Arthur yn Cyfodi

Oddi ar Wicidestun
Arthur yn Cyfodi

gan R Silyn Roberts

Yng nghyfrin ogo'r tylwyth teg
Wrth odreu'r dal Elidir,
Yng nghanol ei farchogion dewr,
Gorffwysa'r Brenin Arthur;
Ac addaw wnaeth wrth ado'r byd,
I wella o'i archollion,
Y deuai'n ôl os byddai plant
Ein gwlad i'r gwlad yn ffyddlon,

Ar ôl canrifoedd chwerwon maith
O ruddfan a galaru,
Y dwyrain ddengys doriad gwawr
Oes euraidd hanes Cymru;
Mae arfau dur ar hyd y wlad
Yn peri trws a chyffro
Wrth naddu meini temlau dysg, —
Mae Arthur wedi deffro,

Llawn och a galar fu ein gwlad
Er pan y clwyfwyd Arthur,
A than ddyrnodiau gorthrwm du
Bu llawer Cymro'n ferthyr;
Ond methodd gormes lem a grym
Gelynion ein difodi:
Mae Cymru'n bod, a'r iaith yn byw,
Ac Arthur yn cyfodi.