Neidio i'r cynnwys

Adgofion am John Elias/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod IX

PENNOD VIII.

JOHN ELIAS YN GWEINYDDU SWPER YR ARGLWYDD.

YR ydym y waith hon yn myned i weled a chlywed Mr. Elias wrth y bwrdd cymundeb yn gweinyddu Swper yr Arglwydd, ar ol y bregeth nos Sabbath. Y mae ef wedi pregethu, gydag effeithioldeb mawr, ar offeiriadaeth Crist, oddi wrth y testyn:—"O blegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw?" Manylodd lawer, yn ei ddarluniad o waith yr archoffeiriad dan yr hen oruchwyliaeth—yr hanesion a rydd y Rabbiniaid Iuddewig am yr anner goch berffeithgwbl—y defodau perthynol i lanhâd y gwahanglwyfus, &c., fel cysgodau o waith Archoffeiriad mawr ein cyffes ni; yn nghyd â'i anfeidrol ragoroldeb, o ran ei Berson, ar Aaron a Moses, ac o ran ei aberth ar yr aberthau cysgodol; yn nghyd â thra—rhagoroldeb yr oruchwyliaeth newydd ar yr hen, &c. Yr oedd y bregeth yn cario dylanwad effeithiol iawn ar yr holl dorf fawr oedd wedi ymgynnull yn yr hwyr ar ddydd yr Arglwydd, fel yr oedd pob peth yn cydgyfarfod i wneyd y gweinyddiad o'r ordinhâd yn hynod o effeithiol y pryd hwnw. Ciliai y gwrandawyr i'r oriel: ni allai neb fyned allan cyn gorphen gwasanaeth y cymundeb—yr oedd pawb megys wedi eu rhwymo i aros. Yr oedd y rhai oedd yn cyfranogi yn cael eu cyfleu ar ganol y llawr, rhwng y meinciau; ac yr oedd golwg ddymunol iawn ar y gynnulleidfa oll.

Yr oedd Elias yn bleidgar iawn dros i bawb dderbyn yr elfenau oddi ar eu gliniau: ni allai oddef bod eisteddleoedd ar ganol llawr yr addoldai; dewisai gael y llawr yn glir bob amser, er gosod meinciau, fel y gellid cael lle i'r cyfranogwyr yn rhesi rhyngddynt. Y dull arferol oedd i un o'r blaenoriaid ei ganlyn ef, gyda y bara a'r gwin, i gyflenwi fel y byddai efe yn myned yn mlaen.

Y mae pob peth yn barod at ddechreu y gwasanaeth. Y mae yr eglwys a'r edrychwyr yn y teimladau mwyaf dymunol, gan effeithiau y bregeth. Y mae y pregethwr hefyd yn ei fan goreu, ac yn ei hwyl oreu; fel y mae pob peth yn rhagarwyddo y ceir cyfarfod hynod iawn. Y mae pawb wedi cymmeryd eu lle. Y mae dystawrwydd y bedd dros yr holl addoldy. Diau y clywsid trwst deilen yn ysgwyd, pe buasai yno, gan y gosteg, gyda'r eithriad o ambell ochenaid led ddystaw oedd yn dianc o waelod calon weithiau. Y mae y bwrdd wedi ei barotoi. Y mae Elias yn eistedd wrth yr ochr, â phwys ei benelin ar yr ymyl, a’i ben ar ei law, ac ychydig o arwyddion lludded arno wedi ei bregeth egnïol. Y mae pob peth o amgylch y bwrdd yn blaen, yn ddysyml, a diaddurn iawn; ond eto y mae yna ryw fath o brydferthwch dymunol ar bob peth. Y mae yn wir nad oes yna mo'r brethyn crimson, wedi ei ymylu â'r gold gimp fringe, ac nid oes un I. H. S. mewn llythyrenau o aur pur, na llun y groes mewn gwaith edau a nodwydd ar y canol; ond beth er hyny, y mae yna lïan glân, cànaid, a hwnw mor wyned a'r eira, wedi ei daenu dros y bwrdd. Y mae yn wir nad oes yna mo'r flagon uchel, na'r chalice addurnedig; ond gadewch i hyny fod, y mae y poteli gwydr duon cyffredin sydd yna yn edrych yn bur deg ar y llian claerwyn acw. Diau nad oes yna mo'r meiliau caboledig i serenu llygad neb, eto y mae y cwpanau china bychain yna yn edrych yn lân ac yn ddengar iawn. Gwir yw, nad oes yna mo'r dysglau wedi eu gwisgo ag aur melyn, mwy na'r fasged arian dan y bara; ond eto, er hyn i gyd, y mae rhai cyffredin sydd yna i'w gweled yn lân ac yn ddymunol iawn. Os nad oes yna ganwyllau cŵyr dwy lath o hyd, a dwy fodfedd o drwch, y mae yna ganwyllau gwer glân, goleu, a siriol iawn yr olwg arnynt. Os nad oes yna yr un glustog o'r melfed pali ysgarlad i benlinio arni, y mae yna fat Niwbwrch bychan, newydd, glân, a etyb yr un dyben yn union. Os nad oes yna nemawr o wychder mewn dim, efallai fod yna aberthau Duw, sydd yn ganmil mwy o werth; sef calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig, y rhai ni ddirmygir byth gan Frenin y nef! Er nad oes un cerfiad henafiaethol ar y ford na'r gadair, i swyno teimlad neb. eto y mae yna "ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd" i gyflawnu y gwasanaeth. Y mae yn codi ar ei draed. Fel y mae bobl yn gwyro, y mae efe yn ymddangos yn uwch na phawb, a braidd yn dalach nag arferol. Y mae yr olwg arno yn hynod o hoff. Y mae yma ryw beth yn dyrchafu pawb i ryw deimladau tra chyssegredig—yr edrychwyr yn gystal a'r cymunwyr—a hyny yn hollol ddiarwybod iddynt eu hunain! Y mae y gweinyddwr yn meddu boneddigeiddrwydd gwŷr y llys; medd dynerwch dillyn menyw; medd wroldeb cadfridog yr un pryd. Y mae rhywbeth ennillgar yn mhob ysgogiad a wna. Y mae yn sicr o'i nôd gyda phob peth bob amser. Wel! y mae yn dechreu ar ei orchwyl. Y mae yn galw sylw y dorf at y bwrdd, ac yn cyfeirio â'i fys at yr elfenau sydd arno. Y mae yn dywedyd:—" Yn awr, yr ydym yn myned i wneuthur coffadwriaeth o angeu Crist, mewn ufudd—dod i'w orchymyn, ac o barch i'w ddymuniad: 'Gwnewch hyn er coffa am danaf,' &c.! Hyderwn y cawn fod yma dan arwyddion o’i foddlonrwydd."

Pan yr oedd ar ddechreu ei anerchiad, safodd yn fud ystyriol am tua hanner mynyd, gan edrych yn dra difrifol ar y dorf i gyd, i fyny ac i lawr. Yr oedd â'i edrychiad ryw fodd yn gallu ennill teimladau y bobl i gyd—darawiad â'i deimladau ei hun. Yna aeth rhagddo—"Chwi a gedwch yr eich myfyrdod y sylwadau a draddodwyd genym yn barod, am y cyssegr, yr offeiriad, yr aberth, y gwaed, a'r gwasanaeth gynt, yn nghyd â'r hyn a osodid allan ynddynt, yn eu cyfeiriad at y sylwedd mawr ei hun. Yr oeddym yna yn ceisio dangos Crist i'r galon trwy y glust; yn awr, yr ydym yn amcanu ei bortreiadu i'ch meddwl trwy olwg y llygad. Dywed yr apostol fod Iesu Grist wedi cael ei bortreiadu o flaen llygaid y Galatiaid—wedi ei groeshoelio; bydd ein hamcan ninnau yn awr, i arwain eich meddwl chwithau i edrych trwy ffydd arno yn marw dros bechaduriaid ar Galfaria, drwy y portreiad a welwch o hono yn awr ar y bwrdd. Yr wyf fi er ys meityn dan yr argraff nad yw yr Arglwydd yn neppell oddi wrthym o ran arwyddion ei foddlonrwydd heno. A wnewch chwi uno mewn gweddi i gyd, am i'r lleni oll gael eu symmud ymaith, fel y gwelom ei ogoniant y tro hwn yn neillduol? Nid wyf yn meddwl am gael ei weled, fel y gwelodd y dysgyblion ef ar fynydd. y gweddnewidiad, â'i wyneb yn dysgleirio yn oleuach na'r haul ganol dydd, a'i wisg yn wynach na'r eira; ond ei weled yn ei ogoniant trwy ffydd—'gogoniant megys yr Uniganedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd'—nes ein codi i'r un teimladau a hwy pan y gwaeddasant allan, ‘Da yw i ni fod yma!'

"Nid oes ond y teimladau mwyaf cyssegredig yn gweddu i fod yn mhob mynwes wrth nesu at y bwrdd sanctaidd. Nid oes ond un teimlad i feddiannu calonau pawb yma. Un bara—un cwpan ydym. Ni oddef awyr y lle sanctaidd hwn i fynwes neb anadlu ynddo ond a fyddo mewn teimlad o berffaith gariad at Dduw a dyn. Y defnyddiau gweledig ydynt fara yn cael ei dori, a gwin yn cael ei dywallt, fel arwyddion o fendithion ysbrydol. Yr hyn a arwyddoceir yn y gwrthddrychau ydyw, drylliad corff Crist, a thywalltiad ei waed drosom. Y mae yr holl weithredoedd sacramentaidd hefyd yn llawn o addysgiadau i ni. Y mae ein gwaith yn bendithio yn dangos ein rhwymau i fendithio Duw am anfeidrol fawredd darpariadau ei ras yn nhrefn iachawdwriaeth; estyniad y bara yn dangos parodrwydd Duw i estyn trugaredd i bechadur edifeiriol; a'n gwaith yn derbyn y bara yn dangos ein bod yn cymmeradwyo trefn Duw, ac yn derbyn Crist yn ei holl haeddiant fel ein hunig obaith am ein bywyd byth!

"Y mae y cwbl i gael eu cyflawnu genym mewn coffadwriaeth parchus am dano. Yr ydym i gofio amser sefydliad yr ordinhad. Y mae pob peth perthynol iddi yn hynod iawn; felly yr amser—yr adeg y cafodd ei sefydlu, sef y nos y bradychwyd ef. O! y fath nos ryfedd ydoedd hono! 'Canys mi a dderbyniais gan yr Arglwydd,' medd yr apostol, 'yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara,' &c. Yr oedd hyn yn uniongyrchol ar ol bwyta y Pasc. Prin yr oedd bwyta y Pasc drosodd, nad oedd bwyta Swper yr Arglwydd yn dechreu. Pa bryd y bu hyn? Y nos y bradychwyd ef. Yr oedd y naill megys yn cymmeryd lle y llall, fel y mae bedydd wedi cymmeryd lle yr enwaediad. Yr oedd y Gwaredwr wedi dewis y nos y bradychwyd ef i'w sefydlu, am ei fod y pryd hwnw fel yn noswylio oddi wrth ei lafur cyhoeddus. Yr oedd wedi dywedyd, 'Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd; y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.' Yr oedd ei nos ef wedi dyfod erbyn hyn. Yr oedd yr haul wedi machludo am y tro diweddaf ar ei ben glân; o blegid ar y dydd canlynol, yr oedd i gael ei draddodi yn gyhoeddus i ddwylaw ei elynion i'w groeshoelio a'i ladd. Nos ei ddyoddefiadau mawr oedd hon. Oes o ddyoddefiadau oedd ei fywyd, ond erbyn hyn yr oedd holl ffrydiau dyoddefiadau ei dymmor ar y ddaiar wedi cydgyfarfod yn ddyfroedd uchel hyd yr ên! Yr oedd rhywbeth yn rhyfedd iawn yn nywediad Pilat am dano, 'Wele y dyn!' Ond ni welodd efe, druan, ddim ond y dyn ynddo. Dyma alwad i ninnau heno i edrych arno megys yn weledig ar y bwrdd, 'Wele y dyn,' yma! Wele Immanuel, Duw gyda ni! Yr oedd Crist drwy ei fywyd yn 'ŵr gofidus a chynnefin â dolur.' Yr oedd tristwch ei gyfeillion—gwendid ei ddysgyblion caledwch ei elynion—ac erlidigaeth yr Iuddewon wedi gwasgu llawer ochenaid o'i fynwes o bryd i bryd; yr oedd dagrau cydymdeimlad wedi rhedeg dros ei ruddiau glân uwch ben bedd Lazarus, ac uwch ben dinas Jerusalem, ond erbyn hyn yr oedd y ffrydiau oll fel wedi cyfarfod yn nghyd, megys afon nerthol, o bob man, ac o bob byd; yr oedd ei nos ddu wedi dyfod. Yr oedd uffern yn cynhyrfu o danodd; yr oedd daiar fel pe buasai wedi penderfynu ei wrthod; ac yr oedd y nef yn dechreu duo uwch ei ben! Yr oedd ei elynion wedi cynllunio y fradwriaeth, ac megys yn sychedu am ei waed!—yntau ei hun yn ymneillduo i weddio yn yr ardd, mewn lle dystaw, llonydd, tawel, ger llaw afon Cedron; a Iudas hefyd a adwaenai y lle, o blegid mynych y cyrchasai yr Iesu yno! Yr oedd rhyw frys mawr ar bawb y nos hono am gyflawnu eu gwaith. Yr oedd Iudas yn prysuro. Iesu, yn gweled yr awydd mawr oedd arno, a ddywedodd wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.' Wedi cyrhaedd i Gethsemane, nid oedd amser maith iddo weddïo y weddi ddyfalach, canys yr oedd tyrfa y gwaewffyn ger llaw, pan yr oedd wedi syrthio ar ei wyneb ar y ddaiar, â'i chwys fel defnynau mawrion o waed yn disgyn ar y llawr. Yr oedd brys ar y milwyr i'w ddal a'i rwymo; brys yn ei arwain drwy yr heolydd, ac i'r llysoedd; brys am ei gondemnio a'i fflangellu, ei wawdio, a'i rithgoroni; a brys am ei yru o'r byd! Dyma destyn ein myryrdodau ni heno. 'Wele y dyn!' Dacw yr hwn oedd yn ddysgleirdeb gogoniant y Tad, ac yn wir lun ei Berson ef, dan gondemniad am feiau nad oedd yn euog o honynt! Dacw ddedfryd marwolaeth y groes ar yr Oen difeius a difrycheulyd! Dacw yr hwn sydd yn dal teyrnwialen llywodraeth y byd ar orsedd y nef yn sefyll yn fud o flaen gorsedd y rhaglaw Rhufeinaidd! Dacw yr hwn sydd yn gwisgo goleuni fel dilledyn, ac yn taenu y nefoedd fel llen, a'r milwyr yn rhanu ei ddillad, ac yn bwrw coelbren am ei wisg ddiwnïad! Dacw yr hwn sydd wedi ei goroni â gogoniant ac â harddwch, wedi ei goroni â drain! Nid oedd ryfedd gwaeddi allan, 'Wele y dyn!' Wel, atolwg, mewn pa faint o amser y dygwyd yr holl orchwylion hyn yn mlaen? Y nos y bradychwyd ef! Dyma rai o'r pethau sydd genym ninnau yn awr i'w cofio, fel y byddo i'n calonau gael eu llanw â gwir gariad ato. Beth a allai fod yn llanw ei feddwl ef y pryd hwnw? Yr oedd efe wedi anghofio pawb gan fawredd ei drallod ei hun. Na: yr oedd ei gariad at ei bobl yn uchaf ar ei galon o hyd! Yr oedd yr archoffeiriad yn myned âg enwau deuddeg llwyth Israel ar ei fynwes i'r cyssegr; felly yr oedd enwau ei bobl wedi eu hysgrifenu ar galon Iesu!"

Erbyn hyn, yr oedd y gynnulleidfa mewn teimladau tyner —a thoddedig iawn. Ni welid yno wyneb dyn, pa un bynag ai yn mysg y frawdoliaeth oedd yn cyfranogi, ai yn mysg yr edrychwyr, nad oedd eu llygaid fel ffynnonau o ddagrau! Eto, nid oedd yno ond hollol ddystawrwydd drwy y lle hyd yn hyn!

Wrth dori y bara, yr oedd yn dangos y tori a fu ar gorff glân y Gwaredwr, a'r rhwygo fu ar y llen, sef ei gnawd ef, yn hynod o effeithiol; ac wrth weddïo, yr oedd mewn gafael egniol iawn â'r orsedd am arwyddion neillduol o bresennoldeb Duw ar y pryd. Yna, aeth o amgylch gyda'r bara; ac yr oedd ei ymadroddion, bob brawddeg, yn hynod iawn o effeithiol yn disgyn ar deimladau y bobl. Yr oedd nifer y rhai oedd yn cyfranogi yn fawr, ac yr oedd yntau yn prysuro ei oreu wrth fyned yn mlaen. Yr oedd ei eiriau yn dyfod yn fwy effeithiol o hyd ar y bobl, ac yr oedd y teimladau yn dechreu tori allan i amlygiad erbyn hyn:—"Corff ein Harglwydd Iesu Grist a aberthwyd drosoch; Cymmerwch a bwytewch y bara hwn, yn goffadwriaeth ddryllio ei gorff glân drosoch, a byddwch wir ddiolchgar; 'Gwnewch hyn er coffa am danaf;' 'Hwn yw fy nghorff,' &c.yn arwyddol—ac nid fel y meddylia Eglwys Rhufain, yn wirioneddol na, yr oedd hwnw i gael ei aberthu ar y groes dranoeth; Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren,' &c; Cofiwn nes teimlo, a theimlwn nes diolch," &c. Yr oedd ei feddwl yn ymddangos mor llawn weithiau, fel yr oedd megys yn gorfod sefyll er ei waethaf, i esbonio dull mynediad yr archoffeiriad i'r cyssegr gyda gwaed yr aberth, nes yr oedd hyd yn oed y brys oedd arno yn ei wneyd yn fwy tarawiadol fyth. "Wedi swperu, efe a gymmerth y cwpan. Nid oedd modd bod arwydd mwy priodol na'r gwin, o blegid gelwid ef yn fynych, Gwaed y grawnwin. 'Einioes pob peth yw ei waed.' Fel yr oedd y bara i gael ei fwyta, felly yr oedd y gwin i gael ei yfed. Ni waeth pa mor lleied i'w yfed, ond dylid yfed: "Yfwch bawb o hwn.' 'Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch. Oni dderbyniwch yr athrawiaeth am ei ddyoddefiadau, ac oni ymddiriedwch trwy ffydd yn ei angeu, nid oes genych fywyd ynoch. Yr un modd y mae y rhan hon eto o'r gwasanaeth i gael ei gwneyd trwy gofio yn ddiolchgar am ei angeu a'i aberth. Cofio am ei Berson a'i ddyoddefiadau, ac am ei gariad rhad yn ein cofio ni yn ein hiselradd, a hyny bob tro y nesaom at y bwrdd. 'Cynnifer gwaith bynag y gwneloch'—pa mor aml bynag. Ni ddywedir i ni yn benodol pa mor amled; ond pa mor aml bynag, nid yw byth i gael ei gyflawnu, ond er cof am dano ef. Dyna ddylai fod y dyben mawr mewn golwg bob amser—dangos marwolaeth yr Arglwydd. Yr oedd yr aberth gynt i gael ei ddangos. Hwn a osododd, neu a arddangosodd Duw yn iawn. Yr oedd Crist, drwy yr aberthau a'r ordinhadau, yn cael ei ddangos i'r eglwys yn mhob oes, ac yr oedd yn cael ei ddangos trwy yr eglwys i'r byd. Yr oedd yr aberthau gynt yn ei ddangos fel un i ddyfod, ac y mae yr ordinhadau yn awr yn ei ddangos fel un wedi dyfod. 'Wele fi yn dyfod,' oedd ei iaith yn ngwaed yr aberth; ond 'Mi a ddaethym fel y caent fywyd,' yw ei iaith yn yr ordinhadau. Beth sydd genym i'w ddangos? Marwolaeth yr Arglwydd! Y gwaed hwn a wna gymmod dros yr enaid! Os bydd y ddeddf yn dyfod yn ei hysbrydolrwydd, ac yn gofyn perffeithrwydd, a ninnau yn teimlo ein bod yn euog, pa beth a wnawn? Dim ond dangos marwolaeth yr Arglwydd. Os bydd ein cydwybod yn ein condemnio, pa beth a wnawn? Cofio y testyn heno fydd yn ddigon. Os bydd y gelyn yn edliw dillad budron, pa beth a wnawn? Dim ond dangos marwolaeth yr Arglwydd! Cyfeiriwn ef at y rhai sydd ger bron yr orsedd, wedi dyfod allan o'r un cystudd mawr a ninnau, ac wedi golchi eu gynau, a'u cànu yn ngwaed yr Oen! Gwaed yr ammod sydd yn rhyddhau y carcharor o gadwynau pechod, o afael llygredigaeth, ac oddi wrth felldith y ddeddf. Y mae ein rhyddid ni wedi ei ennill mewn gwaed. Y mae y gwaed wedi ei daenellu ar lyfr y gyfraith, ac ar y bobl oll!"

Yr oedd yr olwg ar y dorf yn y fan hon yn dra rhyfedd. Yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio â'u dagrau. Yr oedd aml un, yma a thraw, wedi tori allan i orfoledd cyhoedd. Aeth Elias yn mlaen i anerch y bobl, wedi dychwelyd at y bwrdd gyda'r gwpan ar ol gorphen y gwaith. Cyfeiriodd ei sylwadau at yr eglwys, ac at yr edrychwyr yn effeithiol dros ben:—" Onid yw yn fraint i ni fod y golofn goffadwriaethol hon wedi ei chodi yn ein byd? Pa hyd y mae hi i sefyll Hyd oni ddelo! Ni waeth pa faint o lid a fyddo gan ddiafol a'i alluoedd ati—pyrth uffern nis gorchfygant hi. Yn hon, dangosir i'r byd, er esampl i'r rhai a gredant rhag llaw, fod y ddeddf wedi ei hanrhydeddu, fod iawn dros bechodau wedi ei gael, a bod modd trwy ei rinwedd i godi yr euog i gymmeradwyaeth ger bron yr orsedd, a'i sancteiddio yn gymhwys o'i arddel ger bron gorseddfainc y nef. Y mae brenin Sion yn dewis i'w ddeiliaid ei gofio yn ei waed! Pan y byddo breninoedd y byd hwn yn ennill buddugoliaethau, bydd raid sylfaenu cofgolofnau mawrion, ac addurno eu pinaciau â delwau o bres i'w hanrhydeddu; ond dyma Iesu Grist yn dewis cael ei bortreiadu ger ein bron, wedi ei groeshoelio yn aberth drosom ni. Dywedodd Ioan am yr olwg ardderchog a gafodd arno; "Ac mi a welais Oen megys wedi ei ladd." Y colofnau cadarnaf a gwychaf a gododd dynion erioed, y mae ychydig o ganrifoedd o ystormydd y byd yn ddigon i'w chwalu hyd eu sylfeini; ond dyma golofn a godwyd mewn ychydig oriau a saif hyd oni ddel efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod ‘yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu!' Fe fydd rhywrai yn derbyn y cwpan pan y byddo llef yr archangel âg udgorn Duw yn eu newid mewn moment, ar darawiad llygad, ac yn cu cipio i gyfarfod â'r Arglwydd yn y cymylau, i'w gofio mewn gwlad berffaith, yn yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw! Y mae y Cyfryngwr wedi sylfaenu ei deyrnas mewn gwaed; ïe, yn ei waed ei hun: uid â gwaed arall, ond trwy ei waed ei hun, y cwblhaodd y cyfan. Y mae llawer o dref fawr Liverpool yna wedi ei sylfaenu yn ngwaed y Negroaid druain, er ei gwarth oesol hi; ond y mae teyrnas y Cyfryngwr wedi ei sylfaenu yn ei waed ei hun, er ei gogoniant tragwyddol hi. Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys.'

"Wrth gofio ei angeu, dylem bob amser gofio yr achos o'i ymostyngiad a'i ddyoddefiadau mawr. Y Messiah a leddir, ond nid o'i achos ei hun. O achos pwy, gan hyny? Dy feiau di, bechadur! Efe a archollwyd am ein camweddau ni."" Yna, troes at y bobl yn rymus iawn yn ei gyfeiriadau, a gofynodd "Os pechod a fu yn blaenllymu pigau y goron ddrain a roddwyd ar ei ben glân, nes yr oedd y gwaed yn llifo o'r archollion, a allwn ni garu pechod byth mwy? Os ein pechodau ni a fu yn minio y waewffon a frathwyd yn ei ystlys, fel y daeth allan waed a dwfr, a allwn ni fyw mewn pechod byth mwy?" Yr oedd yr holl bobl erbyn hyn ar ymddryllio o ran eu teimladau, ac mewn gorchest fawr yr oedd pawb yn gallu ymgynnal. Dywedodd yn bur gyffröus, wedi sefyll am fynyd—" Gyfeillion! yn yr olwg ar Grist ar y groes ar Galfaria yn gwaedu o herwydd ein pechodau ni, yr wyf yn rhoddi hèr i neb sydd yma fedru byw yn annuwiol byth mwy! A oes modd i anystyriaeth dyn sefyll yn ngolwg y groes? A oes yma neb a fedr anghofio ei Briod byth mwy? Na: nid oes yma neb a all symmud cam oddi wrth odreu y groes o heno allan. Dylem gofio bradwriaeth Iudas gyda'r adgasrwydd mwyaf at y weithred. Dylem gofio et erlidwyr a'i ddirmygwyr, gyda chasineb at eu holl ysgelerder; ond dylem gofio mai ein pechodau ni oedd yr erlidwyr gwaethaf―dylem gofio mai ein pechodau ni fu yn gwaeddi Ymaith âg ef, croeshoelier ef,' uchaf o bawb. Edrychwn ar yr hwn a wanasom, nes galaru o'i blegid mewn edifeirwch pur, ac y teimlom ddychryn rhag byth ymylu y pechod o ail groeshoelio i ni ein hunain Fab Duw na'i osod yn watwar!" Yn y fan hon, torodd y dorf allan i lefain cyffredinol drwy y lle; ac yr oedd ambell un yn methu ymattal heb dori allan i fanllef, ac ambell hen chwaer dwymngalon yn tori allan i orfoledd byw. Aeth yntau ei hun yn y fan hon yn hollol dan awdurdod ei deimladau drylliedig; bu raid iddo wrth ei ffunen boced, ac yr oedd ei lais wedi tori yn hanner crac, fel y bu yn hollol fud am agos i fynyd o amser. Wedi adfeddiannu ei deimladau i raddau, dywedodd, "Gyfeillion, yr wyf fi yn teimlo mwy o rwymau i'w garu heno nag erioed!" ac ar hyn, methodd a myned rhagddo yn lân am ychydig amser. Beth feddylid oedd teimladau yr edrychwyr syn yn y fan hon! Haws yw dychymygu na darlunio.

Wedi ymbwyllo ychydig, ac i deimladau wastatäu drachefn, trodd i anerch yr edrychwyr yn ddifrifol iawn. Dywedodd; "Wel, yr ydym ni i ddangos marwolaeth yr Arglwydd i chwithau hefyd. Dyma sydd genym ni am ein bywyd! Atolwg, beth sydd genych chwi? Yr wyf yn edrych ar yr arwyddion hyn sydd ar y bwrdd fel sel bywyd i chwithau, os derbyniwch hi. Dyma hi yn cael ei dangos i chwi! Dyma hi yn cael ei chynnyg i bob un o honoch chwi! Nid oes yma neb yn ei chadw nac yn ei chuddio oddi wrthych! Yr oedd Iarll Essex, yn amser y frenines Elizabeth, wedi ei gondemnio i farw. Yr oedd Elizabeth er hyny, yn ewyllysio dangos ffafr iddo; ac fel amlygiad o hyny, anfonodd ei sêl—fodrwy iddo. Yr oedd dangos hono i swyddogion y deyrnas yn ddigonol i sicrhau ei fywyd, ac i'w gadw yn ddiogel yn mhob man. Nid oedd y frenines yn dewis ei rhoddi iddo â'i llaw ei hun, ond ymddiriedodd hi i'r Countess of Nottingham, i'w danfon iddo. Trwy ddylanwad ei gŵr, yr hwn oedd elyn i'r iarll, fe'i perswadiwyd hi i beidio ei chyflwyno iddo; ac felly, bu yn anffyddlawn i'w chenadaeth, a chuddiodd y sêl. Dydd ei ddienyddiad a ddaeth; ac yr oedd y frenines yn dysgwyl o hyd glywed ei fod wedi dangos y sêl, a'i fywyd wedi ei arbed: ond yn y gwrthwyneb y bu, a dienyddio y gŵr mawr a wnaed; ac yr oedd y newydd yn ofid calon i'r frenines. Aeth y Countess cyn hir yn wael o iechyd ac i afael angeu. Ni allai feddwl am farw, heb gael gweled y frenines, a rhyddhau ei meddwl i raddau oddi wrth ofid ei henaid drwy gyffesu fel y bu. Aeth y frenines i ymweled â hi ar ei chlaf wely. Dywedodd hithau wrthi yr holl hanes aeth y frenines i'r fath ofid a chynddaredd ati o blegid y tro, fel yr ysgytiodd y Countess yn ei gwely, gan ddyweyd, "Duw a faddeuo i ti: nid allaf fi faddeu i ti byth." Aeth adref, ac ni fynai ei chysuro; taflodd ei hun ar y llawr, ni chodai oddi ar y carpet, ni fynai nac ymborth nac ymgeledd; a bu farw yno yn mhen tua deng niwrnod! Yn awr, collodd hwnw ei fywyd, o blegid cuddio y sêl oddi wrtho; ond nid all un o honoch chwi ddywedyd hyny; nid oes yma neb yn cuddio y sêl oddi wrthych chwi; a dderbyniwch chwi y sêl am eich bywyd? Dyma hi i chwi yn awr; deryniwch hi; ewch at yr orsedd, ac y mae eich bywyd mor sicr i chwi a bod gwirionedd yn eiddo Duw! 'Pwy bynag a ddel, nis bwriaf ef allan ddim!"" Erbyn hyn yr oedd rhyw deimladau na anghofir mo honynt byth bythoedd wedi meddiannu mynwesau y dorf i gyd. Wedi gorphen y gwasanaeth, canwyd yno hen bennill ar hen fesur, gyda blas newydd; gan ddyblu a threblu yr un llinellau drosodd a throsodd, drachefn a thrachefn, am hir amser:

Daeth trwy
Fy Iesu glân a'i farwol glwy'
Fendithion fyrdd, daw eto fwy;
Mae ynddo faith ddiderfyn stôr,
Ni gawsom rai defnynau i lawr,
Beth am yr awr cawn fyn'd i'r môr?

Yr oedd nifer mawr yn eistedd wrth y bwrdd am y tro cyntaf y pryd hwn; a gwyddys i'r tro rhyfeddol fod yn foddion i ddwyn llawer oedd yno, wedi bod megys yn cloffi rhwng dau feddwl dros flyneddoedd meithion, i benderfynu yn y fan a'r pryd i blygu i Grist, a rhoddi eu hunain i'r Arglwydd, ac ymuno â'i eglwys byth mwy!

Ceir clywed llawer yn gofyn yn y dyddiau hyn, Pa beth ydyw yr achos na cheid gweled adfywiadau a theimladau cyffelyb i'r rhai a ddarlunir uchod yn awr? Y mae yn lled anhawdd rhoddi cyfrif naturiaethol am y peth. buasid yn gofyn yr un peth y pryd hwnw, pa ham na welsid yr un cyffroadau yn fynychach yn yr un lle, gyda'r un bobl, dan ddylanwad gwasanaeth yr un gweinidog — diau na chawsid atebiad boddhaol y pryd hwnw mwy nac yn awr. Wrth adgofio am yr hanesion hyn, ac wrth adfeddwl am y teimladau a brofwyd, y mae yn anhawdd peidio hiraethu a dymuno am weled eu cyffelyb eto; yn enwedig pan y meddyliom am y nifer oedd yn cael eu hennill at grefydd, a'r dyrchafiad mawr a fu i achos y Gwaredwr dan y fath ymweliadau grymus. Ni wyddys pa mor fuan y gallant ddyfod eto. Nid ein lle ni ydyw gosod terfyn, na thori llwybr, i Sanct yr Israel. "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno." Ond os dyfod a wnânt, ni bydd holl effeithiau dylanwad addysg fydol, grym dygiad i fyny naturiol, nac arferion na defodau gwlad, yn ddigon o warchglawdd i attal eu gweithrediadau Gwir yw, fod sefyllfa yr eglwysi yn dra duwiolfrydig ar y pryd:—"Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddïau. A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn tori bara o dŷ i dŷ, a gymmerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon; gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig."

Nodiadau

[golygu]