Neidio i'r cynnwys

Adgofion am John Elias/Pennod XI

Oddi ar Wicidestun
Pennod X Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod XII

PENNOD XI

JOHN ELIAS, WILLIAMS O'R WERN, A CHRISTMAS EVANS.

Y MAE ein gwlad ni, yn ystod yr hanner canrif diweddaf wedi cynnyrchu pregethwyr a duwinyddion o enwogrwydd mawr:—dynion a adawsant argraffiadau o'u dylanwad ar gymmeriad cyhoeddus y genedl; dynion a siglasant y Dywysogaeth o'r naill gwr i'r llall, ac a gyfodasant filoedd i wrandaw gair y bywyd, y rhai oedd yn aros yn y fath ddifaterwch, fel nad oedd dim llai na chynhyrfiad tebyg i ddaiargryn a fuasai yn eu symmud ac yn eu codi allan o'u hanneddau. Buont o wasanaeth mawr i achos crefydd yn gyffredinol yn ein gwlad. Yr oedd rhai o honynt yn tra rhagori ar y lleill mewn amryw ystyriaethau. Nid yr un nifer o dalentau oedd wedi eu hymddiried i holl "werthfawr feibion Lefi;" ac nid oedd eu rhagoriaethau yn rhedeg yn yr un ffordd. Yr oedd rhai yn fwy amlwg nag ereill yn y naill beth neu y llall; ond yr oeddynt oll yn angenrheidiol er gwasanaethu yr achos mawr. Yr oedd rhai mor amlwg a'r llaw a'r llygad yn y corff, tra yr oedd yr aelodau a dybir eu bod yn wanaf oll yn ateb dyben pwysig yn eu lle. Yr oedd gan yr apostolion gynt eu trioedd," sef "Iago, a Cephas, ac Ioan—y rhai a dybid eu bod yn golofnau." Felly yr oedd gan y Dywysogaeth ei thrioedd; sef, JOHN ELIAS, WILLIAMS O'R WERN, a CHRISTMAS EVANS—y rhai a dybid eu bod yn golofnau yn yr eglwysi Cymreig. Yr oeddynt yn sefyll fel temlau ar wahân oddi wrth yr holl adeiladau ereill, ac yn saethu eu pinaclau i'r cymylau mor uchel fel nad oedd modd methu eu hadnabod. O blegid hyn, nid ydym yn ystyried ein hunain dan rwymau i wneyd un math o esgusodiad am y detholiad a wnawn o honynt fel y cyfryw. Hwy oedd "tri chedyrn Cymru" yn marn y cyhoedd. Yr oedd eu henwau fel "household words pan elent allan i daith ar gyhoeddiad, yn mhob cymmydogaeth trwy Ddeheu a Gogledd. I ba le bynag yr elent i bregethu ar unrhyw dymmor o'r flwyddyn, ac ar unrhyw awr o'r dydd, yr oedd yn ddigon i greu gwyl gyffredinol yno—ie hyd yn oed pe buasai yn ganol cynauaf y gwenith; a byddai raid i bawb, o bob gradd ac oed, gael eu rhyddid am y tro i fyned i wrandaw arnynt. Yr oedd y tri fel rhyw Sauliaid, yn uwch o'u hysgwyddau i fyny na phawb eraill; ac ni chyrhaeddodd neb ar eu hol i'r fath ddylanwad ar y cyffredin a hwy yn ein gwlad ni. Yr oedd gan y tri eu gwahanol dyrau, eu gwahanol lurigau, eu gwahanol arfogaeth, a'u gwahanol ddoniau. Ni allasai y naill wisgo arfbeisiau y llall; ni allasai y naill dynu yn mwa y llall: yr oedd cuddiad cryfder pob un mewn gwahanol fanau. Oud yr oedd pob un o honynt yn sicr o'i nôd; annelent i drwch y blewyn; ni ollyngent byth saeth heb iddi gyrhaedd ei phwynt; nid oeddynt byth yn llafurio yn ofer nac am ddim. Yr oedd eu cyd—gyhoeddusrwydd yn cyssylltu eu henwau rywfodd yn mhob achos cyhoeddus gyda phethau crefyddol. Atolwg, gan hyny, onid yw yn naturiol i ni ofyn, Yn mha le yr oedd dirgelwch eu rhagoriaethau? Yn mha fan yr oedd cuddiad eu cryfder? Yn mha beth yr oedd nerth eu dylanwad yn gynnwysedig? Wel, ni a wrandawn ar y tri; canys dyna y ffordd oreu i gael yr atebiad boddhaol i'r ymofyniadau hyn. Ni a edrychwn beth a wnaeth pob un o honynt; ni a osodwn anghraifft o bob un o honynt ger bron; ac ni a ymdrechwn dynu y casgliadau priodol mewn canlyniad. Y mae y bywgraffiad goreu o bob dyn i'w gael yn y peth ydoedd, ac yn yr hyn a wnaeth. Gwneir cofiantan i fyny yn fynych o ddychymygion am y pethau a allasai dynion fod, neu a allasent eu gwneuthur; a hyny efallai, weithiau, o herwydd prinder defnyddiau o ddim dyddordeb. Ond nid felly y mae wrth gyfeirio at "dri chedyrn Cymru:" mae yr anghreifftiau mor lucsog gyda hwy, fel y mae yn anhawdd gwybod pa rai i'w dewis gyntaf.

Yr oedd Elias yn rhagori yn ystôr ddirfawr ei wybodaeth dduwinyddol, eangder ei gof anfesurol, a nerth ei hyawdledd naturiol dihafal. Yr oedd Williams yn rhagori yn ei adnabyddiaeth o natur, ei fedr i osod pethau agos mewn effeithioldeb dyddorol ger bron, a'i berffaith feistrolaeth ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd Evans yn rhagori yn uchder ei ddarfelydd awenyddol, yn llawnder ei gymhariaethau naturiol, yn melusder ei ddawn, ac yn arabedd ei ymadroddion. Ystordy eang, gorlawn o holl geinion a thrysorau y byd, oedd Elias!—yr arddangosfa fawr ydoedd! —y palas grisial ydoedd! Gweithfa Watt a Stephenson oedd Williams, lle yr oedd elfenau a defnyddiau natur yn cael eu dwyn i ddylanwad ymarferol y naill ar y llall; lle yr oedd holl ddirgelwch dylanwadau yr ager a'r trydan yn cael eu dangos yn syml ger bron y cyffredin mewn gweithrediad! Awyren Green oedd Evans, wedi ei gwisgo â'r pali symmudliw; darfelydd a dychymygiaeth yn hofiau yn ddifyrus yn yr wybren, gan chwareu yn hyfryd o amgylch, a thywallt y miwsig mwyaf soniarus i ddisgyn ar ein clustiau o'r nen! Yr oedd yn anhawdd i'r edrychydd wrth basio wybod gyferbyn a pha un o honynt i aros hwyaf, i syllu a rhyfeddu, a mawrhau! Yr oedd gan y genedl ei chlychau suddol hefyd, a fedrent dreiddio i waelodion isaf yr eigion du, nes taraw pawb â syndod, er eu bod hwy eu hunain yn colli allan o'r golwg. Ond gan mai nid â'r dyfnderoedd allan o'r golwg yr oedd y cyffredin yn ymdeimlo fwyaf, nid oeddynt yn eu gweled hwy yn cyrhaedd dosbarth y trioedd. Felly, safai y cewri hyn, rywfodd neu gilydd, ar wahân, yn uwch na phawb; ac nid oedd modd gosod neb arall i eistedd yn gyfochrog â hwy.

Yr ydym wedi gosod angnreifftiau o Elias ger bron yn barod, fel mai afreidiol fyddai chwanegu, er y gellid eu lluosogi i swm cyfrol fawr. Yr oedd efe yn dra hoff o olyg iadau duwinyddol yr hen awdwyr Puritanaidd. Ei arwyddair oedd, "Yr hen dduwinyddion, a'r athronwyr diweddar." Yr oedd o'r farn na chafodd neb fwy o feddwl yr Arglwydd ar ol yr oes apostolaidd na'r Doctor Owen a'r President Edwards. Yr oedd wedi darllen yr holl weithiau boreuol yn fanwl iawn. Yr oedd yr holl esboniadau "uniawngred" wedi eu crynoi yn ei feddwl. Gallasai gyfeirio, ar unrhyw bryd, at eu syniadau ar unrhyw bwnc. Yr oedd ganddo fath o ddrwgdybiaeth am iachusrwydd golygiadau yr holl awdwyr diweddar, gydag ychydig iawn o eithradau; ac yr oedd hyn yn peri iddo fawrhau y rhai boreuol yn fwy. Yr oedd holl resymau ac eglurhadau y cyfan ar ei gof, ac at ei alwad. Nid ydym yn golygu wrth hyn, mai byw ar eiddo ereill yr oedd efe. O! na: yr oedd wedi moldio eu holl olrheiniadau yn ei feddwl ei hun. A phan y meddyliwn fod ei enaid mor gyfoethog o feddyliau, a'i ysbryd mor ddiorphwys mewn llafur, a'i ddawn areithyddol mor ddigyffelyb mewn dylanwad, nid rhyfedd oedd ei fod yn rhagori cymmaint fel pregethwr ar bawb, o bob gwlad, gan nad pa un ai Cymro ai Sais a fyddai. Yr oedd ei fedr i ddwyn gwirionedd i orphwys ar deimladau ei wrandawyr yn rhyfeddol iawn. Dywedir fod "gwybodaeth yn allu," a diau mai felly y mae: ond pa fodd bynag am hyny, nid oedd neb a wrandawai weinidogaeth Elias heb deimlo fod "gwirionedd yn allu "—ïe, yn allu Duw er iachawdwriaeth. Os byddai yn gollwng allan ambell air heb fod yn hollol goethedig, nid oedd i ddim ond i dynhau llinyn y bwa yn gynt; os gollyngai ambell ymadrodd heb fod yn holiol yn ol deddfau caethaf cyfansoddiad, nid oedd i ddim ond i gael gafael ar y gydwybod yn fwy effeithiol; os byddai ganddo ambell gymhariaeth heb fod yn gwbl yn ol rheolau cyfyngaf cyfatebiaeth, nid oedd i ddim ond i flaenllymu y saeth yn fwy miniog; os byddai rhywbeth tebyg i hanner attal-dywedyd arno weithiau, nid oedd i ddim ond i wneyd ei hyawdledd tanllyd yn fwy effeithiol. Yr oedd pob peth a fyddai ganddo mewn testyn, mewn athrawiaeth, mewn traddodiad, mewn ysbryd, ac mewn amcan, yn sicr o ateb y dyben fyddai ganddo ef mewn golwg. Byddai pob peth a wnai wedi ei gymhwyso a'i gynhyrfu, i aflonyddu, i ddeffro, i oleuo, i ddarbwyllo, i argyhoeddi, i ennill, ac i gaethiwo pob meddwl a fyddai ger ei fron. Byddai ei saethau bob amser wedi eu gloewi a'u llathru, drwy ymarferiad yn ei brofiad ei hun. Nid pigo saethau oddi yma a thraw, wedi syrthio o gawell un arall, y byddai; ond defnyddio rhai newydd, wedi eu hawchlymu yn ei brofiad ei hun, a'u tymmeru yn ngwaed ei galon ei hun.

Bellach, ni a gyfeiriwn at un anghraifft o Williams ac Evans, er mwyn dangos y modd yr oedd cryfder y tri yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd.

Yr oedd Williams wedi troi ei feddwl i fyfyrio ar natur, ac olrhain egwyddorion athronyddol, a gwir achos pob peth, a hyny mewn rhyw ddull cartrefol ac agos iawn. Os dygwyddai iddo ef orwedd ar ei gefn yn yr ardd yn yr haf, wrth orphwys, i fyfyrio ar ei bregeth, a gweled y wennol yn gwneyd ei nyth dan fargod y tô, mynai ryw eglurhâd ar ryw bwnc neu gilydd yn ei bregeth oddi wrth hyny. Yr oedd ef gartref rywfodd bob amser gyda phob peth. Yr oedd fel pe buasai yn rhwym o fynu chwilio i mewn am reswm dros bob gwirionedd ac athrawiaeth a gynnygient eu hunain i'w sylw. Nid oedd yn cymmeryd dim yn ganiataol heb ei chwilio. Mynai bwyso a barnu pob peth a ddygid ger bron. O blegid hyn yr oedd ei gymhariaethau mor naturiol, ac mor darawiadol. Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn hynod o ystwyth, a'i dafod yn llithrig fel pin ysgrifenydd buan. Gallai dynu maesolygfa yn ei holl linellau a'i gysgodion, ei bellder a'i agosrwydd, ac oddi waered i fyny o'r ddaiar i'r nen, gyda phwyntil perffaith. Yr oedd ei ddarluniad o Abraham yn teithio yn ngwlad yr addewid, yn ei bregeth ar y "wlad well," yn ddigon i beri i'r gwrandawyr anghofio mai gwrandaw ar un yn son am le yr oeddynt, a thybied eu bod yn cael eu harwain mewn gwirionedd wrth eu llaw, gam a cham trwy bob dyffryn a chwm, a dôl, heibio i bob coedwig, a heibio i ael pob bryn, a thrwy bob nant, a thros bob afon, a chyda phob gardd, a thrwy ymylon pob tref oedd yn Nghanaan i gyd! Yr oedd yn gallu gweithio mor naturiol at deimladau y bobl, yn y bregeth hono, nes yr oedd yr holl dorf yn foddfa o ddagrau, a hyny yn hollol ddiarwybod iddynt eu hunain. Yr oedd ei lancet yn archolli hyd y byw; ond yr oedd y min mor deneu fel nad allai neb ei deimlo; ac yr oedd pawb fel pe buasent heb wybod dim am hyny nes iddynt weled y gwaed. Yr oedd hyn oll cyn iddynt feddwl na dysgwyl dim am y fath beth; ac yr oedd y cwbl yn cael ei wneyd heb un math o arwydd egni nac ymdrech ynddo ef ei hun, ond gyd a'r esmwythder mwyaf diymgais. Yr oedd fel pe buasai yn deall anianyddiaeth y meddwl dynol yn drwyadl. Dywedai yn fynych fod "natur yn sicr o daro natur!" Yr oedd wedi gwneyd ei weinidogaeth yn brif wrthddrych ei astudiaeth, nes yr oedd wedi dyfod o'r braidd yn sicr o'i nôd bob tro yr esgynai i'r areithfa. Yn ei ddyddiau boreuaf, pan y dygwyddai droi yn fethiant, canfyddai hyny yn fuan, ac nid äi byth i ddirdynu; ond rhoddai i fynu ar fyrder: ni fynai orweithio mewn gorchest byth. Ond pan y daeth i addfedrwydd ei weinidogaeth, yr oedd bob amser yn deall ei bwnc, yn adnabod ei sefyllfa, ac yn sicr o'i nôd!

Yr oedd Evans yn hynod am uchder ei ddychymygiaeth. Yr oedd yn llawn o ysbryd barddoniaeth, er nad oedd yn ymddilladu yn y wisg farddonol. Gallai chwareu ar gymhariaethau a ffugrau mewn araeth ddilynol, a hyny mewn ffrydlif diorphwys o'r hyawdledd mwyaf swynol, am chwarter awr cyn cael y full stop. Pan y deuai i uchder eithaf ei wres araethyddol, yr oedd ei fynweslais soniarus, yn rhoddi adgyfnerthiad i'w effeithioldeb ar glustiau ei wrandawyr. Yr oedd ei ffugrau yn hollol neillduol iddo ei hun. Pan yr oedd yn pregethu mewn cymmanfa―ar y geiriau "Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni; yr hon oedd yn ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymmerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; gan ysbeilio y tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi"—yr oedd Stanley o Alderley newydd lwyddo i gael symmud ymaith y tollbyrth oddi ar yr hen brif-ffordd yn Môn, ac yr oedd yno le hynod i'w ddarfelydd chwareus ehedeg yn ei helfen wrth ddarlunio yr amgylchiad. "Daeth Stanley allan," meddai efe, "yn ei holl rym; ac âg un araeth, efe a symmudodd yr hen dollbyrth ymaith i gyd oddi ar yr hen brif-ffordd yn Môn yma. Aeth at y porth yn ei gerbyd, a gwaeddai ar y porthor, Open the gates! 'Pa le mae y tâl?' meddai y porthor. Yr oedd yno rywbeth ar y ffordd. Ond yn lle gorfod talu, disgynodd i lawr, ac ymaflodd yn yr hen byst teirllath, ac a'u taflodd hwy a'r hen glwyd dros y clawdd ar unwaith. Ffordd rydd i mi bellach! meddai ef, ac yna esgynodd i'w gerbyd, a thrwodd âg ef rhag ei flaen: ac y mae y ffordd yn rhydd ac yn rhad i bawb ar ei ol ef hyd heddyw. Felly yr oedd Cadben mawr ein iachawdwriaeth ni yn myned trwy byrth y nef adref i ogoniant; ond nid rhyw byst o goed, llonydd, meirw, oedd ganddo ef i'w symmud oddi ar y ffordd, ond ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, â deg o fagnelau Sinai ger llaw, â'u ffroenau yn pwyntio at fywyd yr euog; a miloedd o gythreuliaid, a myrddiynau o dywysogaethau, a channoedd o awdurdodau, yn sefyll o amgylch y lle, yn rhwystro fforddolion Sion i deithio llwybr y bywyd. Ond ar Galfaria, pan aeth Mab Duw i symmud y gates ysbrydol, dyma ef yn galw y gelynion i gyd o bob man i faes y frwydr! gwaeddodd ar gynghreiriau y gethern, ac ar holl ddichellion y fagddu i ddyfod yn mlaen:—' Yn awr yw eich awr chwi,' eb efe, 'a gallu y tywyllwch!' Rhyfedd iawn ar hyn, fel yr oedd penaeth y diafliaid yn rhoddi ei word of command i holl alluoedd y pydew i ddyfod yn mlaen: 'Dowch allan bob un heddyw i Galfaria,' meddai ef; ymarfogwch, chwi ddewrion enwog y pwll diwaelod; 'ymwrolwch, chwi ffyddloniaid yr affwys du! a chwithau y cythreuliaid bychain, gweiniaid, cloffion yna, dewch allan bob un; os na fedrwch chwi ymladd, chwi ellwch fingamu, a llaesu gwefl, a phoeri fel cathod! Clywch yr udgorn yn galw i'r frwydr!' Gyda hyn, dyna yr hen gatrodau duon yn cychwyn tua'r groes. 'Ha! dyma ddiafol ac angelion yn dyfod! ebe Iesu Grist; 'wel, tyred yn mlaen, dywysog y fagddu, a mi a'th darawaf nes y byddot ti yn disgyn fel sildyn torgoch yn y fan yna! dewch chwithau yn mlaen, hen deirw Basan, â'r cyrn degllath, a mi a'ch tarawaf âg un ergyd, nes y byddoch yn glynu yn holltau creigiau Iudea, gerfydd eich cyrn! deuwch chwithau yn mlaen, hen unicorniaid uffern, a mi a'ch llethaf âg un wasgfa, nes bo y parlys mud arnoch bob un, a mi a ysigaf eich balchder âg un dyrnod! 'Hawyr bach! bobl anwyl! dyma ddyffryn Jehosaphat wedi ei balmantu â charnau teirw a chyrn unicorniaid drosto i gyd! Wel, bellach, byrth, dyrchefwch eich penau! ddrysau tragwyddol, ymagorwch! a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Haleluiah! dyna y pyrth yn agored—dyna y ffordd yn glir bob cam—dyna yr hen femrwn wedi ei hoelio wrth y groes; dyna yr udgyrn yn dechreu seinio, a'r telynau yn dechreu chwareu, a'r frwydr fawr drosodd am byth, a'r saint hwythau yn dechreu canu'

Efe a ddrylliodd y bwa saeth,
Y waew wnaeth yn ddarnau,
Ysigai 'r holl darianau pres,
Fe dorai'r rhes cleddyfau,' &c."

Byddai yn ofer ceisio darlunio yr effeithiau oedd ar y dorf, dan yr hyawdledd chwareus hwn; canys yr oedd pawb wedi eu cwbl syfrdanu drwy yr holl le. Yr oedd yn tywallt yr hyawdledd mwyaf swynol ar benau y bobl, nes yr oedd teimlad byw i'w ganfod yn mhob wyneb oedd ar y maes ar y pryd. Haws yw ei ddychymygu na'i ddarlunio!

Dichon y gall yr anghreifftiau hyn roddi rhyw awgrym byr o'r hyn oedd yn hynodi y tri seraph tanllyd; a dichou y gallant gyflwyno i feddyliau y genedlaeth ieuanc, a'r rhai na chlywsant mo honynt yn pregethu erioed, ryw ddychymyg egwan am eu galluoedd, ac yn mha bethau yr oeddynt yn ymdebygu, ac yn mha bethau yr oeddynt yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd. Yr oedd gan bob un o honynt ei dŵr a'i arfogaeth ei hun, ac yr oedd fel tŵr Dafydd, yr oedd â tharianau fil yn nghrog ynddo. Yr oedd gan bob un ei ffordd ei hun, a phob un yn nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll annuwioldeb, anystyriaeth, ac anfoesgarwch i'r llawr. Nid oes dim a wnelom ni â dyrchafu na darostwng un o'r tri, y naill ar draul y llall. Nid ein hamcan oedd na mawrhau na bychanu un o honynt, ond dangos portreiad cywir a ffyddlawn o honynt; gyda dangos yn mha ffordd yr oedd eu rhagoriaethau yn dysgleirio. Y mae coffäu enwau y tri gwron yn dwyn hen gofion maboed yn hiraethlawn iawn i'n teimladau; ac y maent yn ein harwain i ofyn

P❜le mae'r hen seraphiaid tanllyd,
Siglai'r ddaiar, siglai'r nef?
P'le mae Elias? P'le mae Williams?
P'le mae Christmas fwyn ei lef?—
O fysg gwerthfawr feibion Lefi,
Collais olwg ar eu gwedd,
Ciliais o'r gymmanfa i ddarllen
Enwau 'r tri ar gareg fedd!


Nodiadau

[golygu]