Anturiaf at ei orsedd fwyn
Gwedd
← Ni fethodd gweddi daer erioed | Anturiaf at ei orsedd fwyn gan William Williams, Pantycelyn |
Iesu, difyrrwch f'enaid drud → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
107[1] Ffyddlondeb Crist.
M. C.
1.ANTURIAF at ei orsedd fwyn
Dan eithaf tywyll nos;
Ac mi orffwysaf, doed a ddêl,
Ar haeddiant gwaed ei groes.
2.Mae ynddo drugareddau fil,
A chariad heb ddim trai,
A rhyw ffyddlondeb fel y môr
At ei gystuddiol rai.
3. Mi rof ffarwél i bob rhyw chwant-
Pob pleser is y nen;
Ac yr wy'n cymryd Iesu o'm bodd
Yn Briod ac yn Ben.
4. Ni welaf wrthrych mewn un man,
O'r ddaear las i'r ne',
A dâl ei garu tra fwyf byw,
Yn unig ond Efe.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 107, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930