Ardderchog Angel, gadarn Ior

Oddi ar Wicidestun

Mae Ardderchog Angel, gadarn Ior yn gyfieithiad gan John Bryan o emyn Charles Wesley Come, O thou traveller unknown

Ardderchog Angel, gadarn Ior,
Gwrthddrych addoliad nefol gor,
O'r neilldu'n unig 'rydwyf fi
Yn ymdrech am dy fendith di;
Y mdrechu wnaf nes tori'r wawr,
Er cloffi yn yr ymdrech mawr.

Fy ngafael nis gollyngaf mwy
Nes llwyr iachau
fy nwfwn glwy';
I 'mofyn am y fendith fawr
Tro'is i o'r neilldu yma'n awr;
Ymdrechu wnaf, O Arglwydd Dduw,
Nes gwneir fy enaid marw'n fyw.

Nid rhaid im' dd'wedyd pwy wyf fi,
Ond d'wed, O d'wed im' pwy wyt ti!
Ai ti yw sail caniadau'r ne'-
Y Gŵr fu farw yn fy lle?
Am hyn ymdrechaf wrth dy draed,
Nes profi'n wir rinweddau'th waed.

Mae ngweddi'n llwyddo gyda Duw,
Fy Nghraig, fy Nhŵr, fy Nghastell yw;
Trwy ffydd gorchfygais ar y llawr, -
Aeth Jacob wan yn Israel 'nawr!
'Ngelynion mawr nid ofnaf mwy,
Fy noddfa glyd yw Iesu a'i glwy'.

Er cloffi yn yr ymdrech maith,
Mi âf yn hyf i ben fy nhaith;
'Rwy'n tynu tua'm cartref fry,
Fy etifeddiaeth yno sy;
Lle'r aeth fy nhadau o fy mlaen,
I seinio'n gu dragwyddol gân.