Neidio i'r cynnwys

Addoliad, mawl a bendith

Oddi ar Wicidestun
Mae carcharorion angau Addoliad, mawl a bendith

gan Charles Wesley


wedi'i gyfieithu gan William Owen Evans
Un a gefais imi'n gyfaill
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Charles Wesley

181[1] Gwaredwr Hollalluog
84. 84. 8884.

1 ADDOLIAD, mawl a bendith
A chlod a rown i'r Iesu :
Fe'n unig yw ein noddwr gwiw,
Pan gyfyd llu i'n drygu.
Yn llon y tystiwn iddo,
Cryf ydyw i waredu;
A chadarn yw addewid Duw
Mai Ef sydd i deyrnasu.

2 Waredwr hollalluog,
Rhown iti aberth moliant;
Ein Ceidwad mawr, Tydi yn awr
A gei yr holl ogoniant.
 braich dy oruchafiaeth
Y'n dygaist o'n halltudiaeth:
Ti biau'r hawl i'n clod a'n mawl,
O! Dduw ein iechydwriaeth.


3 Dy fraich a'n dug yn ddiogel
Drwy ffordd oedd mor nodedig
A'r ffordd drwy'r môr a dorraist, Iôr,
I'th bobol etholedig.
D'ogoniant mawr a'n cuddiodd,
Dy law fu yn ein coledd,
Ac wele ni, 'n ôl mynd drwy'r lli,
Yn ymdaith mewn gorfoledd.

4 Ti, Iesu, a orchfygaist
Y byd a malais Satan;
Trwy ras y nef dyrchafwn lef
Mewn mawl i Ti, ein tarian.
Gorchfygwn yn dy nodded,
Gan dderbyn gras y nefoedd;
Ac am dy ddawn dy foli wnawn,
A'th ganmol yn oes oesoedd.

Charles Wesley,
cyf. William Owen Evans


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 181, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930