Adgofion Andronicus/'Steddfod Fawr Llangollen
← Robat y Go' | Adgofion Andronicus gan John Williams Jones (Andronicus) |
Hen Sasiwn Plant → |
STEDDFOD FAWR LLANGOLLEN.
FARMWR bychan ydw i, o'r enw Benjamin Dafis, yn byw mewn cwmwd rhamantus rhwng rhai o fryniau mynydd mawr y Berwyn, yr hwn sydd fel clawdd terfyn rhwng broydd Meirion a Maldwyn. Pan oeddwn i y dydd o'r blaen yn hel y defaid i'r mynydd ar ol cael eu cneifio-mae gen i rhyw bedwar cant o ddefaid-ac y mae nhw yn edrych yn lân ac yn neis iawn 'rwan, mae nhw wedi tynu oddi am danynt siwt y gauaf, a'r llythyrenod pitch " B.D." wedi eu stampio ar yr ochr dde iddyn nhw. Mae gen i lon'd y sgubor o wlân yn disgwyl am i'r dyn o Yorkshire ddwad i'w brynu o, ac wed'yn, mi fydd hwnw yn ei werthu i'r ffatrwrs, a'r rheini yn ei werthu o i'r maniffatrwrs, ac wed'yn mi fyddwch chitha' yn myn'd i'r siopau i brynu'r brethynau. Wel, dene ddigon am amaethyddiaeth a "gwlanyddiaeth." Fel y dywedais i ar y dechre, pan oeddwn i yn myn'd a'r defaid i'r mynydd, ac un o bapyrau C'narfon yn fy mhoced, mi ddarllenais am yr Eisteddfod fawr sydd i fod yno yn mis Gorphena' pan y bydd y Prins o Wales yno, ac mi ddaeth rhyw deimladau rhyfedd drosta i, mi gofiais ddiwrnod
'STEDDFOD FAWR LLANGOLLEN.
Mae jest i ddeugain mlynedd er hyny, wel, y mae un-ar-bymtheg ar hugain. Cerdded ddarfu mi dros y mynydd. Yr oeddwn yn bedair ar hugain oed, ac heb erioed fod noson oddicartref, a llawer llai, ddim wedi bod yn agos i 'Steddfod erioed; ond yr oeddwn wedi darllen llawer am 'Steddfode yn yr Hen Amserau a'r Herald bach. Y Smere fydde yr Hen Ffarmwr yn ddeyd; ie, hen foi iawn oedd yr Hen Ffarmwr, y fo ddysgodd bolitics i "Gymru Dywyllaf," ac mi ddysge bolitics a chrefydd i "Cymru Sydd" a "Chymru Fydd hefyd, da nhw yn ei ddarllen o; ac y mae digon o honyn nhw i'w cael yn holl shiope y wlad, ac os nad oes gyrwch i Lerpwl at y Llyfrbryf.
Wel, gwnes fy meddwl i fyny i fyn'd, a phan ddudes i wrth yr hen bobl, y gwarchod pawb dyma hi yn dowydd mawr,
Medde nhad: "Wel, Benjamin bach, ddylies i erioed y cawn i weled y dydd y byddai fy unig anedig fab yn meddwl am fyn'd i le mor halogedig a 'Steddfod. Fase well gen i, Benjamin bach, dy weled di yn yr hen fonwent yna; ond mi fydda i yni yn union deg os wyt ti am ddechre myn'd i 'Steddfode, a mi ddoi a'm penllwydni i'r bedd yn fuan iawn."
Mam: "Yma ti, Shon, yr ydw i yn meddwl dy fod di yn cymeryd y peth yn ormod at dy galon. Rhaid i ti gofio mai rhyw fath o 'Sasiwn' ydi yr Eisteddfod; ond mi weles i, yn yr Amsere ne yr Herald bach, fod yno 'Seiat y Beirdd' i fod, ac ydi o ddim yn rhywle drwg iawn os oes ono 'seiat,'Shon bach."
Tad: "Wel, os wyt ti yn deud hyny, Mari bach, pob peth yn dda. Wel dos, Benjamin, a chymer ofal beidio yfed cwrw Llangollen. Mae arian yr hen fuwch wine yn hosan dy fam yn yr hen gwpwr pres yn y siambar, dos yno, a chymer hyny o arian sydd arnat ti eisio."
Mam: "Cofia, Benjamin, fyn'd i 'Seiat y Beirdd,' a dywed dy brofiad ono; os bydd rhai o'r gwinidogion yn gofyn i ti ddyweyd rhywbeth, adrodd dipyn o adnode o Lyfr y Pregethwr.'
Benjamin: "Wel, nhad a mam bach, rhaid i chi ddim ofni am dana i, mi gymra i ddigon o ofal o hona 'nhun, da fo ddim ond o barch i chi, a phwy wyr na chai i wobr ono. Yr ydw i wedi gyru 'Bugeilgerdd' ono er's dau fis, ac yr ydw i wedi son yni am bob hwrdd a hesbwrn sydd a rhywbeth ynyn nhw, yn enwedig y ddau hen hwrdd fydd yn cornio eu gilydd bob dydd. Y mae nhw wedi rhoddi llawer o flinder i mi."
Daeth nhad a mam i'm danfon at lidiart y mynydd, dan fy nghyngori a pheri i mi ddwad adre nos Sadwrn am fod Joseph Thomas, Carno, yn pregethu yn ein capel ni. Ar ol ffarwelio â'm tad a'm mam, y tro cynta 'rioed—fu mi ddim noson oddi cartref o'r blaen yn fy mywyd—'roedd hi wedi myn'd yn galed iawn ar yr hen wraig; ac yr oedd rhyw lwmp yn fy ngwddw ine, a'm llygaid yn llawnion iawn. Pan yr oeddwn wedi myn'd rhyw ganllath, troais fy mhen yn ol, a dyna lle yr oedd fy nhad a'i bwyse ar y llidiart, a mam a'i ffedog gingam las a gwyn wrth ei llygaid, a dyma hi yn gwaeddi nerth ei phen, "Cofia fyn'd i Seiat y Beirdd, Benjamin anwyl."
CYRHAEDD LLANGOLLEN.
Medi 20fed, 1858, oedd y diwrnod bythgofiadwy i mi fynd i'r 'Steddfod gynta'. Y bobl anwyl, fu y fath fflagie? Yr oedd fflag yn mhob ffenest, ac ar ben pob coedyn. Yr oedd yr hin yn braf, a pheth ofnadsen o bobl ono, a phawb yn ei gneyd hi am y babell. Wel 'doedd hi ddim llawn cymaint a Pafilion C'narfon, ond mi 'roedd hi yn ddychrynllyd o fawr. Tales swllt am fyn'd i mewn, a bobol bach, weles i 'rioed le mor grand. Yr oedd y lle wedi ei wisgo efo dail a banere, a lot o enwe mawr wedi eu printio efo hen drioedd ac arwyddeiriau Cymreig, megys "Y gwir yn erbyn y byd," "A laddo a leddir," ""Oes y byd i'r iaith Gymraeg," "Heb Dduw, heb ddim; Duw a digon." Pan welais yr olaf, meddwn wrtha fy hun, Mae hi yn o dda yma, os do'nt a'r geiriau hyny yma. Mae mam yn o agos i'w lle."
PWY WELAIS ? PWY GLYWAIS?
Gan mai hon oedd fy 'Steddfod gyntaf, yr oeddwn yn awyddus iawn i adnabod pob bardd, pob llenor, a phob dadgeiniad, ac yn enwedig y telynorion a'r canwyr penillion. Daethum i gydnabyddiaeth â rhai o honynt, a gwnaethum gyfeillion gyda rhai a barhaodd am lawer o flynyddau, yn wir, hyd y symudwyd hwy gan yr angeu. Gwelais lawer yno y tro cyntaf a'r tro olaf hefyd ran hyny. Gwalchmai oedd prif fardd y 'Steddfod; yr oedd ef y pryd hyny yn agos i driugain oed, ac y mae heddyw yn fyw, iach, a heini. Yr oedd yno hefyd Alltud Eifion, yn gweu ei benillion fel y bydd Eifionydd yr oes oleuedig hon. Un arall sydd yn fyw ag a gymerodd ran bwysig yn Eisteddfod 1858 ydyw fy hen gyfaill anwyl Llew Llwyfo, ac fe ddymunwn o'm calon gael ysgwyd palf "yr hen Lew am unwaith eto. Yr oedd yno hefyd Eos Llechid, mae yntau yn fyw, ac yn cadw mewn hwyliau Eisteddfodawl. Yno y clywais Llew yn canu "Morfa Rhuddlan" yn hwyliog dros ben. Carwn ei glywed eto. Dyma yr Eisteddfod gyntaf i Edith Wynne ganu ynddi; ac fe ddywedodd y Llew yr amser hono y byddai y gantores ieuanc yn anrhydedd i Gymru rhyw ddydd, ac felly y bu.
Yn mhlith y rhai a hunasant oeddynt bresenol yn Eisteddfod Llangollen, cawn enwau Caer Ingil, Ab Ithel, Cynddelw, Glasynys, Ceiriog, Taliesyn o Eifion, Idris Vychan, Pererin, Cadifor, Eos Iâl, a'r Estyn yn fywiog fel y gôg. O, ie, ac Owain Alaw yn gwefreiddio y bobl efo'r berdoneg, ac yn canu "Mae Robin yn swil," a darnau ereill. Mae llu ereill wedi myned yr ochr draw, nas gallaf eu cofio ar ol cynifer o flynyddoedd.
CADEIRIO'R BARDD.
Wel, o bob peth, dyma oedd yr atdyniad mwyaf i mi i'r Eisteddfod, ac felly y mae i mi hyd y dydd heddyw, ac felly y bydd yn Eisteddfod Caernarfon eleni, pob parch i'r Tywysog a'i hoff briod. Anghofia i byth mo'r olygfa, am mai dyma y tro cyntaf i mi weled dim o'r fath. Ar ol i'r beirdd gymeryd eu lle ar alwad Corn Gwlad o amgylch ogylch y Gadair, dyma Ab Ithel yn darllen beirniadaeth Hiraethog, Nicander, a Chaledfryn ar destyn y Gadair, sef "Maes Bosworth." Nid oedd y beirniaid yn cytuno. Pryd y gwelsoch chwi hwy yn gwneyd hyny yn gydwybodol? Mynai dau mai "Rhys Penarth" oedd y goreu, tra y daliai y llall mai arall oedd y goreu. Felly, "Rhys Penarth" a orfu. Da i mi mai llencyn talgryf oeddwn, yn mesur chwe' troedfedd a dwy fodfedd heb fy nghlocs, neu gobaith gwan fuasai i mi wel'd y "cadeirio;" oblegid yr oedd pawb yn estyn eu gyddfau fel gwyddau. Ond pe buasai genyf wddf fel Giraffe, ni welswn y bardd a enillodd y Gadair; oblegid yr oedd ef y pryd hyny yn dysgu hogie i fyn'd yn bregethwyr yn Nghlynnog Fawr yn Arfon. Glywsoch chwi erioed son am Eben Fardd? oblegid efe ydoedd y bardd cadeiriol yn 1858. Do, mi glywodd pob Cymro trwy'r byd am Eben Fardd, ac os na chlywsoch, rhag cywilydd i chwi. Pwy na chlywodd am gadeirfardd Eisteddfod Powys, yn Trallwm, 1824? a chadeirfardd y Gordofigion yn Lerpwl, 1840? Am nad oedd "Eben" yn Llangollen, yn 1858, chefais i fawr iawn o hwyl efo busnes y cadeirio cyntaf i mi weled. A dyma gynghor henafgwr i bobl Caernarfon, os oes modd yn y byd, mynwch gael y Bardd Cadeiriol ei hunan yn y Gadair neu fe golla y dyddordeb i'r rhai fyddant yn bresenol.[1]
Y RHIANGERDD.
Nid oedd y beirniaid yn cydweled gyda golwg ar y buddugol eto; mynai dau mai "Tudor" oedd y goreu, a mynai y llall mai "Myfenydd" oedd y goreu; ond y mwyafrif a orchfygodd yn ol "defawd a braint," a chafodd "Myfenydd" honourable mention, Pan alwyd ar Tudor yn mlaen, gwelwn fachgen ieuanc o'n hardal ni yn cerdded yn mlaen at yr esgynlawr, a bu agos i mi waeddi dros y lle "Well done, John." Edrychai yn wylaidd, a gwridai fel meinwen wrth gael cusan gan ei chariad. Enw, enw, enw," llefai canoedd yn y dorf, a dyma Gwalchmai yn gofyn am osteg, ac yn gofyn i'r llanc am ei enw, ac yna gwaeddai mai John Ceiriog Hughes, o Fanchester, oedd y buddugwr. Bu agos i minau waeddi nerth fy mhen, "Na, y ni yn yr ardal acw sydd yn hawlio John bach." Glywsoch chwi son am dano fo, lanciau Eryri? Do, do; mae'n siwr nad oes nemawr un ohonoch nad ydych wedi treulio llawer o "Oriau Hwyr" gyda Cheiriog, ac "Oriau Eraill" o ran hyny; ac os na ddarfu i chwi, gwnewch yn ddioed. 'Does dim llyfrwerthydd yn eich hardaloedd nad allant eich helpu i wneyd hyny. Ni raid dyweyd wrth ddarllenwyr craff a darllengar yr ADGOFION hyn mai arwr ac arwres rhiangerdd Ceiriog ydyw Hywel a Myfanwy, a bod dwy galon ar y Beithinen a "Myfanwy yn nghanol un galon, a Hywel yn nghanol y llall." Do, fe glywodd pob Cymro trwy'r byd am Ceiriog anwyl. Glasynys oedd "Myfenydd," ac nid rhaid dyweyd fod ei riangerdd yntau yn dda.
SEIAT Y BEIRDD.
Yr oeddwn yn methu yn lân a dyfalu yn mha le y cynhelid "Seiat y Beirdd." "Yn y capel Methodist, yn siwr i chwi, chwi," meddai gwraig y ty login, "achos dyna fydda nhw yn ddeyd. 'Cwrdd' ddywedwn ni, y Sentars; ac y mae gwraig y ty nesa' yma yn perthyn i'r Wesle', ac i'r class y bydd hi yn myn'd. Wn i ar wyneb y ddaear be ddywed y Batus, rhyw gyfrinach grefyddol' ne rwbeth fyddan nhw yn ddeyd." Ond i wneyd yn sicr, aethum at rhyw ddyn weles i ar hen Bont Llangollen, un o saith ryfeddodau Cymru, wyddoch chi. Mi nes yn siwr mai Methodis oedd o; yr oedd yn dal ei ben yn gam, ac yn edrych yn athrist. Ond Annibynwr oedd o; a'r achos ei fod o yn edrych mor athrist oedd am ei fod o wedi treio gwneyd englyn i "Gastell Dinas Bran," ac wedi ei gyru hi i'r gystadleuaeth, a rhywle tua'r "hen ganfed" oedd o ar restr yr ymgeiswyr, a rhyw swnian canu yr Hen Ganfed yr oedd o pan aethum ato. Fodd bynag, bu mor garedig a dyweyd wrthyf mai yn "Mhabell y Cyfarfod" y cynhelid "Seiat y Beirdd," am saith o'r gloch (fel pob "seiat" arall). Ar ol i mi ro'i coler lân a gofalu nad oedd un blewyn yn troi ar i fyny ar fy nhalcen, ymaith a fi i'r "seiat," gan ddisgwyl cael gwledd grefyddol. Yr oedd cynulleidfa lled gryno wedi dyfod yn nghyd, ond dim llawn cymaint a'r "Seiat Fawr" yn Hengler's Circus, Sasiwn y Sulgwyn. Pan darodd cloc yr Eisteddfod saith, cododd un o'r gweinidogion i roddi y mater i lawr, heb ganu, darllen, na gweddio, yr hyn a'm synodd yn fawr. Y mater ydoedd y priodoldeb o gael gan y frawdoliaeth i ddefnyddio y llythyren "v" yn lle "f," ac "f" yn lle "ff," rhag gwastraffu llythyrenau y wyddor a rhoddi trafferth diangenrhaid i'r argraphwyr. Y mae Eisteddfodwyr bob amser yn hynod o ofalus rhag rhoddi trafferth i'r argraphwyr !!!
Y mater arall oedd y priodoldeb o gael gair i sefyll dros y neuter gender. Wydde neb beth oedd y gair Cymraeg, Peth hyll iawn, meddai un o frodyr y seiat, ydi deyd y "fo" am fwrdd, a "hi" am gadair, neu y "fo" am y pocar, a "hi" am yr efail; y "fo" am bren, a "hi" am gareg. Cafwyd tair awr o ymdrafodaeth anmhwyllog, a methwyd a dyfod i benderfyniad, a therfynwyd y cyfarfod—nid trwy weddi —ond trwy—wel, tawn a son. Y mae dyddiau "Seiadau y Beirdd," fel dyddiau llawer o bethau ereill mewn cysylltiad â'r Eisteddfod, yn mhlith y pethau a fu, a heddwch i'w llwch.
TROI ADRE.'
Arhosais yn Eisteddfod Llangollen o'i dechre i'w diwedd, a bore ddydd Sadwrn gwnes fy mhac i fyny—'doedd hwnw fawr,—telais fy mil, a 'doedd hwnw fawr chwaith. Yr oeddwn wedi myn'd a thorth haidd, bara ceirch, darn o gosyn bychan mewn waled, a phwys o fenyn fresh a llun dafad arno,—dyna oedd ein preint ni. Wel, yn nghadach poced sidan fy nhad yr oedd rhywbeth arall, a be ddyliech chi oedd hwnw? O! yr hen fam anwyl oedd wedi rhoddi fy Meibl bach yno, rhag ofn i mi fyn'd i fy ngwely heb ddarllen penod fel y byddwn yn gwneyd bob amser gartref, ac ydw i byth wedi stopio gwneyd, a stopiai byth tra y medr yr hen lygaid yma wel'd, a phan y bydda nhw wedi pylu mae un o'r hogia yma yn ddigon parod i wneyd hyny drosta i. 'Doedd fy arian fawr lai, a dim mwy, oblegid ni enillais wobr o gwbl. Lle prysur oedd hi y bore hwnw yn Llangollen—pawb yn troi adre' mewn cerbydau, ar feirch, ac ar eu traed. 'Doedd dim stesion yn nes na Rhiwabon. Cefais ddigon o amser i feddwl ac i synfyfyrio ar y ffordd adref. Yr oeddwn yn teimlo yn falch o gael fy hunan mewn unigedd wrth droedio y Berwyn ar y ffordd adref. Yr oedd brefiadau y defaid, "pi-witiad" ansoniarus y cornchwiglod yn llawn mwy swynol i mi na dwndwr y seindyrf pres, a thawelwch unigedd y Berwyn yn fwy hudolus i mi na thrwst yr Eisteddfod Genedlaethol. Paham? Wel, am fy mod yn nesau at fy mro enedigol, ac yn cael anadlu awyr iach y bryniau.
Fel y nesawn at fy nghartref codais fy llygaid a gwelwn fy mam yn sefyll wrth lidiart y mynydd yn disgwyl am danaf; gwelodd hithau finau a chychwynodd i'm cyfarfod. Ond yr hen gi defaid oedd y cyntaf i'm croesawu: yr oedd ef wedi llamu dros y llidiart, ac yn dipyn ieuengach na'r hen fam, ac yn llawer mwy chwim ei droed. Rhoddodd mam ei breichiau am fy ngwddf a dywedai, "Benjamin anwyl, chysgais i yr un wincied er's pan es ti i ffwrdd; wyt ti yn siwr dy fod di wedi bod yn 'Seiat y Beirdd,' machgen i?"
Gyda hyn dyma fy nhad yn dyfod atom: yr oedd wedi clywed cyfarthiad croesawol y ci defaid.
"Ge'st ti wobr, Benjamin?" gofynai fy nhad.
"Ddo'st ti a chader, neu goron, neu dlws arian adre', ne rwbeth? Ddaru ti yfed llawer o gwrw Llangollen?"
Naddo, 'nhad, dim un dyferyn, a 'does gen i na chader na thlws, na choron chwaith.
"Hidia ddim, 'machgen anwyl i," gwaeddai fy mam; "hidia ddim yn eu cadeiriau, eu tlysau aur, na'u coron; wyt ti ddim wedi yfed cwrw, ac yr wyt ti wedi bod yn 'Seiat y Beirdd.' Bendigedig, a diolch byth, yr wyt ti wedi dwad adre' a dy goron ar dy ben. Tyr'd i'r ty, Benja bach, mae'r uwd yn barod yn y crochan, a llon'd powlen o lefrith newydd ei odro ar y bwrdd yn disgwyl am danat."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ysgrifenwyd hwn cyn yr Eisteddfod.