'R wy'n morio tua chartref Nêr,

Oddi ar Wicidestun
'R wy'n morio tua chartref Nêr,

gan William Williams, Pantycelyn

466[1] Ymdrech a Gweddi'r Cristion.
M.C.

1 'R WY'N morio tua chartref Nêr,
Rhwng tonnau maith 'r wy'n byw;
Yn ddyn heb neges dan y sêr
Ond 'mofyn am ei Dduw.

2 Mae'r gwyntoedd yn fy nghuro'n ôl,
A minnau 'd wyf ond gwan,
O ! cymer, Iesu, fi yn dy gol,
Yn fuan dwg fi i'r lan.

3 A phan fo'n curo f'enaid gwan
Elynion rif y sêr,
Dyrchafa f'ysbryd llesg i'r lan
I fynwes bur fy Nêr.

4 Na bo gwrthwynebiadau'r byd,
Na chroesau o un rhyw,
Yn f'oeri, nac yn sugno 'mryd
Un awr oddi wrth fy Nuw.

—William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 466 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930