Neidio i'r cynnwys

Adolygiad o lyfr Sadie "Twilight Hours"

Oddi ar Wicidestun
Adolygiad o lyfr Sadie "Twilight Hours"

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Sarah Williams (Sadie)
ar Wicipedia




Y Golofn Lenyddol.[1]

DAN OLYGIAETH ANTHROPOS.

'SADIE.'

I.

Yn mhlith y llyfrau y byddaf yn eu hestyn oddi ar y silff ar ambell awr dawel yn min nos gallwn nodi 'Twilight Hours,' cyfrol o farddoniaeth. Dyma'r trydydd argraphiad, yr hwn a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1872, gan Strahan a'i Gyf., Llundain, a than olygiaeth y diweddar Ddeon Plumtre. Yr awdures ydoedd Miss Sarah Williams, yr hon a adwaenid wrth yr enw 'Sadie'. Y mae'r Deon Plumtre wedi ysgrifenu cofiant iddi yn nechreu'r llyfr, ond prin iawn ydyw y ffeithiau a roddir ynddo. Gallwn gasglu oddi wrth yr hyn a ddywedir, a hyny yn hynod o gynnil, fod 'Sadie' yn Gymraes, fod ei chartref yn y brifddinas; ac iddi, pan yn dra ieuangc, ddangos arwyddion digamsyniol o athrylith farddonol. Enw ei llyfr cyntaf ydoedd 'Enfysau'r Gwanwyn' llyfr i blant. Ac yn y blynyddoedd dilynol ymddangosodd y rhan fwyaf o'i gwaith barddonol yn y 'Good Words.' Coleddid gobeithion uchel am dani fel awdures; ond, pan oedd ei hathrylith loyw yn ymagor, ac yn dadblygu, disgynodd y lleni ar ei bywyd, a chafodd hithau ei rhestru yn mysg y telynau a dorwyd yn gynnar. Casglwyd pethau goreu ei hawen ynghyd, a dyna ydyw y 'Twilight Hours'—cyfrol goffa i'r farddones ieuangc a hynaws. Ond, os ydyw yr hyn y barnwyd yn ddoeth i'w gyhoeddi am ei bywyd personol yn ychydig ac yn brin, y mae ei chynnyrchion barddonol yn dadguddio nodweddion ei meddwl—ei dull o feddwl.

II.

Meddai welediad cryf a chraff, a'r gallu i dreiddio at hanfod pethau. Nid caneuon ysgafn, arwynebol, ydyw yr eiddo Sadie; ond mynegiad dwys, angerddol, o deimladau dyfnaf y galon ddynol. Nid ydynt yn meddu y melodedd a'r perseinedd hwnw sydd yn nodweddu telynegion yn gyffredin, ond y mae ysbryd barddoniaeth fyw a gwreiddiol yn amlwg ynddynt. Yr oedd 'Sadie' yn berchen meddwl defosiynol. Y mae ambell i ddarn o'i heiddo yn debyg i fiwsig mawreddog yr organ mewn eglwys gadeiriol. Ac etto, yr oedd ynddi feiddgarwch ac annibyniaeth yr ymofynydd gonest am oleuni, ac am wirionedd. Yn y dyfynindau byrion a roddir o'i llythyrau yn y 'Coffant, ceir rhyw fantais i farnu am y dylanwadau fu yn ffurfio ei meddwl, ac yn agor drysau ei myfyrdod. Gallwn dybied mai un o'r rhai penaf ydoedd George Macdonald. Bu ei waith ef, ac yn enwedig ei 'Unspoken Sermons,' yn fanna cuddiedig i'w hensid. Ymdeimlai Sadie' a chyfriniaeth bodolaeth—the mystery of being—ac y mae y cywair lleddf yn treiddio drwy ei chynnyrchion. Nid oedd yn medru boddhau ei hunan, fel awenyddes; ac y mae yn tynu cysur o'r ffaith fod yna le i eneidiau anorphenedig— 'unfinished souls'—yn nefoedd Duw. Dyna ydoedd ei thymmherodd naturiol —rhyw anfoddogrwydd oedd yn peri iddi syllu dros orwel amser i'r dyfodol mawr a chudd Dywed ei chyhoeddwr —Mr. Strahan—ei bod yn ymddangos iddo ef fel un yn byw ar gyffiniau yr anweledig—'like a soul apart." Yr oedd yn siriol a chymdeithasgar; ond, yn nghanol ymddiddan, enciliai ei meddwl i ryw neillduseth; ac nid oedd pethau cyffredin ymddiddanion yn meddu iddi nemawr atdyniad na swyn.

III

.

Nid bob amser y gellir darllen barddoniaeth 'Sadie.' O'r braidd y gellid gwneyd hyny ar ddiwrnod heulog, clir, pan y mae pobpeth yn ddifyr o'n hamgylch. Ond, yn oriau y gwyll—y 'twi— light hours'—y mae y llyfr hwn yn gydymaith gwerthfawr a mwyn. Yr ydym yn teimlo fod yr awdures ieuangc wedi 'profi pethau nad adnabu'r byd;' ac wedi llwyddo i ddehongli aml i adnod ddyrus, anhawdd, yn nghyfrol bywyd. Dichon mai yn yr elfen hon—yr hiraeth am 'loywach nen'—y ceir y prawf amlycaf—prawf mewnol, fel y dywedir o'i haniad Cymreig. Y mae awen y Celt yn caru'r encilion, ac yn hoffi cerdded llwybrau'r gwyll a'r cyfnos. Ceir hi mewn cyfathrach â'r gwyntoedd gauafol, y gwyntoedd hiraethus;' a thramwya drwy goedwigoedd lle bo'r dail wedi erino, ac unigedd yn sibrwd ei gyfrinion cudd. Ac er fod 'Sadie' yn byw. ar ymylon y brifddinas, yr oedd ei chalon hithau, fel yr eiddo Ceiriog:—

'Yn y mynydd, gyda'r grug.'

Ac y mae y mynydd, y rhaiadr, a'r nentydd grisialog, yn cael eu delweddu yn ei chaniadau. Dywedir y byddai yn arfer ymweled â Chymru,' er nad ydyw y manau bu' yn cael eu crybwyll o gwbl. Diau iddi weled y Wyddfa; a dichon ei bod, yn nyddiau ei maboed, wedi bod yn dringo ei chopa gwyn,

A chwareu ar ei choryn.'

Y mae ganddi un dernyn lled hynod, o'r enw Snowdon and Vesuvius— math o ymgom rhwng y ddau fynydd! Nid oeddynt wedi gweled eu gilydd erioed, ond y mae y naill yn cyfarch y llall o'r pellder. Gellid meddwl fod y Wyddfa braidd yn eiddigedus wrth y llosg-fynydd. Teimlai hi fod y bobl oedd yn byw o'i chwmpas yn ddiystyr o honi, a charasai gael benthyg lava Vesuvius i ddysgu gwers iddynt ar ostyngeiddrwydd! Ond, y mae'r llosg-fynydd yn ymresymu â'r Wyddfa, ac yn galw ei sylw at yr alanas a barai ei ffrwydriadau ar fywydau plant dynion. Gobeithio yr ydym fod Vesuvius wedi argyhoeddi y Wyddfa o'i chamsyniad; ac yr erys, hyd ddydd adfail y cread, yn 'Eryri Wen.' Ond y mae yn y llyfr un gân sydd yn appelio yn uniongyrchol at galon a serch y Cymro—'O, fy hen Gymraeg' Portread ydyw o'r hyn sydd wedi digwydd ganwaith Cymraes ar ei wely angau wedi myn'd, yn moreu ei hoes, o fryniau Cymru i Lundain. Y mae'r hen gysylltiadau yn darfod, a hithau wedi ymgymmysgu a'r bywyd Saesnig. Cillodd Cymru a Chymraeg o'i meddyliau, a diflanodd yr iaith o'i chof. Saesneg sydd ar y aelwyd: Saeson ydyw y plant. Aeth y blwyddi heibio; a dyna hi, mewn hensint a llesgedd ar ei chlaf wely, mewn heol fechan, gul, yn y brifddinas. Y mae ei merch yn gwylio wrth ei gwely, a'r nos—nos olaf iddi ar y ddsear wedi dyfod. Ond, yn yr oriau hyny, ymruthrodd un o weledigaethau boreuddydd oes ger ei bron. Y mae yn gweled el hun mewn ardal fynyddig yn Nghymru, ac yn cyfarch ei merch oedd yn eistedd ger llaw—O fy hen Gymraeg! Wele efelychiai led rydd o eiriau y gân

Na, nid oes eisieu dim, fy merch,
Cymmerwch y ganwyll i ffwrdd,
Câf ddigon o oleu i huno yn awr,
A'r dydd ddaw'n fuan i'm cwrdd:
Dim ond un peth sydd eisieu,
Yn nyfnder fy nghalon i—
O, am un gair o iaith fy mam,
A'r weddi arferai hi!
'O, fy hen Gymraeg!'

Dylaswn eich dysgu i'w siarad
Pan ydoedd fy meddyl yn glir,
Ond eiliodd i ffwrdd, gycs phethau lu,
Sydd yn y gorphenol hir:
Dim ond rhyw afon lydan
A welaf yn awr ar fy hynt.
Pa le mae y bryniau gwyrddlas?
Y bryniau a grwydrais gynt—
'O, fy hen Gymraeg!'

Mae'r bobl yn oer ac estronol,
Anwylyd, nid felly chychwi!
Mae'r awyr yn ddu ac ystormus,
A'r heol—mor oer ydyw hi!
Does yna ddim Cysur na thegwch
I'w ganfod i'r llygaid hyn,
Fu'n syllu ar flodau y gwanwyn.
A'r glesni ar lechwedd y bryn:
O, fy hen Gymraeg!'

Ond, ust! am funyd, anwylyd,
Golygfa i f'ymel ddaw—
Y anerch lle byddem yn chwareu,
Dan gysgod y mynydd draw;
Ac yno, ar foreu hafaidd.
Daeth un o genhadon hedd,
Gan sibrwd yn dyner â phlant y fro,
A goleu y nef yn ei wedd:
O, fy hen Gymraeg!'

Casglasom yn dyrfa o'i ddeutu,
Gan draethu'n breuddwydion ffol,
A gwelais dynerwch el lygaid dwys.
A ninnau yn gwasgu i'w gol:
Ai tybed y daw ein breuddwydion i ben?
Ai cysgod i gyd ydynt hwy?

Attebodd—ei weled yr ydwyf yn awr,
Yn sefyll dan gysgod y mynydd mawr,
Mae holl ddymuniadau calon dyn
I gael eu llanw gan Dduw ei hun,
Ac ni fydd un gofid mwy."
Gorphwysfa! O, gorphwysfa!
Gogoniant! Amen!"

Ar waelod y ddalen dywedir fod y geirau olaf yn y gân yn cyfeirio at y floedd orfoleddus a glywid yn nghymmanfaoedd pregethu Cymru; ac mai gwrandaw ar yr ymadroddion hyn a roddes syniad i Handel am yr Haleliwiah Chorus. Pa le y clywodd Handel 'hwyl gorfoledd' oedfaon Cymru, tybed? Bu yn teithio drwy ranau o'r wlad fwy nag unwaith. A fu efe ar Green y Bala? A glywodd efe rai o gewri y pulpud Cymreig? Dichon mai dyfalu yr ydym, ond meddylier am Handel yn gwrandaw torf yn gorfoleddu ar Green y Bala,' Ac wrth wrandaw yn cael y drychfeddwl ardderchog sydd wedi ei weithio allan yn yr Halleliwiah Chorus.' Os felly, y mae gan Gymru reswm arbenig dros fawrhau y gydgan anfarwol hono, a'i chanu yn ei phrif wyliau cenedlaethol.

Nodiadau

[golygu]
  1. Y Golofn Lenyddol. Baner ac Amserau Cymru; 5 Awst 1908

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.