Achau Wiliam Fychan, Siambrlen Hen

Oddi ar Wicidestun

gan Rhys Goch Eryri

Dwyn bonedd dan ei bennwn,
Wiliam iôr waywlym a wn,
Hwyl uniawn o'i ddawn a'i dda,
Hyder oedd, hud ar Adda.
Ac fal hyn, myn Duw gwyn gwir,
Da iach ryw, y dechreuir:
Wiliam yw, barddlyw beirddlawr,
Fab Gwilym didawl mawl mawr,
Fab Gruffudd, llew gwaywrudd llym,
Gwaladr Gwyndyd fab Gwilym,
Fab Gruffudd, tŵr cythrudd caith,
Dewrgyrch, fab Gwilym deirgwaith,
Fab Heilin roddwin rwyddwalch,
Fab Tudur benadur balch,
Fab Ednyfed, lwyddged law,
Fychan, gwnaeth i Eingl feichiaw,
Fab Cynfrig yn lle trigawdd,
Fab Ierwerth, Duw nerth dy nawdd!
Fab Hwfa benn' o'r byd,
Hoywfaeth, fab Gwgan hefyd,
Fab Uchdrud glew edryd glân,
Fab iawn uthr, fab Eneithian,
Fab Cadrod, mae'r rhod yn rhydd,
Cylch ei faner Calchfynydd,
Fab Lleiddawd bragawd briwgaer,
Fab Marchudd cledd awchrudd claer,
Fab doeth, fab caredig dâl,
Fab diofnog, fab Dyfnwal,
Fab Ednyfed ddawnged dda,
Fab Cain oedd, fab Cunedda,
Fab Edyrn, fab Padarn fyw
Peisrudd, eryr hapusryw,
Fab difrad gariad geirioel,
Diau fab Cenau fab Coel,
Fab Tegfan, frwydr Gamlan gynt,
Fab da hy, fab Dyheuwynt,
Fab greddf aeth, iarllaeth orlludd,
Fab Mael, un afael a Nudd,
Fab Brân, fab Tegyd, bryd bro,
Fab ugain cyrch, fab Iago,
Fab Câr, caredig, fab cu,
Fab Cain, fab Gwrgain garwgur,
Fab Doli, ail Ddewi ddis,
Fab Gwrddoli, gerdd ddilis,
Fab Dwfn, fab Gorddwfn gerddawr,
Fab Awryd am wryd mawr,
Fab Afallach iach uchel,
Fab Afled, naws ced nis cêl,
Llwm ei grwst, fab llym ei graidd,
Fab hafog brwydr fab Hyfaidd,
Fab Grwst ryd greulyd ei ron,
Fab cur aeth, fab Careithion,
Fab Maedd mawr hyd yn awr nawn,
Fab Antonus hynt uniawn,
Fab Rhiwallon dawn dymyr,
Fab Rhagaw ferch loywserch lŷr,
Fab Bleiddud, un sud a Sieb,
Fab Brutus, a'n pair ateb
Ar briffordd orau briffwnt,
Ysgwyd hir i esgid hwnt,
Fab Brutus, fab Silfus hen,
Fab Eneias yn nien,
Ysgithr lwybrsaig draig a drig,
Ysgwydwyn is y goedwig,
Fab Ancieses, a'n llesai,
Fab Capis, tegwch mis Mai,
Fab Asaracus a fu,
Fab Troes, fyntumiwr Iesu,
Fab Ericonus a farn,
Bôr ceidwad, bu ŵr cadarn,
Fab Dardanus credusair,
Fab Siwbiter cryfder crair,
Fab Satwrn croyw ymswn cryf,
Fab Solas beirdd, fab Selyf,
Fab Sebreinus, gweddus gân,
Fab syw ieithydd, fab Sythan,
Fab Siaffeth difeth dyfiad,
Fab Noe hen, deg lawen dad,
Fab Lameth, bu bregethwr,
Fab Mathusalem, gen gŵr,
Murmur drum uwch marmor draidd,
Fab Enog, bu fabanaidd,
Fab Seth difeth diofer,
Fab Addaf, Duw Naf fy Nêr!