Athrylith Ceiriog/Pennod 2
← Pennod 1 | Athrylith Ceiriog gan Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Pennod 3 → |
Pennod 2.
DEFNYDDIR y gair Cân—Caneuon fynychaf mewn ystyr gyffredinol, i ddynodi darn o farddoniaeth. o unrhyw fath. Ond yn y traethawd presenol cyfyngir y gair i'w ystyr gysefin, i ddynodi dosran arbenig o farddoniaeth delynegol. Y mae y gair Seisnig "Song" yr un mor ddiafael: dyna'r rheswm fod llenorion Seisnig yn defnyddio gair o'r Ffrancaeg —"Chanson"—pan y maent yn son am ddarn o farddoniaeth wedi ei gyfaddasu at ddybenion cerddorol.
Y Gân yn ddiau yw cyntafanedig yr awen. Un o'r efelychiadau symlaf o beroriaeth natur ydyw,—heb falchder ymadrodd, heb uchelgais gelfyddydol, heb blethiad dyrys meddylddrychau. Y mae yn ysgafndroed a dihoced; fel murmur y gornant ar boreu o wanwyn—fel awel yr haf rhwng dail y dderwen—fel y wenol yn cadw ei "gwisg yn lân a chryno," er mor wisgi ac esgeulus fyddo'i ehediad. Cyneddf benodol y Gân ydyw ei bod yn fyw gan yni cerddorol, pa mor ddiofal bynag yr ydys wedi ei chynllunio y mae sain ei phenillion yn tueddu yn barhaus i droi yn ganu fel aderyn wrth redeg yn gyflym yn troi yn ddiarwybod braidd i hed fan. Y mae Caneuon ar unwaith, os yn Ganeuon dilys, yn hawlio perthynas à cherddoriaeth; ac os nad oes alawon yn barod iddynt, dilynant y meddwl i bobman, "gan guro amser i ddim" yn y dychymyg.[1]
Y mae Ceiriog wedi ysgrifenu yn fanwl a threfnus ar gyneddfau a swyddogaeth y Gân yn y Bardd a'r Cerddor: a phrin y mae eisiau ychwanegu dim at ei nodiadau. Ymddengys i mi fod ei awgrymiadau yn nghylch defnyddio "ychydig o Gynghanedd os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth "—yn nghylch "perseinedd y llinellau," a'r angenrheidrwydd am gyflead dillyn o'r llafariaid a'r cydseiniaid yn nghylch peidio gwthio "gormod o ddrychfeddyliau" i'r llinellau sydd i'w canu—ac yn nghylch "cadw'r pethau goreu yn olaf "—fod yr holl awgrymiadau hyn mor bwrpasol ag ydynt gywir. Ac wrth fanylu ar ei gynyrchion, ceir gweled ei fod nid yn unig yn hyddysg yn neddfau y Gân, ond hefyd yn fedrus i droi ei ddysgeidiaeth i amcanion ymarferol. Yr esboniad goreu ar ei awgrymiadau yw ei ganeuon ei hun.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Victorian Poets, E. C. Stedman, 101.