Neidio i'r cynnwys

Ar fore dydd Nadolig

Oddi ar Wicidestun

Ar fore dydd Nadolig

Anhysbys

Ar fore dydd Nadolig
Esgorodd y Forwynig
Ar Geidwad bendigedig;
Ym Methlem dref y ganwyd ef
Y rhoes ei lef drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.

Dros euog ddyn fe’i lladdwyd
Ac mewn bedd gwag fe’i dodwyd
Ar ôl y gair ‘Gorffennwyd’;
Ond daeth yn rhydd y trydydd dydd
O’r beddrod prudd drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.

O rasol Fair Forwynig,
Mam Ceidwad bendigedig,
Yr Iesu dyrchafedig.
Ger gorsedd nef eiriola’n gref,
A chwyd dy lef drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.