Adenydd colomen pe cawn

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Adenydd colomen pe cawn

gan Thomas William

Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion

389[1] Golwg o ben Nebo.
88. 88. D.

1 ADENYDD colomen pe cawn,
Ehedwn a chrwydrwn ymhell;
I gopa bryn Nebo mi awn,
I olwg ardaloedd sydd well :
A'm llygaid tu arall i'r dŵr,
Mi dreuliwn fy nyddiau i ben,
Mewn hiraeth am weled y Gŵr
Fu farw dan hoelion ar bren.

2 'Rwy'n tynnu tuag ochor y dŵr,
Bron gadael yr anial yn lân ;
Mi glywais am goncwest y Gŵr
A rydiodd yr afon o'm blaen;
Fe dreiglodd y maen oedd dan sêl,
Fe gododd y Cadarn i'r lan;
Mi a'i caraf Ef, deued a ddêl.
Mae gobaith i'r truan a'r gwan.


—Thomas William, (1761—1844)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 389, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930