Neidio i'r cynnwys

Arianwen

Oddi ar Wicidestun
Arianwen

gan Thomas Gwynn Jones

   (Yn null Rhys Goch ap Rhiccert.)

Gorne gwendon, gwynder meillion,
Pefr olygon, mal ser ceinion;
Glan dy galon, gloes fy nwyfron,
   Gloes fy nwyfron,
   Gwae fy nwyfron!

Mwyna' gwenferch, gwynfyd annerch
Di-ofal serch ar las lannerch;
Garw mor erch poen per draserch —
   Gwae wefr traserch,
   Boenus draserch!

Dere, lanwen, hoff Arianwen,
At y dderwen laes ei changen;
Dwg im' deg wên fwyna' feinwen —
   Gwae fi, feinwen,
   Gwae fi, feinwen!

Cywira'th oed ar fuandroed,
Brys i'r mangoed draw yn ddioed;
Un ddraen na roed drais i'th geindroed,-
   Gwae fi geindroed,
   Dybrys, geindroed!