Awdl Dinyster Jerusalem
← | ' ' |
→ |
AWDL DINYSTR JERUSALEM.
EBEN FARDD
Ah! dinystr! dinystr yn dònau—chwalodd
Uchelion ragfuriau,
A thirion byrth yr hen bau,
Caersalem sicr ei seiliau.
Crêf iawn oedd, ac ar fynyddau—dilyth
Adeiliwyd ei chaerau;
Yn ei bri hon wnai barhau
Yn addurn byd flynyddau.
Af yn awr i fan eirian, —golygaf
O glogwyn eglurlan,
Nes gwel'd yr holl ddinas gàn
Y celloedd mewn ac allan.
Jerusalem fawr islaw im' fydd—gain
Ar gynar foreuddydd;
Ei chywrain byrth a'i chaerydd
I'w gwel'd oll mewn goleu dydd.
Ceinwech Brifddinas Canaan—oludog
Fawladwy, gysegrlan;
O uthr byrth a thyrau ban,
Myrdd ogylch—mor ddiegwan!
Ei hoff balasau, a'i phobl luosog,
Dawnus lywiawdwyr, Dinas oludog,
Ei berthawg ranau, hen byrth gorenwog,
Muriau diadwy, O, mor odidog !
Addien serenawl ddinas ariannog,
Cywrain a llawen, ceir hi'n alluog;
Heddyw o'i rhwysg nid hawdd yr ysgog—hi,
Hawddamor iddi, le hardd mawreddog.
Uwch ei rhagfur, ban, eglur, binaglau,
Tai cyfaneddawl, tecaf neuaddau,
Lluon i'w 'nabod, llon eu wynebau,
Sy'n chwai a diwyd mewn masnach deiau,
Heirddion eu gwêdd drwyddi'n gwau—yn drwyadl
Tawchog anadl ddyrch hwnt o'i cheginau.
Ni bû le eisor, llawn o Balasau,
Iesin ac agwedd ei Synagogau,
Eu gwêdd arnodwyd âg addurniadau,
Ie, llawn addurn ei holl aneddau;
Ac o fewn y trigfanau—ffrwyth y tir
Er bûdd monwesir heb ddim yn eisiau.
Urddedig Ddysgedigion,
Ddawnus wyr, drwy'r ddinas hon
Ymrodiant mewn mawrhydi,
Addurnant, a harddant hi:
Y Rabbiniaid a'r bonedd,
Eu dysg da, ddadguddia'u gwedd,
Wele, rhinwedd olrheiniant,
Fawrion wyr, myfyrio wnant.
Heirddion sér y ddinas hon
Yw ei thrwyawl athrawon;
Addas beunydd esboniant,
Geiriau Ner, agor a wnânt:
Ac efryd yn y Gyfraith
Ddofn a gwir, Ddeddf enwog iaith.
Ni fu ddinas mwy llawn o feddiannau
Yn trin cymaint o arian ac emau;
Un orhoff, orlawn o aur a pherlau;
Ceir ynod luosog gywrain dlysau,
Aroglus, wiw—goeth, rywiogawl seigiau,
Olewydd, gwinwydd, i'r genau—rydd hon,
O! ddinas wiwlon, ddaionus, olau.
Lliwdeg ddyffrynoedd llydain,
Sy o gylch y ddinas gain;
Llwyni fyrdd yn llawn o faeth,
Llwyni,, llenyrch, llawn lluniaeth;
Y blodeu wynebledant,
Ac yn eu nôdd gwēnu wnânt;
Dyferion gloywon y gwlith
Clau, ar eginau'r gwenith,
Glaswellt a gwyrddfrig lysiau
Y'mhlith y blodau'n amlhau;
Gerddi têg, iraidd eu tŵf,
Dillyn ardal llawn irdŵf.
Cū ydynt y cawodau,
Y frô sêch a wnânt frasâu;
Haul glwys i loywi y glyn
Ergydia'i belydr gwed'yn.
Aml rês euraidd, mil o rôs Saron,
Geir, a lili a'i gwawr oleulon,
Ar dŵf iraidd, yn rhoi dyferion,
O deg liwiau, hynod, a gloywon.
Acw yn y tiroedd clywir cantorion
A'u syml, luosawg, leisiau melysion;
Anian ogleisiant—O dônau glwysion !
Ar gangen eiddil, për gynganeddion;
Pereidd—der, mwynder eu meindon——chwâl fraw
Ffy, derfydd wylaw a phwdr—feddylion.
O! hardd frodir ddyfradwy
Ei dwfr glân adfer o glwy'
Y dyn fo' dan waeau fyrdd,
Gloesion iachâ'i dwfr glaswyrdd:
Gerllaw o du'r gorllewin
Wele, rhed yn loyw ei rhin
Hen ffrwd lon Gihon dēg wawr,
Dirionlif, hyd raianlawr;
Deifr Etam, Siloam lyn,
Pereiddflas, wyrddlas harddlyn,
Yn ei godrau hen Gidron,
Tra gloyw o hŷd treigla hon:
Dŵr llonydd gyda'r llwyni,
Trâ llawn yw y tir o'i lli!
Ond O! i'r uchel harddfryn edrychaf,
Moriah amryliw mewn marmor welaf;
Ah! dacw ymlaen acw y Deml enwocaf
O'r un a seiliwyd, arni y sylwaf;
Gweled i gŷd ei golud gaf—a hi
Damlygir ini yw'r Deml gywreiniaf.
Heirdd golofnau, eiliadau goludog,
Canpwyth cywreiniawl, cnapwaith coronog;
Gwnaed mewn dulliau y gwnïad mândyllog,
Wynebir ogylch â gwinwydd brigog:
Sypiau gawn o'r grawn yn grôg, gwyrddion ddail
I'r hynod adail eirian odidog.
O'r melynaur amlèni—roed yn wych
Ar hyd ei nen drosti;
Anfon ei lòn oleuni
Mae'r haul ar ei muriau hi
Ond O! alar a'n dilyn,
O'r wylo hallt ar ol hyn!
Holl Anian fyddo'n llonydd,
Na seinied edn nos na dydd;
Dystawed, na chwythed chwâ,
Ac ust! eigion, gostega!
Na fo'n dôd fynu i dir
Eildon o'r Mor Canoldir;
Iorddonen heb dwrdd enyd,
Gosteg! yn fwyndeg drwy fyd,
Na fo dim yn rhwystr imi,
Na llais trwm i'm llestair i.
Rhagwelaf drwy argoelion,
Na saif yr hardd ddinas hon,
Am hiroes yn ei mawredd,
Adfeilia, gwaela ei gwêdd !
Ger bron mae gwawr wybrenawl[1]—darlleniad
O'r lluniau rhyfeddawl;
A ddengys ei gwedd ingawl,
Lleiheir mwy yn llwyr ei mawl!
Ceir Anian oll yn crynu
A braw llawn, cryn wybr a'i llû;
Aruthr yw! hi[2] a wrth rêd
Er dangos ei chwerw dynged!
Ac O! lêf drom glywaf draw,
Hynod sŵn yn adseiniaw;
Yn awr darogana ryw drigienydd,[3]
Rhua drwy alar hyd yr heolydd,
Ac o'i ben "Gwae!" "Gwae!" beunydd—a glywaf,
Effro y sylwaf ar ei phreswylydd.
Ond Duw ar unwaith sydd yn taranu,
Ail swn llifeiriant ei lais yn llafaru;
Ei air gorenwog wna i'w mûr grynu
Geilw'n ddiattal y gâlon o'i ddeutu;
Ysa y farn y ddinas fu,—yn gref
Ofnadwy'r fanllef wna dewr Rufeinllu!
Do, rhagdraethwyd y rhwygiad i'r eithaf,
Gan Grist, ddwyfol, urddonol hardd Wiwnaf,
Gwir daw garw adwyth, gair Duw a gredaf,
Mwy ar Gaersalem, a mawr gûr, sylwaf;
Daw dydd yn wir, d'wedodd NAF—y dryllir
Már acw dernir ei muriau cadarnaf!
Maen ar faen yma yn hir fu—ond ow!
Andwyir, medd Iesu!
Dyma le gaed yn Deml gû,
Hon, och! welir yn chwalu!
Yn fuan y nodawl fan annedwydd,
Wiw, gysegredig a wisg waradwydd,
Gwaela ei chyflwr, gwelwch ei haflwydd;
Agos ei rhwygiad megys ar ogwydd,
Deffröa llid, a phâr i'w llwydd—beidio
Cyn ei malurio y cawn aml arwydd.
Y grasol Iesu a groeshoeliasant,
Am hyny gofid miniawg a yfant;
Un Duw, ein bywyd ni adnabuant;
Llû o göeg enwau yn lle gogoniant,
I'r IESU anwyl, roisant—a bythol
Trag'wyddol, ddwyfol lid a oddefant.
Gorphwysaf, safaf yn syn,
Nodaf am un munudyn;
Cynnwrf a thwrf sy'r waith hon,
Ryw fygwth rhwng arfogion,
Mewn goror, man a gerid,
Nid oes lle nad ysa llid;
Marwolion amryw welir!
O fewn tai cryfion y tir!
Y Ddinas oedd i Anian—yn addurn
Heddyw'n ddienyddfan!
Anhawdd fydd cael ynddi fan
Heb och gan fawr a bychan!
ELEASAR bâr loesion—a niwaid
Wna IOAN a SIMON;
Dewr dylwyth, diriaid álon
A nesânt i'r ddinas hon.
Llid geir oddifewn, trallod, griddfanau
Swn trueiniaid ac adsain tarianau,
Gorthrech, gwrthrestr, a'u callestr bicellau,
Ochrant i wared yn chwyrn o'u tyrau,
Gwelwch y meirwon o gylch y muriau,
Ba ryw gelanedd! briwa galonau!
Gwynfydodd gan ofidiau—'r ddinas gain,
Mae'n mawr wylofain mewn amryw lefau.
Bwâau a welir gan y bywiolion
Cedyrn, dirus, ryfygus arfogion,
Tra hŷf trywanant eu heirf trwy weinion!
Wele'n y ddinas fu lawn o ddynion
Lē annhymoraidd, geleiniau meirwon;
Miloedd gwaeddant, amlhäodd y gweddwon;
Bu a chig y beichiogion—frasäu gwêr
Hyd ryw nifer o'r adar annofion!
Lladron, llofruddion yn llu afrwyddawl
Ysant y ddinas, O! nid dyddanawl!
Gan aml lüeddu a gwŷn ymladdawl,
Drwy dân ysant bob gwychder dinasawl,
O! wastraff a rhwyg dinystriawl—a wnânt
O! chwyrn ddifiant a chûr anoddefawl!
Ar Jerusalem y tremiaf—ddinas
A ddenai'r rhan fwyaf,
Heddyw'n ei chylch hêdd ni châf,
Garw y swn! ah! gresynaf.
Ha! fradwyr, anhyfrydol
Trēch yw Nâf, O trowch yn ol!
Gorphwyswch, sefwch dros awr,
Er eich arfog rôch erfawr—
Dofydd o'r Nêf a lefair,
Enciliwch oll, clywch ei air.
Geilw Rufeiniaid, gwroniaid gorenwog,
I wyneb gâlon, eon, bygylog;
Deuant, lladdant mal cawri llueddog,
Titus a'i ddirus fyddinoedd eurog,
Anorfod ddewrion arfog—llawn calon,
Gâlon terwynion, glewion, tarianog.
O dir ochain, edrychaf,
Neud tu a'r nen troi a wnaf;
Mewn cür ryw gysur geisiaf
Diau mae'n chwith, dim ni châf!
Ryw gwynaw gan rai gweinion
Sy ar bob llaw, braw i'm bron!
I'r ddinas mae myrddiynau
Megys seirph am agosâu
Gwelaf, debygaf o bell,
Ymwibiant ger fy mhabell;
A'u hedrychiad yn drachwyrn,
Dewrllu yn canu eu cyrn!
Wynebu a gwanu gwynt,
O'u blaen gyru blin gorwynt,
Tincian eirf glân, dyrfawg lû,
Chwai benwn yn chwibanu;
Rhedant, eu meirch ânt mor chwyrn,
Hwnt ergydiant trwy gedyrn!
A phâr anadl eu ffroenau,
Yn un llen i'r nen wyllâu!
Nifwl yn gwmwl a gerdd,
Hŷd wybr deg hêd brwd agerdd—
Chwyrn welediad ofnadwy,
Annôf, y meirch ofnaf mwy!
Eu llygaid tanbaid bob tû,
Oll tanynt yn melltenu,
Ysgogant mewn rhwysg agwrdd,
Ymdaflant, hyrddiant mewn twrdd.
Golygaf, ac af o'm cell,
Allan caf weled wellwell,
Dda drefn yr holl luoedd draw,
Ba ddynion sy'n byddinaw?
TITUS flaenora'r dyrfa frwd arfawg,
Canaan wna'n brif—ffordd i'w osgordd ysgawg,
O mor ddiflin ei fyddin arfeiddiawg,
Rhai'n trin y bwâ, rhont droion bywiawg;
A'u dieisor Dywysawg—uchelfron,
Trecha ei elynion tra chalonawg.
Ac allan daw'r picellwyr, —hwy fwriant
Rai'n farwol gan wewyr
Anturiol, gwrol y gwyr,
A dewrion esgud aerwyr.
Yna'r marchluoedd floeddiant, —rhyfelwyr
Filoedd a ddilynant:
Ni luddir, iawn lueddant,
Cedyrn, lluon chwyrn, llawn chwant.
Eto rhyfeddaf ar hynt arfeiddiog,
Dewrion benaerwyr, cedyrn banerog,
Nesânt i'm gwydd, a'r arwydd eryrog
Ar eu llumanau, llenau cynlluniog;
Yn ol y rhai'n, wele'r enwog—filwyr
A'r holl udganwyr, lleiswyr lliosog.
Imi, och! y mae achaws—i wylo
O weled y lluaws,
Yma'n chwyrn oll mewn chwerw naws,
Modd ingol yn ymddangaws.
Aerawg weilch enwog yn awr gylchynant
Yr holl furiau, a dewr y llafarant;
Lewion uchelwyr! yn ôl ni chiliant,
Aml fyrddiynau yn rhesau ni rusant,
Eithr i fewn rhuthro fynant—yn wrol
A'r lle addurnol yn ddrylliau ddarniant!
Suddir y dinasyddion—o 'ngolwg
Yngwaelod trallodion,
O echrys air! chwerw yw sôn
O!'r gwelwi mae'r trigolion!
Fföant rai o'r ffiniau trist,
O ethryb y braw athrist;
Llesg, gweinion, a blinion blant,
Tra 'mddifaid, trwm oddefant.
Heb un tâd wedi'i adael,
Mwy, mwy chwith, dim mam i'w chael!
Rhieni mawr eu rhinwedd,
Fu'n llon, sy gulion eu gwedd:
A braw tost, ryw fyrdd bryd hyn
A gnöa y dygn newyn!
Gwelaf RAHEL, isel, lwys,
Yn wylo, fenyw wiwlwys,
Am ei gŵr yn drom ei gwedd,
A'i henaid mewn anhunedd;—
Hi ddywed yn grynedig,
"Yma nid oes namyn dig,
"Llid a chwyn, trallod a chûr,
"Dialedd a phob dolur!
"O! fy Mhriod a godai,
"Llon ŵr rhydd, allan yr äi,
"Llwfr oedd, a d'ai llofruddion,
"Clwyfent, hwy frathent ei fron!
"A thrwy boen fe aeth o'r byd,
"Ni welaf mwy f'anwylyd!
"Minau o'm bro a fföaf,
"Cyn y dydd, ac onid âf,
"Annhêg glwyf drwy fin y cledd,
"A newyn fydd fy niwedd!
"Fy mhlant bychain, eich sain sydd,
"Yn boenawl imi beunydd;
"Bellach rhaid gwibio allan,
"Hwnt y'mhell—Dowch fy mhlant mân!"
A deg ochenaid hwy gydgychwynant,
I'w taith, drwy anobaith, draw wynebant;
Ac o furiau y ddinas cyfeiriant
Dua'r mynyddoedd i droi am noddiant;—
Trwy angau nychlyd, trengant—o ogof
I hen wlad angof, yn wael diengant.
Hyf lueddwyr hwy a floeddiant—i'r frwydr
Ar frys y goruthrant;
Y DDINAS a feddiannant,
A'u holl nerth ei dryllio wnant.
Ewybr enill, a'u Hwrdd-beiriannau,
Trwm, erwin ddyrnant, â'r mûr yn ddarnau,
Trwy ei ganol tori agenau,
Eu hergydion a wnant rwygiadau;
O! 'r niweidiol ddyrnodiau—a roddant
Hwy fawr dyrfant anhyfryd arfau.
Aerwyr, ymbleidwyr, heblaw—ryw gannoedd
Drwy gynen yn unaw:
Eidiog âlon digiliaw,
Gofid, a llid ar bob llaw.
Lliwir â gwaed y llawr gwiwdeg—o fewn
Afonydd yn rhedeg;
Bywiog gurant bob careg
O'r muriau a'r tyrau têg.
Trwy ei dymunol heolydd—ffriwdeg
Y ffrydia gwaed beunydd;
Bawdd o fewn,—Ba Iuddew fydd
Mwy a gâr ei magwrydd?
Trwy'r ddinas, galanas wna'r gelynion,
A gorwygant yn annrhugarogion;
Lladdant, agorant fabanod gwirion;
Ow! rwygaw, gwae rwyfaw y gwyryfon!
Annyddanawl hen ddynion—a bwyant!
Hwy ni arbedant mwy na'r abwydion.
Sŵn anniddig sy yn y neuaddau,
I drist fynwes pwy les wna palasau?
Traidd galar trwodd i giliau—gwychion
Holl dai y mawrion, er lled eu muriau.
Nychir y glew gan newyn,
Ac O! daw haint gyda hyn;
Dyna ysa'r Dinaswyr,
Hwy ânt i'r bedd mewn tro býr!
Bonedd a gwreng yn trengi,
Gweiniaid a'u llygaid yn lli.
Y penaf lueddwyr, O! pan floeddiant,
Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant;
Eraill gan loesion yn waelion wylant,
Eu hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant;
Gan boen a chûr, gŵn, byw ni chânt—angau,
Er gwae ugeiniau, dýr eu gogoniant.
Ys anwar filwyr sy yn rhyfela,
Enillant, taniant Gastell Antonia;
Y gampus DEML a gwympa—cyn pen hir;
Ac O! malurir GEM o liw eira.
Wele, drwy wyll belydr allan—fflamol
A si annaturiol ail swn taran;
Mirain DEML MORIAH 'n dân—try'n ulw—
Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian!
Yr ADEILADAETH ddygir i dlodi,
Be b'ai cywreiniach bob cŵr o honi;
Tewynion treiddiawl tân a ânt trwyddi;
Chwyda o'i mynwes ei choed a'i meini;
Uthr uchel oedd eithr chwal hi—try'n llwch,
A drých o dristwch yw edrych drosti.
Fflamau angerddol yn unol enynant,
Diamau y lwyswych DEML a ysant;
Y dorau eurog ynghyda'r ariant,
Y blodau addurn, a'r cwbl a doddant,
Wag annedd ddiogoniant—gyda bloedd
Hyll bwyir miloedd lle bu roi moliant!
Llithrig yw'r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y Marmor gwyn.
Eto rhwng udiad y rhai trengedig,
Lleisiau, bloeddiadau y bobl luddedig,
A sŵn y fflamau, ffyrnau uffernig,
Tristwch oernadau trwst echrynedig,
A'r fan oedd orfoneddig—olwg drom!
Ow! ow! mae'n Sodom annewisedig.
CAERSALEM, deg em digymar—oeddit
Addurn yr holl ddaear,
Wedi'th gwymp pwy gwyd a'th gâr?
Ymgelant yn mhau galar—
Udaf, can's daeth fy adeg,
Ni sai' dim o'r ddinas deg;
Och! nid oes o'r gwychion dai
Anneddol, gongl a'm noddai:
O!'r llysoedd a ddrylliasant
I lawr o'u cŵr lawer cánt:
Dinas gadarn yn garnedd;
Addien fu-Ow! heddyw'n fedd.
Mynydd SION dirionaf,
Yn dda i gŷd heddyw gȧf:
Eirian barth arno y bu
Dyledog adeiladu:
Prif Balas y Ddinas dda,
Oedd eurog, emog, yma:
Trow'd yn adfail, sail y sedd
Freninol, firain annedd;
Tori, difa TWR DAFYDD,
O'i dirion sail, darnau sydd;
Y mynydd oll, man oedd wych,
A'i gyrau yn aur gorwych,
Heddyw à lludw ddilledir!
Sawyr tân sy ar y tir.
Meirwon sy lle bu'r muriau—rhai waedant,
Ddrewedig domenau;
Ni wyddir bod neuaddau,
Neu byrth erioed yn y bau.
Darfu'r aberthu am byth,
Dir, o gôf yn dragyfyth!
Wylofus gwel'd y LEFIAID
Yn feirw, yn y lludw a'r llaid!
Plaid y RHUFEINIAID o'r fan
Ar hynt oll droant allan;
Rhyfelwyr llawn gorfoledd,
A llu gwŷch mewn dull a gwedd;
Mawrhydri ymerodrol
Ddangosant, pan ânt yn ôl:
A da olud i'w dilyn,
Byddin grêf—heb ddyn a gryn.
Wele y Ddinas heb liw o ddynion,
O! O! drwm haeriad, ond y rhai meirwon;
Heb le anneddawl i bobl newyddion,
Rhuddwaed ac ûlw yw'r eiddo âd gâlon,
O! mor wael, a marwolion!—ceir hyll drem
Mwy ar GAERSALEM, er gwae'r oesolion!
Y fan, i fwystfilod fydd,
Tŷn rhai gwylltion o'r gelltydd;
Byw wrth eu melus borthiant,
Yma ar gyrff y meirw gânt:
Cigfrain yn gerain o gwr
Draw y pant, gyda'r pentwr;
A'r lle glân wedi'r holl glôd,
Llenwir o Ddylluanod:
Pob bwystfil yma gilia,
Hoffi yn hon ei ffau wnâ:
Diau af finau o'r fan,
Mae'n well i minau allan;
A gado'r fan rwygedig,
Ddi drefn, i'r sawl ynddi drig.
Ah! wylaf, ac af o'i gwydd,
Hi nodaf yn annedwydd;
Dystryw a barn ddaeth arni,
Er gwae tost gorwygwyd hi.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yma cyfeirir at yr arwyddion rhyfedd a welid yn yr wybr uwch ben Jerusalem, sef byddinoedd yn ymladd â'u gilydd, &c. Y llinellau dilynol a gyfeiriant at yr arwyddion yn y Deml, &c., megys buwch yn dwyn oen! a'r llef a glywyd yn y Deml, &c. —GWEL JOSEPHUS.
- ↑ Sef Anian.
- ↑ Un JESUS, yr hwn a lefai ar hyd yr heolydd, gan ddywedyd, "Gwae y Ddinas!" " Gwae y Deml!" &c., heb flino na chrygu am saith mlynedd.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.