hir a syn i wyneb Joseff.

"Yr oeddych chwi, Syr, yn . . . yn. . . yn . . . yn erbyn hynny?"

"Oeddwn. Ond yr oedd yn amlwg fod pawb arall yn unfarn.'

"Beth a ddigwyddodd, Syr?"

"Nid oedd cysondeb ymhlith y tystion, a chredais wedyn fod y praw ar ben ac y gollyngid y Nasaread yn rhydd. Ond yr oedd Caiaffas"—dywedai Joseff enw'r Archoffeiriad rhwng ei ddannedd "yr oedd Caiaffas yn benderfynol o'i gondemnio. Gofynnodd iddo ai ef oedd y Crist, a phan atebodd, rhwygodd yr Archoffeiriad ei ddillad. Aeth yn gynnwrf drwy'r lle, a phoerodd y plismyn ac eraill yn wyneb y . . . y Crist."

"Y . . . y Crist? A ydych chwi'n credu—hynny, Syr?" "Ydwyf."

Bu distawrwydd rhyngddynt: chwiliai llygaid y pysgodwr wyneb Joseff am y gwir. Yna, fel petai'n fodlon ar yr hyn a ddarllenai ynddo,

"Beth a wnânt hwy ag ef, Syr?"

Tro Joseff oedd synnu yn awr, a chanfu'r pysgodwr yr olwg yn ei lygaid.

"Gwn beth sydd yn eich meddwl, Syr. Os ef yw'r Crist, yna gall ddifa'i holl elynion.'

"Ie. Yfory, bydd yn amlygu'i nerth ac yn eu hysgubo ymaith."

Ysgydwodd y Galilead ei ben yn araf.

"Ni ddigwydd hynny, Syr," meddai'n drist. "Droeon y proffwydodd hyn—y byddai ef farw. Neithiwr ddiwethaf, wrth fwyta'r Pasg gyda ni yn yr oruwch-ystafell yn nhŷ . .

Arhosodd, yn ansicr ac amheus.

"Tŷ Heman y Saer?"

Yr oedd llygaid y pysgodwr yn fawr gan syndod.

"Ie, tŷ Heman y Saer. Ond sut yn y byd . . ."

"Y gwyddwn i? Bwrw amcan yr oeddwn i. Gelwais yn nhŷ Heman y Saer echdoe i brynu dysglau ganddo, ac amheuais fod rhyw gysylltiad rhyngddo ef a'r Nasaread. Gwelais Jwdas o Gerioth . . . "

Tynnodd y pysgodwr anadl cyflym a rhoes ei law ar ei gleddyf.

"Gwelaf nad ydych yn hoff o'r Jwdas hwn."

"Gallwn ladd y dyn. Ond ewch ymlaen, Syr."

"Gwelais ef yn gadael y tŷ. Wedyn, pan euthum i gyfarfod yr Archoffeiriad yn y Deml ac wedi i'r dyn ifanc o Gerioth ddyfod o'n blaen.

"I fradychu'r Meistr, Syr?"

"Ie, i gynnig arwain y plismyn a'r milwyr ato . . . "

"Pe medrwn i roi fy nwylo ar y creadur . . . Arhosodd, yn methu â chael geiriau digon cryf.

"Gofynnais iddo beth a wnâi yn nhŷ Heman y Saer . . . "

"A fradychodd ef Heman hefyd?"

"Naddo. Dywedodd ei fod yn gyfeillgar â'r teulu a bod gwraig Heman yn un o Gerioth, ond gwyddwn mai casglu esgusion yr oedd."

"Diolch iddo am hynny. Yr ydym oll yn hoff o Heman a Mair ac o'u bachgen Ioan Marc, a phe dôi un drwg iddynt . . . " Yr oedd ei law ar ei gleddyf eto.

"Na phoenwch am hynny. Ni ddaeth cysgod o amheuaeth i feddwl yr Archoffeiriad."

"Y Meistr a yrrodd Jwdas i dŷ Heman y Saer—i roi arian iddo. I beth, ni wyddai un ohonom, ac ni wyddai Jwdas ychwaith. Tan y prynhawn ddoe. Yna danfonodd ddau ohonom, Ioan a minnau, i'r ddinas i baratoi'r Pasg. Ond nid oedd gennym syniad yn y byd i ble'r aem, Syr. Pan ddaethom i borth y ddinas, dyna lle'r oedd dyn, un o weision Heman, ag ystên ar ei ysgwydd. Anaml iawn y gwelir dyn yn cario ystên, a phur anfodlon oedd gwedd hwn wrth wneud gwaith merch. Dilynodd Ioan a minnau ef i dŷ Heman i baratoi'r Pasg. A neithiwr, pan fwytaem,

Hwn yw fy nghorff,' meddai'r Meistr wrth dorri'r bara, a Hwn yw fy ngwaed,' wrth roddi'r cwpan inni. Na, Syr, nid difa'i elynion a wna'r Meistr yfory, ond . . . ond . . . "

Gŵyrodd ei ben ag ochenaid fawr. Yna cododd ef yn sydyn a ffyrnig.

"Pe cawn i afael yn y Jwdead melltigedig 'na—a begio'ch pardwn, Syr—mi a'i tagwn â'r dwylo hyn. Ac yn llawen." Daliodd ei ddwylo allan, gan gau'i fysedd yn fygythiol. Gwyddai Joseff nad casineb tuag at Jwdas yn unig a oedd yn y frawddeg, ond holl ddirmyg y Galilead tuag at wŷr Jwdea. Gwelodd y pysgodwr yr hanner-gwên ar ei wyneb.

"Rhaid i chwi faddau i mi, Syr. Gwn mai gŵr o Jwdea ydych, ond ni fuasai hyn wedi digwydd yn y Gogledd. Petaech chwi'n gweld y miloedd a oedd yn dilyn y Meistr yng Ngalilea Pobl gyffredin, efallai, Syr, ond cafodd Jerwsalem ryw syniad o'u brwdfrydedd hwy y dydd o'r blaen. 'Welsoch chwi'r orymdaith pan farchogodd y Meistr ar ebol asyn i'r ddinas, Syr?"

"Naddo, ond clywais amdani."

"Dyna'r bobl i chwi! A gwae i Gaiaffas pe meiddiai roi llaw ar y Meistr pan oeddynt hwy o gwmpas y ddinas a'r Deml! Na, yr oedd yn rhaid iddo gael aros tan y nos, aros nes eu bod yn cysgu hyd y bryniau yma, cyn gyrru'i blismyn yn llechwraidd i'w ddal. Dyna beth a aeth i waed y Jwdas 'na."

"Yr orymdaith?"

"Ie, Syr. Ef a oedd wrth ben yr ebol asyn, ac edrychai fel petai'n meddwi'n lân yn sŵn yr 'Hosanna!' Bu'n Selot mawr ar un adeg, cyn dyfod atom ni, a gwelwn yr hen wylltineb yn ei lygaid wrth iddo arwain yr ebol drwy'r dyrfa.

"Y golau hwnnw a welais innau ynddynt pan ddaeth i'r Deml."

"Ie, y mae'n debyg, Syr. Er i'r Meistr ein rhybuddio ddegau o weithiau nad eistedd ar orsedd Dafydd oedd ei fryd. A phob tro y soniai am Jerwsalem, tristwch, nid dyhead, a oedd yn ei lais. Ond er na ddywedai hynny, daliai Jwdas i hiraethu am i'r Meistr ei gyhoeddi'i hun yn Frenin. Unwaith, ar ôl inni fod ar daith bregethu, aethom gyda'r Meistr i chwilio am dipyn o dawelwch ac i ddweud yr hanes wrtho. I ffwrdd â ni ar draws congl uchaf y Llyn yn fy nghwch i ..

"Yr oeddwn i'n amau mai pysgodwr oeddych."

"Ie, Syr, pysgodwr—Simon fab Jona, Simon Pedr.' Gwenai'n hiraethus wrth lefaru'r ddau enw olaf.

"Y Meistr a roes yr enw' Pedr' imi, Syr. Ym Methabara, y tro cyntaf imi ei weld ef."

"Pedr—Y Graig'!"

"Ie, Syr. A chofiaf mor falch oeddwn i pan ddywedodd ef hynny. Ond sôn yr oeddwn i amdanom yn croesi'r Llyn, onid e?"

"Ac am Jwdas."

"Ie. Wel, dyna ni'n croesi congl uchaf y Llyn i chwilio am lonyddwch, ac ar ôl inni rwymo'r cwch wrth y lan, i ffwrdd â ni i fyny'r llethr, pob un ohonom yn dyheu am ddweud hanes ei daith wrth y Meistr. Ond wedi inni eistedd, digwyddais edrych dros y llyn a gwelwn rywbeth a edrychai fel cwmwl hir yn symud hyd fin y dŵr a thros Ryd Iorddonen."

"Pobl?"

"Miloedd ohonynt, Syr, yn ein dilyn ni. Cyn hir yr oedd cannoedd yn rhuthro i fyny'r llethr tuag atom gan weiddi, "Meseia!" "Brenin!" "Hosanna!" a phethau tebyg. Digwyddais edrych ar wyneb Jwdas. Yr oedd ei lygaid ar dân, ac anadlai'n gyflym fel petai yng ngafael rhyw gyffro mawr. Y mae'n debyg bod golwg gyffrous ar bob un ohonom ni, ond yr oedd ef ar fin colli arno'i hun a gweiddi gyda'r dyrfa. Wedi i'r Meistr dawelu'r bobl, fe iachaodd lawer ohonynt ac yna fe safodd ar graig i bregethu. Yr oedd pawb yn gwrando'n astud arno, Syr, ac yn clywed pob gair a ddywedai, er bod tua phum mil ohonynt ar y llethr ac i lawr at fin y llyn. Ar ôl iddo orffen llefaru a gweld bod pawb yn cael bwyd cyn troi tuag adref. . .

"Bwyd? I bum mil o bobl?"

Gwenodd Joseff yn anghrediniol ar y pysgodwr.

"Yr oedd hynny'n hawdd, Syr—i'r Meistr. Yr oedd wedi pregethu wrthynt am wasanaeth a chymwynasgarwch a charedigrwydd. Wel, dyma ryw fachgen yn ei ymyl yn tynnu pum torth haidd a dau bysgodyn o'i ysgrepan ac yn dechrau eu rhannu â'r rhai o'i gwmpas. Gwenodd y Meistr arno a'i fendithio, a chyn hir yr oedd pob un a ddaethai â bwyd gydag ef yn ei rannu â'i gymdogion. Mwy na digon i bawb, Syr. Ac yna fe droes y bobl yn ôl hyd fin y llyn gan ryfeddu.'

"A Jwdas?"

"Gyrrodd y Meistr ni'r disgyblion tua'r cwch i hwylio'n ôl i Gapernaum, gan y dymunai ef ddringo'r bryn i fyfyrio a gweddïo. Hefo Jwdas y cerddwn i i lawr y llethr ar y dŵr. Hy, dyna golli cyfle gwych!' meddai wrthyf. Pe'i cyhoeddai'i hun yn Frenin ger bron y dyrfa acw, fe godai'r bobl drwy holl Galilea a thrwy'r rhan fwyaf o Jwdea hefyd.' 'Gwnaent, y mae'n debyg, Jwdas,' meddwn innau. Ond nid dyna gynllun y Meistr, mae'n amlwg.' 'Wyddoch chwi beth a ddywedodd ef wedyn, Syr?"

"Beth?"

"A wyt tithau'n llwfrgi, Simon Pedr?' gofynnodd imi. I mi, Syr! Oni bai i Andreas fy mrawd ddod rhyngom, fe fuasai Jwdas o Gerioth tros ei ben yn y Llyn. Mi rown i 'lwfrgi' iddo heno hefyd pe cawn i afael ynddo!" Yr oedd ei law ar ei gleddyf eto.

"Na." Ysgydwai Joseff ei ben yn drist. "Y mae'n ddrwg gennyf fi drosto. Yr wyf yn sicr y disgwyliai i'r Crist ddangos ei awdurdod a'i nerth. A lle bynnag y mae ef heno, y mae'n dyheu am y bore a Dydd Iafe. Ac er gwaethaf yr hyn a ddywedwch . . ."

"Na, Syr, os hynny hefyd a gredwch chwi, nid ydych yn deall y Meistr. Neithiwr ddiwethaf, ar ôl i Jwdas fynd ymaith o dŷ Heman, y dwedodd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch am fy mod yn myned at y Tad.' Ac wythnos yn ôl, pan oeddym ar ein ffordd tua Jericho, fe alwodd y deuddeg ohonom ato. Ni welais i erioed mohono'n edrych mor drist, mor siomedig, â'r diwrnod hwnnw. Yr oedd Salome, mam dau ohonom ni, wedi crefu arno am i'w meibion, Iago ac Ioan, gael eistedd un ar ei law ddeau a'r llall ar ei law aswy yn y Deyrnas. I ddweud y gwir, Syr, yr oedd pob un ohonom yn siarad felly—yn ddistaw bach wrth ein gilydd. Gwyddem fod cannoedd yn ein disgwyl yn Jericho. A thu draw i Jericho Jerwsalem. Nid oeddym yn deall y Meistr o gwbl, Syr."

Edrychodd i fyny tua'r Deml gydag ochenaid, ac ysgydwodd ei ben. Disgleiriai'r lloer ar berlau'r dagrau yn ei lygaid.

"Yr oeddym fel plant, Syr—yn eiddigus o'n gilydd ymgiprys am y lle blaenaf. A phan alwodd y Meistr ni ato, gwelem fod rhyw ofid mawr yn llethu'i ysbryd. Ond nid oedd yn ddig wrth siarad â ni. Llefarodd yn dawel a charedig ond gan roi pwys ar bob gair. Pwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith,' meddai, bydded yn was i chwi.' Yna edrychodd yn hir arnom cyn chwanegu, Megis na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roddi'i einioes yn bridwerth dros lawer.' Yr oedd yn ddifrifol iawn, ond 'wn i ddim faint ohonom a oedd yn sylweddoli ystyr y geiriau, Syr. Nid oeddwn i, beth bynnag. Gwrthodwn eu credu am nad oeddwn am eu credu. Daliwn i obeithio y codai pobl Jericho a Jerwsalem fel un gŵr o'i blaid ac yr unai holl bererinion y Pasg â'i gilydd i'w gyhoeddi'n Frenin yna, yng nghanol y brwdfrydedd i gyd, efallai, meddem wrth ein gilydd, y newidia'r Meistr ei feddwl . . .'

"A defnyddio'i allu?"

"Ie, Syr. Ond pan ddaethom yma i Jerwsalem, yr oedd yn dawel a thrist bron bob dydd. Fel petai rhyw gwmwl yn hongian trosto. Ac echdoe yn y Deml, wedi iddo'i dweud hi'n hallt am yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, daeth rhyw Roegiaid atom. Yr oeddym wedi sylwi arnynt droeon ac ar eu hwynebau eiddgar wrth iddynt wrando ar y Meistr. Groegiaid, Syr, nid Iddewon yn byw yng Ngroeg. Yr oedd hi'n bleser gweld yr edmygedd yn eu llygaid. Tybed a ddôi'r Meistr i Roeg a phregethu yn Athen a Chorinth? meddent wrth un ohonom. Wrth Philip o Fethsaida, yr hen bentref bach lle magwyd fi, Syr. Galwodd Philip Andreas fy mrawd, ac aeth y ddau at y Meistr i ddweud bod y Groegiaid am ei weld. Goleuodd ei wyneb mewn llawenydd, ac am ennyd mi gredais i . . . " Ysgydwodd ei ben, gan wenu'n dawel.

"Ei fod am ei ddatguddio'i hun?"

"Ie. 'Daeth yr awr y gogonedder Mab y Dyn,' meddai wrth frysio at y Groegiaid i siarad â hwy. Yr oeddym ni'r disgyblion wrth ein bodd. 'Os ydyw Jerwsalem am ei wrthod, Simon,' meddai Andreas fy mrawd wrthyf, fe fydd Groeg yn ei dderbyn.' Ond pan aethom ato ef a'r Groegiaid, yr oedd y tristwch wedi llithro'n ôl i'w lygaid. Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, hwnnw a erys yn un gronyn,'-dyna a glywem. Eithr os bydd efe farw, efe a ddwg ffrwyth lawer. Yna edrychodd o amgylch y Deml gyda pheth dirmyg, yr oeddwn i'n meddwl-ac wedyn dros ei muriau draw tua'r Gogledd. Yr oedd golwg hiraethus yn ei lygaid, ac yr wyf yn sicr y gallai weld yr hen Lyn a'i gychod wrth y lan a'r bobl yn tyrru hyd y llethrau i lawr at fy nghwch i pan bregethai ef ohono. Ac yr wyf yn sicr y gallai weld fy mwthyn i a'r ffenestr fach lle'r eisteddai weithiau hefo'm gwraig a'i mam i wylio'r pysgodwyr ar fin y Llyn. Yna cododd ei olwg tua'r nefoedd a dweud, Yr awr hon y cynhyrfwyd fy enaid. A pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon? Na, oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon! A neithiwr yn nhŷ Heman. . .

Tawodd, gan syllu ar y llawr, a'i ysgwyddau'n grwm dan faich ei bryder. Ymddangosai i Joseff fel darlun o anobaith, fel ymgorfforiad o dristwch. Yna cododd ei lygaid tua muriau'r ddinas uwchben a chaeodd ei ddyrnau'n ffyrnig.

"Jerwsalem," meddai rhwng ei ddannedd. "Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a ddanfonir atat!' Geiriau'r Meistr, Syr, geiriau'r Meistr. Echdoe yn y Deml." Syllodd eto ar y llawr gan ddweud ddwywaith, fel un â'i feddwl ymhell, "Echdoe yn y Deml, echdoe yn y Deml." Yna, gan godi'i ben yn sydyn, "Syr?"

"Ie, Simon Pedr?"

"A ydych chwi'n gyfeillgar â'r Archoffeiriad?"

"Yr wyf newydd ffraeo ag ef. A hyd yn oed pe bawn i'n un o'i ffrindiau pennaf, ni wrandawai arnaf heno. Y mae'n benderfynol o ladd y . . . y Meistr."

"Beth am y Sanhedrin, Syr? Efallai fod modd i chwi . . . "

"Eu perswadio i droi yn erbyn Caiaffas? Pe credwn fod rhyw obaith o hynny, cychwynnwn y munud yma i weld pob un ohonynt. Ond . . . Ysgydwodd Joseff ei ben, gan gofio'r wynebau llidiog o'i amgylch pan frysiodd yr hen Falachi ymlaen i boeri yn wyneb y carcharor.

"Beth a fedrwn ni ei wneud, Syr? Beth a fedrwn ni ei wneud?"

"Rhoddwn fy holl ystad a'm cyfoeth i gyd am allu taro ar gynllun. Ond ni welaf oleuni yn unman. Yr unig obaith.." Tawodd, yn ansicr.

"Ie, Syr?"

"Yw'r pererinion. Yn enwedig y rhai o Galilea."

Ysgydwodd Simon Pedr ei ben.

"Na, Syr. Hawdd fyddai gyrru'r newydd iddynt, i lethrau a chopa pob bryn, a gwn y rhuthrent fel byddin tua Jerwsalem. Ond ymhell cyn iddynt gyrraedd y ddinas byddai'r milwyr Rhufeinig yn y pyrth yn eu haros. Fe leddid cannoedd, Syr. Ac ni fyddai Pilat yn fodlon ar hynny. Fe groeshoeliai ugeiniau, yn wers i'r holl wlad. Na, Syr, ni roddai'r Meistr ei fendith ar gynllun felly."

Hoffai Joseff y pysgodwr cywir a syml hwn, ac arhosodd yn hir gydag ef yno yn nhawelwch yr Ardd. Aethant dros yr un tir dro ar ôl tro, Joseff yn dal i fynegi'r dyhead am i'r Crist ddangos ei awdurdod a'i nerth a Simon Pedr yn cofio rhybuddion eraill a roesai'i Feistr i'w ddisgyblion, ac yna'r cri, Beth a fedrwn ni ei wneud, Syr?' yn torri'n ddisyfyd o'i enau. Curo â dwylo noeth ar fur o farmor yr oeddynt.

"Syr?" meddai'r pysgodwr, wedi iddo lawn sylweddoli hynny.

"Ie, Simon Pedr?"

"Efallai fod gan y lleill ryw gynllun. Y disgyblion eraill. Andreas fy mrawd ac Ioan a Philip a'r lleill.'

""Wyddoch chwi ymh'le y maent?"

"Na wn, yn iawn. Y mae'n debyg bod rhai wedi dianc i Fethania. 'Wn i ddim. Ond yr wyf yn siŵr fod amryw yn nhŷ Heman y Saer. Dowch yno hefo mi, Syr. Bydd Ioan yno, yr wyf yn sicr o hynny, ac efallai iddo ef ddwyn rhyw newydd o blas yr Archoffeiriad."

"O blas yr Archoffeiriad? eich gweld chwi yn y cwrt."

Nodiodd y pysgodwr yn araf.

Yr oeddwn i'n meddwl imi

"Ie. Ac efallai i chwi glywed fy llais, Syr?"

"Wel . . . "

"Na, peidiwch ag ofni fy nghyhuddo, Syr. Teirgwaith y gwedais i'r Meistr yno."

"Sut y cawsoch chwi fynd i mewn i'r cwrt?"

"Yr oedd Ioan yn adnabod rhai o'r morwynion—wedi arfer mynd â physgod i'r plas ers talm. Fe gymhellodd un ohonynt i adael i minnau ymuno ag ef wrth y tân. Pan ddiolchais iddi, adnabu fy acen ar unwaith a dweud fy mod i'n un o ddilynwyr y Meistr. Yr oedd yn rhaid imi wadu, Syr, yr oedd yn rhaid imi wadu. Yr oeddwn i yno i geisio helpu'r Meistr, Syr, a phe bawn i wedi cyfaddef fy mod i'n ddisgybl iddo, buasent wedi fy nal a'm rhwymo. Nid ofni hynny yr oeddwn i, Syr, ond gwybod na fedrwn i wneud dim i drio achub y Meistr wedyn. Yr oedd yn rhaid imi wadu, Syr."

Siaradai'n gyflym, ag apêl yn ei lais, gan gau ac agor ei ddyrnau'n wyllt.

"Yr wyf yn sicr fod y . . . y Meistr wedi maddau i chwi." "Do, mi wn i hynny. Y trydydd tro imi ei wadu, digwyddais edrych i fyny'r grisiau tua'r Neuadd, a dyna lle'r oedd y plismyn a'r tystion a'r . . . a'r Meistr. Fe edrychodd arnaf fi, Syr. Bydd yr edrychiad hwnnw'n fy nilyn holl ddyddiau fy mywyd. Siaradai'i lygaid yn huotlach nag unrhyw eiriau."

"Gan edliw i chwi?"

"Hoffwn pe gwnaethent hynny. Proffwydasai neithiwr y gwadwn i ef deirgwaith cyn y bore, a disgwyliwn weld ei lygaid yn fy nghyhuddo ac yn dweud, 'Dyna ti, Pedr! Yr oeddwn i'n iawn, onid oeddwn?' Ond yn lle hynny, yr hyn a ddywedent oedd, Pedr, Pedr, oni chofi mai ti yw'r graig yr adeiladaf fy eglwys arni?""

Gwelai na ddeallai Joseff a brysiodd ymlaen i egluro.

"Yng nghyfeiriad Cesarea Philipi yr oeddym ni un diwrnod, Syr. Wedi dianc yno am dipyn o dawelwch ac o gyrraedd ysbïwyr Herod. Ar ôl inni roi hanes ein teithiau drwy Galilea iddo, dyma'r Meistr yn gofyn,' Pwy y mae dynion yn dweud wyf fi?' Ioan Fedyddiwr,' meddai un; Elias, meddai un arall; Jeremias,'" meddai'r trydydd. Ac felly ymlaen, gan enwi cewri mwyaf y gorffennol. Yna fe droes atom a gofyn, Ond pwy, meddwch chwi, ydwyf fi?' Pawb yn edrych ar ei gilydd, Syr, heb fod yn sicr beth i'w ateb. Ond fe wyddwn i fod y Meistr yn fwy na neb o'r dyddiau gynt. Ti yw'r Crist, Mab y Duw byw,' meddwn i, gan blygu o'i flaen. Yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti,' meddai'r Meistr yn dawel, ond â rhyw lawenydd mawr yn ei lais, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern ni orchfygant hi.' Cesarea Philipi, Syr! Oddi yno y troesom ni'n hwynebau tua Pherea a Jericho—a Jerwsalem, ac o'r pryd hwnnw y dechreuodd y Meistr sôn am ei ddiwedd. Hy, craig!"

Gwenodd yn chwerw, gan daflu'i ben a cherdded o amgylch yn anesmwyth.

"Neithiwr ar ôl imi ei wadu," chwanegodd ymhen ennyd, "nid tosturio nac edliw yr oedd ei lygaid, ond galw arnaf i fod yn gryf a chadarn, i fod yn Graig.' Edrychodd ennyd ar batrymau'r lloer wrth ei draed cyn hanner-sisial yn ffiaidd, "Craig? Tywod! Sofl! Gwellt!"

"Nage, Pedr. 'Craig' a ddywedodd y Meistr."

Gododd y pysgodwr ei ben a syllodd yn hir i wyneb Joseff.

"Ie," meddai'n dawel. "Ie . . . Dewch, Syr.

Dringodd y ddau o Ddyffryn Cidron a chroesi'r bryn islaw'r Deml tua Seion a thŷ Heman y Saer. Pan ddaethant at glwyd y cwrt, gwelent fod golau gwan yn yr oruwch-ystafell.

"Dowch ar fy ôl i, Syr. Nid oes angen inni guro.

Aethant i fyny'r grisiau wrth fur y tŷ a rhoes Simon Pedr dri chnoc araf ar ddrws yr oruwch-ystafell ac yna ddau gnoc cyflym ymhen ennyd. Agorwyd y drws gan ŵr ifanc barfog a thebyg iawn i'r pysgodwr.

"Simon!"

"Andreas!"

Yr oedd yr ystafell yn hanner-dywyll, heb ddim ond un lamp fechan wedi'i goleuo. Taflai honno lewych ansicr ar ryw bymtheg o wynebau pryderus; taflai hefyd gysgodion anesmwyth ar y muriau a'r nenfwd. Brysiodd gŵr ifanc glân ond gwelw at Simon Pedr.

"Rhyw newydd?"

"Rhyw newydd?"

Daeth yr un frawddeg o enau'r ddau yr un pryd.

"Dyma Ioan, Syr," meddai Pedr wrth Joseff. "Yr oedd ef a minnau yng nghwrt plas Caiaffas yn ystod y praw. Beth a ddigwyddodd ar ôl imi adael, Ioan?"

"Dim o bwys. Aeth y plismyn â'r Meistr i lawr i un o'r celloedd. Mi ddois i'n syth i dŷ Heman. Y mae'r Sanhedrin yn cyfarfod eto yn y bore. Ar yr awr gyntaf. Cawsant y Meistr yn euog o gabledd."

"Do, mi wn. Yr oedd fy nghyfaill, y Cynghorwr. Joseff o Arimathea, yno. Aeth yno i gondemnio'r Meistr, ond daeth ymaith yn credu mai ef yw'r Crist."

Safai Heman y Saer gerllaw.

"A oes gennych chwi ryw gynllun, Syr?" gofynnodd yn eiddgar.

"Yr unig obaith a welaf fi, Heman, yw ein bod yn casglu'r pererinion ynghyd o'r bryniau ac yn..

"Na, Syr." Ysgydwodd Heman ei ben yn araf. "Nid yw dyrnau noeth ac ambell gleddyf fel un Simon Pedr 'ma o un gwerth yn erbyn y Rhufeinwyr. A gwn y byddai'r Meistr yn ddig wrthym pe rhoem y fath gynllun ar waith. Na, Syr . . . A ellwch chwi ddim dylanwadu ar y Cynghorwyr, Syr? Y mae llawer ohonynt yn wŷr dwys a meddylgar, ac efallai . . . Ni orffennodd Heman y frawddeg: gwelai'r anobaith yn wyneb Joseff.

"Af yn gynnar i'r Llys a siaradaf â phob un y credaf fod rhyw siawns imi ddylanwadu arno, ond . . . gwn ymlaen llaw na wrandawant arnaf."

Syllodd Joseff yn drist ar wynebau llwydion y gwŷr a'r gwragedd o'i flaen. O, na allai ddwyn llewych o obaith i'w llygaid! Wrth ei ochr yr oedd y bachgen Ioan Marc a'i wyneb gwelw'n un erfyniad mud. Rhoes ei fraich yn dyner am ysgwyddau'r llanc, ond ni ddywedodd ddim wrtho: beth a oedd i'w ddweud?

"Yn ei wely y dylai Ioan Marc fod, Heman," sylwodd Simon Pedr.

"Ie. Ac yn ei wely y credwn i ei fod pan aethoch chwi a'r Meistr ymaith neithiwr. Ond heb yn wybod i neb fe drawodd liain amdano a'ch dilyn."

"I b'le?"

"I ardd Gethsemane. Ac fe'i daliwyd gan y plismyn."

"O?" Edrychai Simon Pedr yn herfeiddiol.

"Do, ond fe ddihangodd, gan adael ei wisg yn eu dwylo. Rhedodd adref yn noethlymun."

Llithrai golau cyntaf y wawr drwy ffenestr yr ystafell: canai ceiliog draw ymhell ac un arall yn nes: deffroai'r adar. O dŵr Antonia galwai'r utgyrn Rhufeinig y milwyr i ymwregysu am y dydd. Cododd pob un yn yr ystafell wyneb ofnus tua'r nenfwd, fel pe i wylio'r sŵn yn crwydro yno dan y trawstiau. Pob bore a phob hwyr, dywedai'r utgyrn pres mai Rhufain a oedd ben. "Cesar yw teyrn y byd," cyhoeddent o'r tŵr uwchlaw'r Deml sanctaidd. Yn gras a haerllug—nid yn glir a swynol fel utgyrn arian y Deml. Heddiw, yr oedd mynas lond eu sŵn. "Meseia?" meddent. "Brenin yr Iddewon? Nid oes brenin ond Cesar. Ac os baidd neb hawlio awdurdod ond ei awdurdod ef, yna .

Ciliodd y sŵn. Edrychai pob llygad yn awr ar Joseff. Pobl syml a chyffredin oeddynt, ac yr oedd gweld ei urddwisg ysblennydd yn eu plith yn ennyn gobaith ynddynt. Byddai ef yn sicr o achub y Meistr, meddent wrthynt eu hunain: byddai'r Cynghorwyr yn siŵr o wrando arno ef.

Ni allai Joseff ddioddef y taerineb yn eu llygaid hwy. Troes tua'r drws gan frysio ymaith i lwydni oer y wawr.

Nodiadau[golygu]