Neidio i'r cynnwys

Am fod fy Iesu'n fyw

Oddi ar Wicidestun
Mae lluoedd maith ymlaen Am fod fy Iesu'n fyw

gan John Thomas, Rhaeadr

O! Dduw, rho im dy hedd

663[1]Diogelwch y Saint yng Nghrist.
66. 84. D.

1 AM fod fy Iesu'n fyw,
Byw hefyd fydd ei saint;
Er gorfod dioddef poen a briw,
Mawr yw eu braint:
Bydd melys lanio draw,
'N ôl bod o don i don;
Ac mi rof ffárwel maes o law
I'r ddaear hon.

2 Ac yna gwyn fy myd,
Tu draw i'r byd a'r bedd:
Caf yno fyw dan foli o hyd
Mewn hawddfyd hedd;
Yng nghwmni'r nefol Oen,
Heb sôn am bechod mwy,
Ond canu am ei ddirfawr boen
Byth gyda hwy.

—John Thomas, Rhaeadr

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 663, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930