At un sy’n gwrando gweddi’r gwan

Oddi ar Wicidestun

Mae At un sy’n gwrando gweddi’r gwan yn emyn gan Thomas Haweis (1734-1820) a efelychwyd gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) (1795 - 1855)

At un sy’n gwrando gweddi’r gwan
‘rwyf yn dyrchafu ‘nghri;
ymhob cyfyngder, ing a phoen,
O Dduw, na wrthod fi.


Er mor annheilwng o fwynhau
dy bresenoldeb di,
a haeddu ‘mwrw o ger dy fron,
O Dduw, na wrthod fi.


Pan fo ‘nghydnabod is y nen
yn cefnu arna’ i’n rhi’,
a châr a chyfaill yn pellhau,
O Dduw, na wrthod fi.


Er bod yn euog o dristáu
dy Ysbryd Sanctaidd di,
a themtio dy amynedd mawr,
O Dduw, na wrthod fi.


Er mwyn dy grog a’th angau drud
ar fynydd Calfarî,
a’th ddwys eiriolaeth yn y nef,
O Dduw, na wrthod fi.


Pan fwy’n wynebu ymchwydd cryf
Iorddonen ddofn ei lli,
a theithio’n unig drwy y glyn,
O Dduw, na wrthod fi.


A’r pryd y deui yr ail waith,
mewn mawredd, parch a bri,
i farnu’r byw a’r marw ‘nghyd,
O Dduw, na wrthod fi.