Ar ôl i fy Nghariad Farw

Oddi ar Wicidestun
Neidio i: llywio, chwilio

gan Dafydd Nanmor

Caru merch ifanc hirwen,
a marw wnaeth morwyn wen.
Gweddw am hon yn y bronydd
yw'r gog a'r bedw a'r gwþdd.
Os marw hon yn Is Conwy -
ni ddylai Mai ddeilio mwy!
Gwywon yw'r bedw a'r gwiail
ac weithian ni ddygan' ddail.
Och un awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd...