Astudiaethau T Gwynn Jones/Y Deml Gladd

Oddi ar Wicidestun
O'r Neilltu Astudiaethau T Gwynn Jones

gan Thomas Gwynn Jones

Llyfrau Ieuenctid

"Y DEML GLADD"

UN o'r meddylwyr mwyaf nodedig sy'n ysgrifennu yn y Ffrangeg yn ein hoes ni, yn ddiamau, yw Maurice Maeterlinck, ac y mae dywedyd hynny amdano yr un peth a dywedyd ei fod yn un o feddylwyr mwyaf nodedig y byd. Dywedodd rhai beirniaid, Tolstoi yn eu mysg, ei fod yn dywyll ac anodd i'w ddeall, ac y mae hynny yn wir am lawer o'i gerddi a rhai o'i ddramâu, megis "Pelleas et Melisande" a "Les Aveugles," cyn belled o leiaf ag y mae gweled eu pwrpas yn mynd. Gellir darllen "Pelleas et Melisande" lawer gwaith trosodd heb ddeall ei hystyr—dyna, beth bynnag, fy mhrofiad i—ac eto, ni wn i am ddim mor fedrus a gafaelgar â rhai rhannau o'r ddrama honno. Pe bernid ef wrth y gweithiau hynny yn unig, nid annheg fyddai dywedyd ei fod yn grefftwr medrus yn hytrach nag yn feddyliwr clir; ei fod yn gwybod i'r dim sut i gynhyrchu'r teimlad a fynno yn y sawl fo'n ei ddarllen, a hynny yn y dull symlaf yn aml, yn hytrach na'i fod yn gwneuthur i bopeth wasanaethu un diben deallus a chlir yn ei waith. Ond yn ei weithiau diweddarach, "Le Temple Enseveli" a "La Vie des Abeilles," y mae ef wedi llwyr newid, nid yn unig o ran dull, ond hefyd o ran agwedd, os nad wyf i yn ei gam ddeall, ac y mae'r llyfr a eilw ef "Y Deml Gladd" ("Le Temple Enseveli") yn sicr yn waith lle y mae'r meddwl dynol yn aml i'w gael ar ei orau a'i gliriaf. Yn yr ysgrif hon, ceisir rhoi crynodeb o gynnwys y llyfr, nid am fod yr ysgrifennydd yn derbyn nac yn gwrthod ei ddysgeidiaeth, ond am ei fod yn ffrwyth meddwl grymus a chlir, ac ysbryd na byddai dyniolaeth ar ei cholled, beth bynnag, pe meithrinid rhagor arno. Rhennir y llyfr yn chwe rhan, dan y pennau a ganlyn: Cyfiawnder, Twf Dirgelwch, Teyrnasiad Mater, Y Gorffennol, Ffawd, Y Dyfodol. Amcan yr awdur, a siarad yn gyffredinol, yw cael allan pa beth sydd wybyddadwy i ddyn o'r hyn y sydd, ar un olwg, o leiaf, yn edrych fel pe bai'n ddirgelwch anwybyddadwy. A yw ef yn ei ymgais yn mynd yn rhy bell neu ynteu'n methu â myned yn ddigon pell, barned y darllenydd drosto'i hun.

Nid wyf i yn deall bod yr awdur yn gwadu Bod Duw, er ei fod yn gwrthod llawer o'r syniadau yr ydys yn gyffredin yn eu coleddu am Dduw. Wrth drin ar Gyfiawnder, dywed ei fod yn ysgrifennu i rai nad ydynt yn credu ym mod un barnwr hollalluog a di—ffael, yn gwylio ein meddyliau, ein teimladau a'n gweithredoedd; yn cynnal uniondeb yn y byd hwn ac yn ei gwpláu yn rhywle arall. Ond, onid oes farnwr, a oes ynteu gyfiawnder amgen nag a luniodd dynion, nid yn unig drwy gyfreithiau a llysoedd, eithr hefyd yn eu holl ymwneud â'i gilydd? Yn ei ymchwil, y mae ef yn cael bod cyfiawnder nad oes dianc rhagddo, bod y cyfiawnder hwnnw yn cau am holl fywyd dyn, a bod yn teyrnasu yn ei ganol yntau ddeall nad yw'n ei dwyllo ei hun ac nas twyllir chwaith. Deil fod cyfiawnder anianol a chyfiawnder ysbrydol yn cynnwys pob ffurf ar gyfiawnder sydd yn ymddangos i ni fel pe'n bod heddiw, uwchlaw cyfiawnder cymdeithasol, ond nad oes dim cyfiawnder anianol yn tarddu o achosion moesol i'w gael yn ein byd ni. Nid yw'r ddaear na'r nefoedd, meddai, natur na mater na'r ether, nac un nerth neu rym a adwaenom ni, yn ymboeni ynghylch cyfiawnder, ac nid oes iddynt y berthynas leiaf â'n moes, â'n meddyliau nac â'n bwriadau ni. Rhwng y byd oddi allan a'n gweithredoedd ni, nid oes onid perthynas syml achos ac effaith, peth nad oes ynddo o angenrheidrwydd ddim moes o gwbl. Er enghraifft, pe neidiai dyn i'r dwfr i achub dyn arall rhag boddi, neu pe syrthiai i'r dwfr wrth geisio boddi dyn arall, yr unpeth yn union fyddai effaith yr oeri a'r annwyd. Eto, nid yw etifeddiant yn cosbi odid ddim onid meddwdod ac anniweirdeb, ac ni bydd byth yn gwahaniaethu rhwng achosion y pethau hynny. Gallai tad fod wedi cyflawni mil o droseddau atgas, wedi llofruddio, bradychu, gwneud cam â'r diniwed ac ysbeilio'r tlawd, heb i'r troseddau hyn adael yr ôl lleiaf ar gyfansoddiad ei blant. Digon i'r tad fod wedi ymgadw rhag gwneud dim a allai effeithio ar ei iechyd. Nid yw etifeddiant moesol ychwaith ond ffurf ysbrydol y llall, ac y mae'r naill mor ddidaro a dall a'r llall. Eto, yn gyffredin, rhwng yr achos a'r effaith, rhwng deddf parhad yr hil a ffrwyth ei gweithrediad, fe fydd digon o gyfatebiaeth i beri i ni synio bod cyfiawnder mewn pethau allanol. Byddwn ninnau, fel ein hynafiaid gynt, yn dehongli'n syniadau yn ôl ein hewyllys, ond nid mor fanwl a chywir â hwy. Pan fo tebyg y bydd drygioni'n wasanaethgar i ni, byddwn yn galw amdano, yn enw y to a ddaw, yn enw dynoliaeth, yn enw ein gwlad; ond pan ddigwydd i ni anffawd fawr, ni welwn ni na chyfiawnder na duwiau yn unman. Y mae oddi mewn i ni ysbryd nad yw'n pwyso onid y bwriadau; oddi allan i ni, gallu nad yw'n pwyso onid y ffeithiau y sydd. Nid rhesymol i ni synnu na chymer y môr sylw yn y byd o ystâd enaid y dyn fo'n aberth iddo, a ninnau a chennym enaid, organ cyfiawnder yn arbennig, heb gymryd un sylw o ddiniweidrwydd miliynau o greaduriaid sy'n ebyrth i ni. Cyn cwyno yn erbyn difaterwch natur a cheisio ynddi degwch na pherthyn iddi, doeth fyddai i ni yn ein cylch ein hunain ymosod ar ddrwg a geir yno; a phan na chaffer ef mwy yno, odid nad ymddengys i ni fod swm yr anghyfiawnderau damwain ddwy ran o dair yn llai.

Yna, ymholir ym mha le y gorwedd dirgelwch Cyfiawnder. Ystyrrid gynt mai yn llaw'r duwiau, a thrachefn fod y duwiau ynddo yntau. Dodwyd ef ym mhob man ond mewn dyn, a phan oeddym bron a chredu nad ydoedd mwyach, dyna ef i'r golwg o waelod ein calon. Felly, medd ef, gyda llawer dirgelwch; nyni yw eu noddfa olaf a'u gwir drigfa, "ynom ni y dont o hyd i'r aelwyd a adawsant i grwydro'r gofod yn afiaith cyntaf eu hieuenctid." Bai arnom yw priodoli bwriadau moesol i natur, ac ymddwyn oblegid ofn cosb neu obaith gwobr; eto nid yw hynny'r un peth â dywedyd nad oes wobr i'r da na chosb i'r drwg- diamau fod gwobr a chosb, ond mai nid o'r lle y tybiwn ni y dont. Nyni sy'n dodi cyfiawnder yn natur. Ni bydd cyfiawnder nac anghyfiawnder ein bwriad ni yn dylanwadu dim ar agwedd natur tuag atom, ond bydd i hynny ddylanwad, a dylanwad terfynol bron bob amser ar ein hagwedd ni tuag at natur. Dyn, mewn gwirionedd, sy'n cosbi dyn, a chyfiawnder dyn sydd yn dial. Bydd gweithred anghyfiawn yn peri i ddyn golli ei ymddiried ynddo'i hun, ac ar ôl llawer gweithred anghyfiawn, bydd y gorffennol yn ein digalonni yn lle ein cynnal. Ni all dyn fyw nac ymddwyn onid mewn cyfiawnder, am hynny y cosbir ein anghyfiawnder; a phan ddêl awr y cosbi, bydd popeth yn ymddangos yn gyfiawn ac yn ein herbyn, er na bo dim felly ynddo'i hun, ond mai nyni, er ein gwaethaf, sy'n parhau'n gyfiawn hyd yn oed yn yr anghyfiawnder ei hun.

Gwelir oddi wrth yr ymresymiad hwn fod yr awdur yn mynd yn groes i'r rhai sy'n rhoi dyn yn rhan, hyd yn oed os y rhan bennaf, o natur, ond y mae ganddo lawer i'w ddywedyd drosto'i hun ar y pen hwnnw hefyd. Gan mai'r cwbl a wyddom ni am natur yw'r hyn y mae hi yn ei wneuthur a'r modd y gwna; gan na wyddom ni mo'i diben hi nac ychwaith a oes iddi gydwybod, nid gwiw i ni ddywedyd yn bendant nad oes iddi foes. Os gwrando ar natur yn unig a wnawn, yna trechaf treisied, gwannaf gwaedded yw'n hunig reol ni, ac y mae'r rhai sy'n dal damcaniaeth datblygiad, er na feiddiont addef hynny, yn seilio eu moes, mewn gwirionedd, ar gyfiawnder natur. Erbyn heddiw, yn wir, dyna'r syniad sydd oddi tan ein holl fywyd, onid yn unig fywyd y teulu— yno yn unig, i'r rhan fwyaf o ddynion, y mae ychydig o wir gyfiawnder, caredigrwydd a serch yn rheoli. Ond gan na ŵyr dyn ba beth yw diben natur, deil Maeterlinck nad oes gennym hawl i'w dynwared, mwy nag y byddai gennym hawl i ddynwared un a wnâi beth a fyddai ddrwg neu greulon yn ein golwg, a ninnau heb wybod y rhesymau, dwfn ac iachus, efallai, a fyddai tan y peth hwnnw. Efallai fod natur, yn ystod canrifau, yn gwneud cam y bydd ganddi ganrifau i'w unioni; ond nid oes i ni, nad ydym yn byw ond ychydig ddyddiau, megis, ddim rheswm dros efelychu'r peth na allwn ei weled yn ei grynswth na'i ddilyn na'i ddeall. Ac onid yw natur yn gyfiawn, y mae hi yn gyson. Pe mynnem ninnau fod yn anghyfiawn, byddai'n dra anodd i ni fod, am y byddai raid i ni fel hithau fod yn gyson; ac yn ei berthynas â'n meddyliau, ein teimladau, ein nwydau a'n bwriadau ni, pa wahaniaeth sydd rhwng cysondeb a chyfiawnder?

Gadawn, medd yr awdur, i rym deyrnasu yn y byd oddi allan, a thegwch yn ein calon ninnau. Wrth astudio ein cariad at gyfiawnder a gwirionedd, efallai y down i ddeall pa beth ydyw'r nwyd honno. Pa un bynnag, byddwn yn sicr—a dyna'r peth pwysicaf o ddysgu sut i'w meithrin a'i phuro.

Eto, gwaith anodd iawn fydd hynny, gan nad yw'n moes ni heddiw yn abl i chwanegu nemor ddim at hen foes y Dwyrain, a feithrinwyd, yntau, wedi'r cwbl yng nghanol trais ac anghyfiawnder erchyll. Pan fo dyn gyfiawnaf at ei berthynasau, ei gyfeillion, ei gymdogion a'i weinidogion, y gwêl ei fod anghyfiawnaf at bawb eraill. Ni wyddom ni ddim eto sut i fod yn gyfiawnach at eraill, o leiaf, ni wyddom sut i fod felly heb ymwadiadau na wnaent nemor les am na allent fod yn unfryd, ac am y byddent yn debyg o fynd yn groes i ddeddfau dyfnaf natur, deddfau sy'n gwrthod ymwadiad ym mhob ffurf ond cariad y fam. Dyna gyfrinach dynol ryw, a bydd honno yn ei datguddio'i hun o dro i dro ym munudau gwir beryglus ei hanes. Hwyrach bod yr awr yn dynesu iddi lefaru o'r newydd.

Dyma, hyd y gwelaf i, beth tebyg i'r "datguddiad" y bydd diwinyddion diweddar yn sôn am dano, ond na fyn Maeterlinck ei ddisgwyl o'r un lle. Araf iawn, medd ef, ac annhebyg iawn i syniadau'r bod unigol yw syniadau'r hil, a chwestiwn difrif yw a ellir drwy ryw ymdrech gyflymu awr neu droi mymryn ar benderfyniadau'r lliaws mawr di-enw sydd o gam i gam yn cyrchu at ryw ddiben nas gwelir. I ni yn y cyfnod hwn, dylai geiriau fel y rhai a ganlyn, a gyhoeddwyd flynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, fod megis geiriau proffwyd:

Ennyd beryclaf dynoliaeth oedd pan dreisiai a phan laddai'r tylwythau cyntefig ei gilydd, pan oedd dial yn cynhyrchu dial a dial am ddial drachefn. Eto, ymhlith pob pobloedd farbaraidd, gyda bod. arfau'r llwyth yn dyfod mewn gwirionedd yn beryglus, gwelid dialedd yn arafu'n sydyn o flaen arfer nodedig a elwid yn bris gwaed.

Cyfeirir yma at y peth a elwid "galanas" yn y Cyfreithiau Cymreig. Tyb Maeterlinck mai un o syniadau'r hil yw hwn, am y buasai'n wrthwynebus ac atgas hyd yn oed gan y doethion. unigol. Greddf y lliaws ydoedd, medd ef, yn ei hamddiffyn ei hun rhag syniadau rhy bersonol, rhy ddynol i ddygymod â thelerau bywyd ar y ddaear. Dyma eto eiriau gwerth eu hystyried yn ddwfn:

Hyd oni chaffo'r hil y ffordd angenrheidiol i helaethu cyfiawnder eto-ac fe'i caiff yn ddi-boen pan fo'r perygl fwyaf, onid ydyw hi wedi ei gael. ac eisoes yn newid rhan o'n diben heb yn wybod i ni-a chan weithio oddi allan fel pe bai iechydwriaeth ein brodyr yn dibynnu ar ein hymdrech ni, y mae i ninnau, megis yr hen ddoethion gynt, gennad i fynd ar dro i mewn i ni ein hunain; ac oni chaffom berffaith dawelwch, odid na chawn obaith annileadwy, canys, er gwaethaf popeth, y mae'n sicr fod yng ngwaelod bywyd moesol pob un ohonom ddelw y cyfiawnder anweledig a di-lwgr a geisiasom yn ofer yn y nef, yn y byd, ac yn nynoliaeth. Dyna lle y mae'r cwlwm deallus rhwng achos ac effaith. Cyfiawnder yw gradd flaenaf y dirgelwch, a phan ufuddhaom iddo ef, gallwn fyned rhagom, yn rhyddach ein hysbryd a thawelach ein calon, i chwilio cyfrinach y dirgelwch ei hun.

Yn yr ail rhan o'r llyfr y mae'r awdur yn olrhain twf ein syniadau am ddirgelwch. Ei ymresymiad yw mai ar amgyffrediad o'r byd, sef yr un peth ag amgyffrediad o'r anhysbys, y mae ein bywyd ni yn gorffwys, ac am hynny nad iawn i ni dderbyn y peth a rydd i ni fwyaf o fwynhad, eithr yn hytrach y peth fydd wiraf yn ein golwg. Y drwg mawr, sy'n dinistrio ein bywyd moesol ac yn bygwth uniondeb ein hysbryd a'n cymeriad, nid ein twyllo ein hunain drwy garu gwirionedd ansicr ydyw, ond dal yn ffyddlon i'r peth na bôm mwy yn ei lwyr gredu. Felly, ein dyled yw chwilio a deall, a meithrin dyheadau digon helaeth i gydfynd â phob ffaith ddi-wad. Nid drwg colli hen gred-daw un newydd yn ei lle, ac oni ddêl, gwell ei fod yn wag na bod ynddo ddim ond hanner cred. Nid gwaith ofer yw darparu lle i wirioneddau a ddaw, cadw trefn dda ar y nerthoedd a ddylai wasanaethu arnynt, a gwneud ynom ein hunain ddigon o ehangder. Er nad yw'n bywyd ni, os mynnir, yn ddim, nad yw'n bod ni na bod ein planed yn ddim ond damwain druenus yn hanes y bydoedd, gwir er hynny mai ein bywyd a'n planed ein hunain yw'r pethau pwysicaf, a hyd yn oed yr unig rai pwysig yn hanes y bydoedd. ini. Yr anhepgor i ni yw ymlynu wrth y gwir fo gwiraf o'r lle yr edrycho dyn arno.

Yma, daw'r awdur at gais dynion i esbonio ac esguso pethau iddynt eu hunain. Dibynnu ar Dynghedfen, medd ef, y mae'r beirdd sy'n disgrifio bywyd, gynt ac eto, am fod hynny yn gyrru pethau y byddai'n boenus eu hegluro ac yn anos fyth eu hesguso, yn ddigon pell i'r anweladwy neu'r annealladwy. Felly y ceisiwyd defnyddio malurion delw y dduwies ofnadwy a reolai yn nhragoedïau Aeschylus, Sophocles ac Euripides—yno y cafodd llawer bardd ddeunydd at lunio duwies newydd, fwy dynol, lai pendant, a haws amgyffred amdani. Ond myn Maeterlinck holi pam y dyd y bardd yn ei gerdd esboniad nas derbyniai mewn bywyd, a gwad y syniad cyffredin iawn fod dynion pan fônt mewn helbul yn gweled gwirioneddau nas gwelant ar oriau tawelach. Nid wyf yn sicr a yw ef yn rhoi digon o bwys ar ddisgyblaeth yr oriau helbulus a chysylltiad y ddisgyblaeth honno â'r oriau tawelach a fydd yn canlyn. Y mae ganddo bob hawl i ofyn "Pa foment y dylid ei dewis i roi ystyr i fywyd?" Nid annheg ychwaith yw ei ddywediad y bydd dehonglydd bywyd yn gyffredin yn dewis yr oriau trwblus, ond ychwanega ef:

Gan nad oes ganddo na'r amser na'r gallu i ddangos holl fân achosion syml anhapusrwydd dyn, gesyd yn eu lle un achos cyffredinol a dyrys; ac ym mha le y ceir hwnnw onid yn y geiriau y byddwn yn eu sibrwd pan fynnom ymostwng mewn distawrwydd-duwdod, rhagluniaeth, tynghedfen, cyfiawnder tywyll ac anhysbys. Onid yw'n bryd adolygu ein cyffelybiaethau a'n cymhariaethau, canys nid dibwys yw byw yng nghanol cyffelybiaethau gau, hyd yn oed pan wypom mai gau font. Diweddu a wnânt trwy gymryd lle'r syniadau y bônt yn sefyll drostynt. Nid yw angau i ni mwy yn gymaint o ddychryn ag ydoedd gynt, ond a yw ein moes yn is, yn llai pur a llai dwfn er pan yw'n fwy unplyg? A gollodd dynoliaeth un teimlad anhepgor wrth golli arswyd? Ac nid yr anhysbys yn natur sydd yn ein dychryn, nid dirgelwch ein byd ni, eithr dirgelwch y byd arall, dirgelwch moesol. Ni rydd daeargryn, er enghraifft, ofn ar ein hysbryd oni thybiom mai gweithred o farn neu gosb oruwchnaturiol fydd. Yr hyn sydd yn peri braw, amgen nag ofn rhag perygl agos ond naturiol, yw'r syniad tywyll am gyfiawnder, y cyfiawnder y mae etifeddiant yn sefyll drosto yn nramâu Ibsen, er enghraifft; mewn gair, ac er gwadu hynny, wyneb Duw sydd yn adymddangos, a hen fflam uffern sydd yn sio eto dan y maen y ceisiwyd ei selio arni. Ond nid yw'r ffurf newydd ar Dynghedfen mor dderbyniol â'r hen ffurf, oedd yn gyffredinol ac amhendant. Nid ydys na mawr nac aruchel am ein bod yn meddwl yn ddi-baid am y peth diadnabod a diderfyn, ac ni bydd y meddwl hwnnw yn wir iachus oddieithr pan fo'n dâl diddisgwyl i'r ysbryd a ymroes yn ffyddlon ac yn llwyr i astudio'r peth terfynedig a'r peth y gellir ei adnabod. O wneuthur hynny, fe welwn yn fuan fod gwahaniaeth nodedig rhwng y dirgelwch sy'n blaenori'r peth nas gwyddom â'r dirgelwch sy'n canlyn y peth y bôm wedi ei ddysgu.

Diau fod y meddylwaith yma yn ddwfn ac yn ddidwyll. Un pwynt yn unig sy betrus, os ydym yn iawn ddeall yr awdur, sef, a ellir dehongli bywyd" yn unig wrth ei oriau tawel, mwy nag wrth ei oriau trwblus?

Yn yr adran ar "Deyrnasiad mater," honna'r awdur fod popeth yn dangos i'r cyfiawn mai ehud fydd, oni bai gael ynddo ef ei hun gymeradwyaeth na ellir mo'i hesbonio, a thâl mor ddi-afael fel mai ofer ddigon yw pob cais o'r eiddom i ddisgrifio hyd yn oed ei fwynderau lleiaf ansicr. Ac eto, meddai, haws fyddai gennym golli cyfoeth, tawelwch, iechyd ei hun, a hyd yn oed flynyddoedd o'n heinioes, na cholli'r gynneddf i ganfod a mwynhau prydferthwch naturiol neu foesol. Fe wêl y darllenydd fod Maeterlinck yma yn dyfod y ddadl rhwng mater a rhywbeth arall, ac er ei fod ef yn ddiau yn cyffredinoli ar y mwyaf wrth sôn am y pwys a rydd rhai dynion ar "brydferthwch naturiol neu foesol"-y mae'n amheus iawn a aberthai "tywysogion diwydrwydd" yn ein gwlad ni geiniog o'u cyfoeth er mwyn un math ar brydferthwch-eto y mae ei feddyliau ar y pwnc yn llawn o bob ansawdd wych ar bwyll dyn. Disgrifia'r mwynhad anghyffwrdd hwnnw a ddaw, dywedwn, i rai dynion wrth ganfod prydferthwch naturiol neu foesol, fel rhyw gylchoedd neu loerennau[1] o oleuni, a thyb mai o gwmpas y lloerennau hynny yr ymgasgl bywyd dyn fwyfwy hyd ddiwedd amser. Gellid maddau i ni yn y cyfnod materol yr ydym yn byw ynddo am amau ffydd o'r fath, ond y mae ganddo ef lawer i'w ddywedyd trosto'i hun. Eddyf fod ein cyfnod ni yn edrych fel pe na bai'n caru dim ond mater, ond gan ei garu," meddai, " eto yn ei ddofi mor brysur fel pe mynnai ei feistroli a'i lwyr adnabod tuag at ryddhau'r dyfodol rhag yr ymchwil aflonydd am ddedwyddwch y mae'n beth naturiol gobeithio ei gael mewn mater, cyhyd ag y bôm heb dreulio ei holl adnoddau a dyfod o hyd i'w holl gyfrinachau."

Er maint y materoldeb hwn, tebyg gan Maeterlinck y daw ryw ddydd wrthdro tra difrif yn erbyn y nwyd am fwyniannau mater. Mynych y dywedir na ddaeth yr awr eto pryd y dichon dyn ganfod yn glir yr hyn a berthyn i'r corff ac i'r ysbryd, ond pa bryd y daw hi, medd yntau, "os myn y rhai y mae'n rhaid bod yr awr wedi taro iddynt ers amser hir, gymryd eu harwain yn newisiad eu dedwyddwch gan ragfarnau tywyll y lliaws?" Gellid gofyn pwy yw'r lliaws, efallai, gan gofio ddywedyd o'r awdur eisoes fod greddf yr hil weithiau'n achub yr hil rhag ei difodi. Ond efallai y dylid gwahaniaethu rhwng termau fel" greddf yr hil" a "rhagfarn y lliaws." Y mae gennym hawl, medd Maeterlinck, i bopeth a ddichon ffafrio a chynnal twf llawn ein cyrff, ond deil yntau, fel athrawon y crefyddau, y dylid pennu terfynau'r hawl honno mor fanwl ag ag y bo modd, am fod y cwbl a groeso'r terfynau hynny yn niweidio'r rhan arall o'n bod, sef yr ysbryd, y sydd fel blodyn y bo'r dail naill ai yn ei fagu neu yn ei fygu. Ar y pen hwn, diau mai ceisio crynhoi ei ddysgeidiaeth ef yn ei eiriau ei hun fyddai orau:

Ar ôl llwyr ymlynu wrth y corff i ddechrau, petrusodd bryd dynoliaeth yn hir rhwng mater a'r ysbryd, ond y mae bellach yn ymlynu fwyfwy wrth y deall. Ein dyled weithian yw bwrw ymaith bopeth na bo'n gwbl fanteisiol i gynnydd y rhan ysbrydol ohonom. Y mae'r pechod yn erbyn yr ysbryd, sef y pechod oedd gan yr Iesu mewn golwg, ac y bwriodd ef y fath anathemau arno, yn dyfod yn bechod difaddau. Ryw ddydd, fe ymgydwedda ein moes â diben tebygol ein rhyw, canys darostwng ei ddull o fyw i gwplau'r diben cyffredinol y barno ef ei fod wedi ei ymddiried iddo, yw unig wir foes unrhyw fod neu fath. Ni ddyliu ystyried y corff yn elyn marwol i'r ysbryd, fel yn yr athrawiaeth Gristnogol, ond dylid cyfyngu arno ac ymwrthod â llawer peth a fynnai; ac y mae hynny yn ddyled, nid ar y goreuon yn unig, ond ar bawb, canys y mae dynoliaeth yn un ac unfryd, a meddwl y lliaws mud yn effeithio ar feddwl a chymeriad y serydd, y fferyllydd, y ffilosoffydd a'r bardd. Y mae'r llafurwr a el i edrych ar fachlud haul, yn hytrach nag i yfed a therfysgu, yn rhoddi cynorthwy di-enw a diarwybod eithr nid dibwys i oruchafiaeth fflam fawr dynoliaeth. Ond gynifer peth sydd i'w wneud a'i ddysgu cyn yr ymgyfyd y fflam fawr honno yn glir ac yn sicr! Yn ein perthynas â mater, ni wyddom ni eto pa beth i'w wneud; ni wyddom sut y dylem ymborthi, ai llysiau ai cig y dylem eu bwyta, na pha swm o fwyd y dylem ei gymryd. Y mae ein deall yn gwyro ein greddf. Y mae effaith alcohol, er enghraifft, ar y lliaws, a thrwy hynny ar y goreuon, yn gymaint fel y mae bron yn amhosibl i syniad am ddedwyddwch mwy llwyr, mwy dwfn, mwy syml, mwy tangnefeddus, mwy difrif, mwy ysbrydol, a mwy dynol gael ei eni. I ba le yr â dynoliaeth? Er na wyddom, na chymerwn lai o bleser yn y daith. Diau y daw llafur yn llai caled a thrwm, a'r pwys yw gwybod sut i ddefnyddio hamdden. Yn y trefi mawr, y mae tridiau o segura yn llenwi'r clafdai â chleifion gwaeth eu sut na thri mis o lafur. Na chredwn mai ofer ein bywyd. Gan dwf coed a llysiau'r cyfnod cyntaf, ac anifeiliaid aruthr yr ail cyfnod, teneuwyd awyr y ddaear fel y gallai eu disgynyddion ei hanadlu. Ufuddhaodd y rhai hynny i drefn eu bywyd, gwnaethant y peth oedd ddyled arnynt. Ac amlwg ein bod ninnau, wrth dryloywi gronynnau o'r un mater hyd y radd sydd gymwys i feddwl dyn, yn pennu at y dyfodol rywbeth na bydd marw mwy.

Diau mai'r darn â mwyaf o liw barddoniaeth arno yn y llyfr i gyd yw'r darn ar y Gorffennol. Egyr yr awdur ei draethiad ar y pwnc â'r paragraff a ganlyn, sy deilwng o'i ddawn ysgrifennu ar ei gorau:

Y tu ôl i ni, ymlêd ein gorffennol yn un olwg hir. Huna yn y pellter, fel tref wedi ei gadael yn y niwl. Dacw rai pegynnau yn dangos ei therfynau ac yn edrych i lawr arni. Ymgyfyd rhai gweithredoedd pwysig yn gyffelyb i dyrau, rhai eto dan oleuni, eraill ar hanner adfeilio, ac yn goblygu o dipyn i beth dan bwys angof. Dacw goed yn dadddeilio, darnau muriau yn dadfeilio, a hydau hirion o gysgod yn mynd yn hwy, hwy. Y mae popeth yno fel pe'n farw, heb symudiad yn y byd, amgen na'r rhith fywiocáu fydd ar y lle gan araf ymddatodiad ein cof. Ar wahan i'r bywyd benthyg hwn, sy'n codi o dranc ein hatgofion ein hunain, y mae popeth yno fel pe'n gwbl ddi-symud, fyth yn ddi-newid, ac fel pe bai rhyngddo a'r presennol a'r dyfodol ryw afon na ddichon dim ei thramwy. Eto yn wir, y mae'r cwbl yn byw, a hynny i lawer ohonom yn fwy angerddol ac yn ddyfnach na'r presennol a'r dyfodol. Mewn gwirionedd, y dref farw hon yn fynych yw aelwyd brysuraf Bod; ac yn ôl yr ysbryd a'u dygo yno, tyn rhai eu holl oludoedd ohoni, treulia eraill hwy yno i gyd.

O'm rhan fy hun, rhaid i mi gyfaddef bod yn hoff gennyf yr amser a fu, yn rhy hoff, fe ddichon. Nid hyfryd i mi, pan ddarllenais y llyfr gyntaf, ymhell oddi cartref, oedd weled y Belgiad yn malu rhai o'm heilunod, ac eto, nid amau gennyf na wnaeth ei waith les i mi pan dybiwn nad oedd ddichon i mi fyw onid yn y gorffennol, pan oedd y presennol yn ddu a'r dyfodol wedi darfod.

Y mae'r syniadau sydd megis wedi tyfu ynom, medd Maeterlinck, yn peri i ni ystyried y gorffennol fel gallu mor bwysig a diysgog â Thynghedfen ei hun. Efô yw'r dynged sydd o'n hôl ac yn ein gwthio, fel y mae'r llall sydd o'n blaenau yn ein tynnu. Dichon dyn amau Tynghedfen, ond nid amau gan neb nerth y gorffennol. Eto, medd ef, nid oes dim yn ein gorffennol onid a roddwn ni ynddo ein hunain, ac y mae yntau yn newid yn barhaus i ganlyn ein presennol. Cymer yn ddioed ffurf y cawg y bydd ein meddwl ni heddiw yn ei gynnull ef ynddo. Yn ein cof y mae ef, ac nid oes dim yn newid cymaint na dim mor hawdd peri argraff arno â'r cof. Y peth sydd o bwys i ni yn y gorffennol yw'r effaith foesol a wneir arnom. gan y digwyddiadau a fu, ac nid effeithiant hwythau arnom ond hyd yr ymwrthodwn ninnau ag effeithio arnynt hwy. Nid ymeifl y gorffennol ond yn y sawl y bo'r bywyd moesol wedi sefyll ynddo, ac ni chymer ffurf arswydus ond ar ôl y safiad hwnnw. Ond bod yn feistr arno, fe a'n gwasanaetha; ond o bydd ef yn feistr arnom ni, fe a'n lladd. Dylai ein beiau yn y gorffennol ein

codi uwchlaw'r beiau y teimlom ein bod eto'n abl i'w cyflawni heddiw, ac fe'n gad ein troseddau pan deimlwn ni na allai un demtasiwn nac un gallu yn y byd ein gorfod i gyflawni eu tebyg mwy. Ni dderfydd eu heffeithiau, y mae'n ddiau, ond ni ddylent hwy gyfodi o'n blaenau onid pan dueddwn drachefn tua'r dibyn lle y maent hwy. Ni all na chyfyd llawer bai ryw ddydd i hawlio'r hyn sy ddyledus iddynt; ond ar ein cydwybod ni a'r farn a roddom arnom ein hunain o'u plegid, y dibynna pa un ai fel dialyddion bygythiol ai fel ymwelyddion da eu hewyllys y dont. Os fel yr olaf y dont, ni wnant ond tywallt i'n calonnau y meddyliau a'r gofid sy'n dyrchafu, yn puro ac yn cysuro. "Na chysgwn yn ein gorffennol," ebr yr awdur; "pan adawom iddo ef rwystro un weithred y mynnem ei gwneuthur, dyna'r pryd y dechreua ein marwolaeth, ac y cymer adeiladau'r dyfodol ffurf beddau."

Yn y rhan sydd ganddo ar Ffawd neu Lwc, sonia'r awdur am y lwc wastadol sydd i ambell rai a'r anlwc gyson sydd i eraill yn y byd. Diau fod rhan fawr o'r lwc a'r anlwc yn ddyledus i ddynion. eu hunain, ond deil ef fod rhan helaeth yn gyfryw fel na ellir eu priodoli onid i ewyllys rhyw allu, gallu a elwir yn gyffredin yn Ddamwain neu Dynghedfen ac enwau tebyg. Daw pethau tebyg i ran anifeiliaid, ond ni bydd neb yn meddwl am feio na duwiau na thynged am eu hanlwc hwy. Y mae ynom ni, oddi tan y bod sy'n ymwybod ag ef ei hun, fod arall dyfnach, sy'n treiddio'n ôl i orffennol nas cyrhaedda hanes, ac ymlaen i ddyfodol nas treulia miliynau o flynyddoedd. Nid hy, medd Maeterlinck, yw credu bod yr holl dduwiau yn ymguddio yno, ac y dont allan yn eu tro er rhoddi i'r peth enw a ffurf y gall ein dychymyg eu hamgyffred. Ac yn y bywyd hwn y dylid chwilio am esboniad ar ein lwc neu ein hanlwc.

Gwelir fod yr awdur yn ein harwain i le tywyll yn y fan hon, a gwell fydd rhoddi'n lled gyflawn y peth y mae ef yn ei ddywedyd am y reddf y mae'n tybio ei bod mewn dyn.

Y mae ynom, eb efô, fod, sef ein myfi gwirioneddol, ein myfi cyntafanedig, cyn cof, diderfyn, cyffredinol, ac anfarwol yn ôl pob tebyg. Nid yw ein deall, nad yw ond math o lewych ar wyneb yr eigion mewnol hwnnw, yn adnabod y bod hwnnw hyd yma ond yn amherffaith... Y mae'r bod hwnnw'n byw ar wastad arall ac mewn byd amgen na'n deall ni. Ni wyr ddim am amser na lle, y ddau fur arswydus a rhithiol y mae'n rhaid i'n rheswm ni redeg rhyngddynt tan boen ymgolli. Iddo ef, nid oes agos na phell, nac a fu nac a fydd, na gwrthwynebiad mater. Gŵyr bopeth a gall bopeth. . . . Bydd yn ymwneud â'r deall mewn dulliau tra amrywiol. Mewn rhai pobl, bydd mor ddwfn ynghladd fel nad yw'n ymhel ond â'r swyddogaethau anianol a pharhad yr hil. Mewn eraill, ymddengys fel pe bai bob amser yn effro. Ymgyfyd yn fynych nes bod ei rith-bresenoldeb yn cyffwrdd. â'r bywyd allanol ac ymwybodus; ar bob llaw bydd yn ymyrryd, yn rhag-weled, yn rhybuddio, yn penderfynu ac yn ymgymysgu yn y rhan fwyaf o ffeithiau pwysig gyrfa dyn. O ba le y mae'r gynneddf hon? Ni wyddys. Nid oes iddi ddeddfau sefydlog a sicr. Nid ydys, er enghraifft, yn canfod un berthynas gyson rhwng ei hymddygiadau hi a thwf y deall. Bydd yr ymddygiadau hynny yn canlyn rheolau na wyddom ni ddim amdanynt. Yn ystâd bresennol ein gwybodau, gallem dybio mai peth damweiniol hollol yw'r gynneddf. Gwelir hi yn hwnyma ac nid yn hwnacw, heb fod lle yn y byd i ddyfalu achos y gwahaniaeth hwnnw.

Gweithrediadau'r reddf hon, ebr Maeterlinck, sy'n esbonio lwc neu anlwc dyn. Saif yr anlwc o'n blaen, ond na wyddom ni mo hynny, gan mai mewn amser, y naill ar ôl y llall, yr ydym ni'n canfod pethau. Bydd y reddf hon yn rhybuddio'r rhai lwcus, ond bydd y rhai anlwcus yn mynd i gyfarfod â'u tynged. I brofi ei ddadl, rhydd yr awdur liaws o bethau hynod. Digoned nodi yma un peth a ddywed, sef bod bron bob trychineb mawr yn digwydd pryd na bo yng nghyfle'r dinistr ond rhyw hanner neu draean o'r bobl y gallesid. yn ôl y tebygolrwydd mwyaf rhesymol ddisgwyl eu bod yno ar y pryd.

Ond os oes lwc i ni, a yw hi'n ddigyfnewid ac yn ddi-wella? Dal yn rhyfeddol o gyson o hyd y bydd hi, medd Maeterlinck, ac iddo ef y mae hynny yn arwydd, onid yw'n brawf, mai nid oddi allan i ni wedi'r cwbl, ond mai ynom ni y mae hi'n teyrnasu, ac mai nyni sydd yn ei ffurfio a'i gwisgo â nerth cudd, na thardd ond ohonom ni ein hunain. Byddis yn sôn "bod y lwc yn troi." Onid greddf dyn fydd wedi deffro, neu ynteu wedi medru ymwneud â'r ewyllys a'r deall?

Teithiwn ynteu, medd efô, yn ddiflino ar hyd yr holl ffyrdd sy'n arwain o'n cydwybod i'n greddf. Drwy hynny fe wnawn fath o lwybr yn y ffyrdd mawr, di-dramwy hyd yma, sy'n mynd o'r hyn a welir i'r hyn nis gwelir, oddi wrth ddyn at Dduw, ac o'r un i'r cwbl oll. Ym mhen draw'r ffyrdd hynny yr ymgudd cyfrinach gyffredinol bywyd. Yn y cyfamser, derbyniwn y ddamcaniaeth a gyfnertho ein bywyd ni yn y bywyd cyffredinol sydd ag arno angen amdanom i dreiddio ei ddirgeleddau ei hun, canys ynom ni y mae ei gyfrinachau yn crisialu gyflymaf a gloywaf.

Nid yw syniadau'r awdur ar y Dyfodol, efallai, lawn mor rymus a'i syniadau dan y pennau eraill. Yn fyr, dywedyd y mae ei fod ar ryw ystyron yn beth annealladwy paham na wyddem pa beth a

ddaw, fel y gwyddom pa beth a fu. O safle ein dychymyg, nid oes reswm paham na welem y peth nad yw eto, gan fod yn rhaid bod y peth nad yw eto, mewn perthynas â ni, yn bod eisoes ac yn ymddangos yn rhywle.[2] Ynddo'i hun, y mae bron yn sicr nad yw Amser, er i ni ei rannu yn orffennol a dyfodol, ond un Presennol aruthr, tragywydd, sefydlog, lle y mae popeth a ddigwyddodd neu a ddigwydd yn digwydd yn ddigyfnewid, heb fod yfory, namyn yn ysbryd dyn, yn ymwahaniaethu oddi wrth ddoe neu heddiw. Y mae dyn erioed yn chwilio am agen yn y pared rhyngddo a'r dyfodol, ac nid yw Maeterlinck yn amau na bu weledyddion a phroffwydi â'u gïau yn gyfryw fel y gallai eu cydwybod a'u greddf gymuno â'i gilydd. Gan mor brin yw'r rheiny, cafwyd hyd, neu gredu ddarfod cael hyd i foddion cyfareddol i ddarllen y dyfodol. Barnai Maeterlinck nad oedd i'r wybodaeth honno mo'r glod a fu iddi unwaith erbyn yr adeg yr ysgrifennai ef ei lyfr- yr oedd y presennol a'r gorffennol yn ddigon i dorri ein syched am ryfeddodau. Eto, ni lwyr adewsid mo'r hen ddewiniaeth. Yna, dyry'r awdur hanes ei ymweliadau ef ei hun â rhai gweledyddion a dewiniaid yn Paris, un ferch ddeugain oed, a aeth i fath o lewyg, ac yna, â llais fel llais geneth fach—geneth fach a'i henw Julia, oedd yn llefaru drwyddi, meddai hi—a ddadlen nodd iddo bethau arbennig yn y dyfodol hyd fesur yn gywir. "Euthum i ymofyn yn gywir," medd ef, "heb gredu, ond yn barod i gredu, heb gymryd plaid a heb ddiystyrru ymlaen llaw, oherwydd, oni ddylid yn ddall addef un wyrth, y mae'n waeth ei dirmygu yn ddall, ac ym mhob cyfeiliornad cyndyn, ymgudd gwirionedd rhag orol i ddisgwyl awr ei eni." Ni chred ef fod "Julia" yn mynd y tu draw i'r peth a wyddai ef ei hun, ond ei bod yn darllen, nid yn gyflawn ac megis mewn llyfr cyffredinol, lle byddai popeth y byddai'n rhaid ei ddigwydd wedi ei sgrifennu i lawr, eithr drwyddo ef, yn ei reddf arbennig ef ei hun, ac na allai hi ond trosi yr hyn na allai ei reddf ef ei fynegi i'w feddwl.

Yr ydym, eb efô wrth derfynu, yn wyneb y dyfodol megis yn wyneb gorffennol wedi ei anghofio. Gallwn geisio ei atgofio. Awgryma rhai ffeithiau nad amhosibl mo hynny. Dylem geisio dyfeisio ffordd neu gael hyd eto i'r ffordd at y cof sydd o'n blaenau. Rhag crwydro ar hyd ffordd lle nad oes dim yn ein galw, digon dywedyd bod y dyfodol, fel popeth y sydd, yn debyg o fod yn fwy cytûn a mwy cyson na chysondeb ein dychymyg ni, ac na wyrai digwyddiad pethau fymryn o'n bod ni yn eu gwybod ymlaen llaw. At hynny, ni wypai neb mo'i ddyfodol na rhan ohono ond y rhai a fynnai'r boen o'i ddysgu, megis na ŵyr mo'r gorffennol nac un rhan o'u presennol eu hunain, ond y rhai â'r galon a'r deall i'w holi.

Dyna, hyd y gellais i ei roddi, grynhodeb o gynnwys un o'r llyfrau mwyaf nodedig a ddar llenais erioed. Ysgrifennwyd yr ysgrif hon gyntaf flynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, a chyn darllen o'r ysgrifennydd lawer o lyfrau a ddarllenodd wedyn. Erbyn hyn, ymddengys iddo ef mai ymhlith trigolion Fflandrys yn unig y gallai meddyliwr. fel Maeterlinck gyfodi. Y mae ôl y materoldeb a geir yng nghelfyddyd y bobl hynny, yng ngwaith eu peintwyr a'u beirdd-Verhaeren, er enghraifft— a'r ddisgyblaeth gyferbyniol ymhlith eu crefyddwyr (deubeth y digwyddodd i mi eu clywed yn gwrthdaro ac yn ymryson â'i gilydd yn ymddiddanion peintwyr, beirdd a cherddorion Belg yn ystod y rhyfel,)[3] i'w canfod yn eglur ym meddylwaith Maeterlinck. Er ymado â'i hen gredo, a llefaru ohono yn nhermau ffilosoffi na chydnebydd un cyfyngiad ar ei hymchwil i hanes tarddiad ac awdurdod syniadau dynion, nid dadleuwr pigog yw ef, ac y mae ôl y ddisgyblaeth Gatholig ar ei ddysgeidiaeth gyda golwg ar ymddygiad yn arbennig. Nid yw ei etheg ychwaith ymhell oddi wrth etheg Cristnogaeth ei hun, ac ni all dyn beidio â chofio hefyd am syniadau H. G. Wells yn Lloegr, a cheisio hyderu bod y synthesis newydd yn dyfod yn ei thro. Cyhoeddwyd llyfr Maeterlinck tua dechrau'r ganrif (y drydedd fil ar ddeg yn 1903). Nid oedd meddylwyr craffaf y Cyfandir heb wybod yr adeg honno nad hir y gellid gohirio'r trychineb a ddaeth yn 1914. Yn sicer, dyna bwynt pryd y cyrhaeddodd arfogaeth y cenhedloedd ystâd oedd yn peryglu parhad yr hil. Pa un bynnag ai lwc ai anlwc yn nhrefn pethau fyddai ddiflannu o hil mor agored i drychinebau o'r fath, ni ellir peidio â chyffelybu'r gydwybod newydd yn erbyn rhyfel, a sefydliad Cyngrair y Cenhedloedd, hyd yn oed fel y mae, i'r peth a ddywed Maeterlinck am darddiad yr arfer o dalu galanas ymhlith y llwythau cyntefig pan oedd dial yn peryglu parhad yr hil. Efallai mai'r unig beth sydd wedi gwella yw—ein harfau!

(1906.)

Nodiadau[golygu]

  1. Lloeren yw gair rhannau o Sir Ddinbych am ryw gylch disglair neu olau—byddai lloeren olau yr un ystyr yn union â foyer de lumière gan Maeterlinck.
  2. Ar y pen hwn, gweler syniadau tebyg yn An Experiment with Time. J. W. Dunne. London, A. & C. Black. 1929.
  3. Nid anghofiaf byth un ymddiddan. Yr oedd yno bedwar neu bump ohonom, dau neu dri o Fflandrwys a dau Gymro. Yr oedd un o'r Fflandrwys yn adnabod Maeterlinck yn dda, a gofidiai ei fod ef wedi peidio â bod yn "bon croyant" fel y buasai gynt. Soniem am ddyletswydd dynion yn y dymestl gyntefig, yn y don aruthr honno o ofn a chynddaredd a ysgub- odd dros wledydd cyfain. Cododd pwnc materolaeth. Fflam- iodd llygaid un o'r Fflandrwys, un a fuasai'n ymladd ac a gawsai fwled drwy ei ysgyfaint. Meddai, gydag angerdd aruthrol: "O'm rhan i, mynnwn fod yn sant, yn sant, yn sant!" ("Moi, je veux être un saint, un saint, un saint!"). Ac nid oedd fodd ei amau ddim