Neidio i'r cynnwys

Ar y Groesffordd/Act I—Gweithdy'r Saer

Oddi ar Wicidestun
Cymeriadau ac Actau Ar y Groesffordd

gan Robert Griffith Berry

Act II—Cegin Dic Betsi

AR Y GROESFFORDD

ACT I
Gweithdy'r Saer

[Mae bwrdd hir-gul yn ymestyn gyda'r mur sy gyferbyn â'r edrychwyr. Ar y muriau gwelir ychydig o offer gwaith saer yn grogedig yma ac acw gyda thri neu bedwar o focsis wrth y muriau ar y dde a'r chwith i eistedd arnynt, a naddion ac ysglodion ar y llawr. Arwain y drws sydd ar y chwith i'r tŷ sy'n gysylltiedig ar gweithdy, a'r un ar y dde i'r heol. Pan gyfyd y llen gwelir y saer yn plaenio planc a'i brentis yn dal un pen i'r planc rhag symud. Drwy'r act hon pan bo hynny'n gyfleus, mae'r saer i'w weld yn brysur gyda rhyw ran neu gilydd o'i waith.]

JARED: (gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ychydig): Be fuost ti'n neud a'r plaen yma, Harri?

HARRI: Plaenio, Mistar.

JARED: Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo. Does dim blewyn o fin arno fo rwan beth bynnag. (Deil ef gyferbyn ai lygaid.) Mae ma dolc ne ddau arno fo hefyd. Estyn y plaen arall na. (Estynnir ef, a chais Jared blaenio, ond yn ofer.) Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed?

HARRI: Do, am spel, mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi.

JARED: Oh, felly wir! Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar.

HARRI: O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn.

JARED: Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"—P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ol y dicsionari.

HARRI: Tybad, mistar? "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê?

JARED: Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell yn siwr iti.

HARRI: Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor.

JARED: Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs. Ond wastio amser ryda ni rwan: gad i ni olchi arni yn o gwic, achos ma hi'n mynd ymhell ar y dydd. 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen—dojio'r hoelion wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar. (Daw Dafydd Elis y postman i mewn o'r dde efo cadair.) Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?

ELIS: Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonnom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr a ni'n glwt i'r llawr. Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen.

JARED: Cato pawb! peth sad fasa i'r gweinidog newydd gael ei godwm cynta yn dy dŷ di. Ond marcia di ngair i, mae rhywun yn mynd i gael codwm yn y gweithdy ma heno. Diaist i, mi rof Ifan Wyn i eiste arni: watsia di 'rhen grydd yn llyfu'r llawr. Mi gosodwn hi i sefyll y fan yma a golwg mor ddiniwed a'r gloman arni hi. (Gesyd hi wrth y wal ar y chw'ith.) Eiste'n rhywle, Dafydd nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl gŵr y Plas i'w orffen.

ELIS: Dos di ymlaen. Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw.

JARED: Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli. Eiste'n rhywle, ond nid ar y gadair goes glec na. Ifan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna.

ELIS: Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau a thi ar ol dy holl gastiau.

JARED: Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.

ELIS: Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau'i briodi, Jared?

JARED: Dyna oedd yn y rhan i hwyrach. (Daw Morgan Hopcyn y siopwr i mewnyn ei ffedog wen.) Pa siap sydd ar y siopwr heno?

HOPCYN: Cyn i mi anghofio Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?

JARED: Be sydd ar y tacla heddiw? Rwan jest roedd Dafydd am i mi roi coes ei gadair yn ei lle rwan dyma titha'n gofyn i mi ostwng y chwydd yn dy shetar. Mae'r gweithdy ma'n mynd yn rêl surjary doctor. (Cenfydd Hopcyn yn cyrchu at y gadair.) Hopcyn! Biwêr! Cadw draw oddiwrth y gadair na. Ifan Wyn sy'n mynd i gael ei gaedirio yn y steddfod hon (chwardd y lleill). Howld! dyma sŵn i droed o! Mor sobr a judge bob copa ohonoch chi rwan. (Daw Ifan i mewn yn ei ffedog byg-ddu ac yn llewys ei grys.) Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad.

IFAN (dan fopio'i dalcen): Brensiach fawr! yn nath hi ddiwrnod chwilboeth heddiw, fechgyn? Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd?

ELIS: Oedd nen tad, on beth am danat ti ar dy sêt grydd?

IFAN: Gwarchod pawb! chês i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgryn, pe gallswn i.

JARED: Go lew di, Ifan! Mi feddyliaist am y deunydd teneuaf yn bosibl ar wrês, achos ti ydi'r creadur mwya croen-deneu'n y wlad. Tyrd, rhen bellen gwyrcrydd, rwyf wedi cadw'r gadair acw i ti yn arbennig. Aros, mae drychfeddwl wedi nharo, ti yw'r bardd cadeiriol, Ifan, a finna ydi'r archdderwydd yn d'arwain dros y llwyfan. (Ymeifl yn ei fraich a rhydd ef i sefyll â'i gefn ar y gadair.) A oes heddwch? (Etyb y lleill "heddwch.") Steddwch, Mr. Wyn yng nghadair beirdd Ynys Prydain. (Eistedda Ifan a syrth i'r llawr ynghanol chwerthin.)

IFAN (yn ddigofus): Twt lol! rwyt ti mor ddwl a llo blwydd, Jared. Rhyw jocio'n dragwyddol rwyt ti. Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: clown mewn syrcus ddylset ti fod.

JARED: Dyna fi wedi profi'r gosodiad wnes i rwan jest mai croen teneu enbyd sy gen ti: mae o fel croenin pwdin reis. Ond eiste, Ifan bach, a gad i ni anghofio'n poen mewn mwg baco. (Estynna'r blwch baco iddo.) Lodia dy getyn a phasia fo rownd i'r postman.

IFAN: Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio.

JARED: Mae'n syn i mi na fasa ti, Hopcyn, yn smocio, a tithau'n gwerthu baco. Ar fy ngair i, dos gen ti o bawb ddim hawl i beidio smocio.

HOPCYN: Sut hynny?

JARED: Wel os wyt ti'n credu fod smocio'n arferiad drwg, ac mi wn dy fod, pam gebyst wyt ti'n gwerthu baco? Os wyt ti o'r farn mai gwastraff ar arian ydi smocio, ymhle mae dy gysondeb yn ei werthu dros y cowntar? Wyt ti ddim yn gweld dy fod fel Satan yn temtio'r crydd a'r postman a finnau i syrthio i'r arferiad ac i wastio'n harian prin?

HOPCYN: Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus.

JARED: Rhen gribiniwr arian! rwyt yn barod i bocedu pris y gwenwyn wyt ti'n gredu sy'n lladd Ifan a Dafydd a finnau'n raddol. Mi grafi di'r pres baco sy'n ein tlodi ni'n tri, ffei o honot!

IFAN: Pwya fo, Jared. O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad.

HOPCYN: Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?

IFAN: Gyr ymlaen.

HOPCYN: Ti sy'n gneud sgidia i'r gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.

JARED: Howld! nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo.

HOPCYN: Run peth yn hollol ydi'r ddau. Ac mae gen i damaid bach i titha i'w gnoi, Jared. Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i ŵr y Plas, yn dwyt ti?

JARED: Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.

HOPCYN: Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.

ELIS: Yn ol dy syniad di felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?

HOPCYN: Ddwedais i mo hynny Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch. Y ffaith ydi hyn, os chwiliwch i mewn yn fanwl i betha, mae pawb, fwy neu lai, yn gorfod bod yn anghyson. Cymer dy hunan fel engraifft Dafydd: rwyt ti'n cario bwndeli o bapurau Toriaidd i ŵr y Plas sy'n lledaenu Torïaeth er dy fod dithau'n galw dy hun yn Rhyddfrydwr mawr, a chi'ch tri sy'n fy nghael i'n brin o gysondeb. Sgubwch yn lan o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i.

JARED: Hanner munud! rwyt ti'n union fel rhen longwr na fydd yn dod i ffair Caerdref i gael i rwymo â rhaff, mae'n llithro o bob cwlwm, ond mi ro i gwlwm dolen ar dy sodla na fedri di syflyd gam ohono. Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti?

HOPCYN: Ydw.

JARED: Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?

HOPCYN: Dos ymlaen a'th ymresymiad.

JARED: Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim use i faco o gwbl ond i'w smocio. O'r goreu; mae baco felly'n ddrwg ynddo'i hunan, ond am y sgidia mae Ifan yn i neud i Mr. Blackwell y Plas mae rheiny'n bethau anghenrheidiol achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia.

HOPCYN: Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr. Blackwell?

IFAN: Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi a pheth arall ydi hynny.

HOPCYN: Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bar o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod?

IFAN: Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs.

HOPCYN: Ah! cwiblo rwyt ti rwan.

IFAN: Nage'n siwr; yn ol dy syniad di—anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs; a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs.

HOPCYN: Ia, achos rwyn siwr na fasa'r Apostol Paul ddim yn gneud tent—gneud tentiau oedd i grefft o—fasa fo byth yn gneud tent i anffyddiwr ac i gablwr.

JARED (gan annerch Harri): Harri, picia dros y ffordd a galw ar Mr. Harris y gweinidog i ddod yma am ychydig. Wedyn mi elli gadw noswyl. Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory. (Exit HARRI.)

HOPCYN: Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog Jared?

JARED: Fo gaiff setlo'r ddadl ma.

HOPCYN: Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni.

IFAN: Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar.

JARED: Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y Coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti.

ELIS: le, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol.

IFAN: Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson.

MR. HARRIS (gan ddod i mewn a syllu o'i gylch): Pwy fasa'n disgwyl cyfarfod â blaenoriaid Seilo'n drefnus hefo'i gilydd yma?

JARED: Does gyno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris?

MR. HARRIS: Yn erbyn? Welwch chi, Jared Jones, hen jeinar ydw inna hefyd; mewn gweithdy saer y bum i am flynddoedd cyn mynd i'r coleg, a byth er hynny mae gen i rywbeth i'w ddeyd wrth y gweithdy. Yno y clywais i ugeiniau lawer o ddadleuon cryf ar wahanol bynciau. Jared Jones, ga i drio'm llaw ar y tools ma am funud i weld ydi mysedd a nhw'n dal i nabod i gilydd?

JARED: Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha. (Tyn Mr. HARRIS ei got hanner oddiamdano.) Cyn i chi drioch llaw setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma. Rwan, beth ydi'ch barn chi? Gneud tentia oedd crefft yr Apostol Paul yntê? Fasa Paul yn foddlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr?

MR. HARRIS: Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?

JARED: Ia siwr.

MR. HARRIS: Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud tent i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."

HOPCYN: Ond fasa Paul yn gneud tent i un o elynion y Brenin Mawr?

MR. HARRIS: Basa, greda i, ac mi fasa wedyn yn mynd at y dyn i'r tent i geisio gneud gwell dyn ohono fo. A chyda llaw mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib.

JARED: Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.

MR. HARRIS: Dyma'n agos i fìs er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad. Mi leiciwn ar gychwyn fy ngweinidogaeth roi gwâdd iddyn nhw i'r capel: mae hynny'r peth lleia fedra i neud. Mae gobaith i ddyn go ddrwg ond ei gael i sŵn pethau da. Be ydi'ch barn chi? (Pawb yn fud.) Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun.

JARED: Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol. Tyrd, Ifan Wyn, dywed rywbeth, seinia gân yn lle bod yn fudan.

IFAN (gan chware â' i getyn): Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio.

MR. HARRIS: Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?

IFAN: Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.

HOPCYN: Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.

MR. HARRIS: Does dim gorfodaeth ar neb wrth gwrs, ond tybed na ddylwn i roi gwâdd caredig i bobl nad ydynt byth yn mynd i gapel nac eglwys—dangos fod gennym ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag. Cofiwch, dydw i ddim yn disgwyl i neb ohonoch chi fel swyddogion ddod hefo fi rownd y tai ma.

HOPCYN: Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am goods.

IFAN: Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt—y gweilch drwg.

JARED: Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad. Da chi rhowch bregeth i ni rai o'r Suliau nesa ar y gair ddeydodd Eliseus wrth y wraig honno: " Dos gwerth dy olew a thâl dy ddyled." Mi wnae un bregeth felly'r byd o les.

MR. HARRIS: Mi gofia'r cyngor, Jared Jones. Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhy w le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny. (Cyfyd pawb ac arwyddant yn eu ffordd eu hunain eu cyd-syniad.)

IFAN: Mae un tŷ er hynny y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.

HOPCYN: Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg—cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglâs. Richard Davies ydi enw'r dyn, ond fel Dic Betsi y bydd pawb yn i nabod o. Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag.

IFAN: Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail. Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl.

MR. HARRIS: Gŵr gweddw ydi o?

IFAN: Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drôdd i feddwi a chafodd sac o'r plâs, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy botsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.

MR. HARRIS: Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.

HOPCYN: Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon druan wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad—rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys— mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn. Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gomchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol.

MR. HARRIS: Wel, yn wir, tŷ go anobeithiol i alw ynddo yw hwnna, ac eto gresyn fasa i mi beidio galw yno unwaith o leiaf. Pwy ŵyr na ddaw rhyw les o ymweld â nhw?

IFAN: Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris. Wrth gwrs fe gewch neud fel y mynnoch, ond yn siwr i chi gwell i chi beidio galw yno.

MR. HARRIS (dan hwylio i fynd allan): Diolch am y rhybudd, ond y cwbl alla nhw neud ydi tafodi dipyn arna i. Mi ddo'i yma rai o'r dyddiau ma, Jared Jones i gadw'm llaw i mewn fel jeinar, mae'n rhy hwyr heno. Nos dawch bawb ohonoch.

PAWB: Nos dawch, Mr. Harris. (A Mr. Harris allan, ac mae ennyd o ddistawrwydd yn y gweithdy.)

JARED: Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn! Ac mae'n dda gen i fod o am alw i weld Dic er mwyn rhoi siawns i'r hen walch. Hwyrach wedi'r cwbl fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi.

IFAN: Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i?

JARED (dan briddhâu): Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha.

IFAN: Ah! rwy'n cofìo rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha yn doeddet ti cyn i Dic ddod i'r ardal ma?

JARED (yn drist): Oeddwn, waeth cyfadde'n onest, ond Dic gariodd y dydd, ac yr oedd yntau'n gamp o ddyn bum mlynedd ar hugain yn ol. Ond druan o Martha, byd helbulus gafodd hi, a doeddwn i ddim yn leicio'ch clywed mor lawdrwm ar Nel Davies. Os Dic ydi thad hi, Martha oedd i mam hi. Wel, nos dawch. Mi faria'r drws 'ma ar eich holau.

PAWB (wrth fyned): Nos dawch! (Baria Jared y drws ar eu hol, ac wrth droi i fynd i'r tŷ drwy'r drws ar y chwith gwel Nel yn sefyll yno a shol ar ei phen.)

NEL (gan ddod i'w gyfarfod yn erfyniol): Jared Jones, mae nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ; mi yfodd yn drwm heddiw ac mae o'n gynddeiriog yn i ddiod. Wyddwn i ddim i ble i droi, ond yma y bydda i'n dod am gymwynas. Ga i aros yn y gweithdy ma heno?

JARED: Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin a gneud hynny.

NEL: Wn i ddim sut i ddiolch i chi.

JARED: Does dim i ddiolch am dano. Fe wnawn ragor na hyn i ferch Martha'r Wern Lwyd. Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi.

NEL: Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?

JARED: Mi fyddaf fel y bedd. Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun.

NEL: Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan.

JARED: Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n grand. (A Nel i'r tŷ am y glustog.)

NEL: Dyma hi.

JARED: Nos dawch!

NEL (gan fynd drwy'r drws i'r tŷ): Nos dawch!

[Disgynna' r llen ar Jared yn gosod y glustog ar y bwrdd i gysgu arni.]