Neidio i'r cynnwys

Arglwydd, arwain trwy'r anialwch

Oddi ar Wicidestun
gan William Williams
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog, Hollalluog,
Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan.
Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan


Agor y ffynhonnau melus
'N tarddu i maes o'r Graig y sydd;
Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
Rho i mi fanna, Rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Fel na bwyf yn llwfwrhau.


Pan yn troedio glan Iorddonen,
Par i'm hofnau suddo i gyd;
Dwg fi drwy y tonnau geirwon
Draw i Ganaan - gartref clyd:
Mawl diderfyn. Mawl diderfyn
Fydd i'th enw byth am hyn.
Fydd i'th enw byth am hyn.