Awdl II

Oddi ar Wicidestun

gan Hywel ab Owain Gwynedd

Carafy gaer ualcheith or gyuyllchi
yny bylcha balchlun uy hun yndi.
Enwawc drafferthawe a dreit iddi,
anwar donn lauar leuawr writhe,
dewissle lywy loew gydtheithi.
Glaer gloew y dwyre o du gweilgi
ar wreic a lewych ar eleni.
Ulwyddyn yn ynial Aruon yn Eryri:
ny dirper pebyll ny ffyll pali.
Nep a rwy garwy yn uwy no hi.
Pei chwaerei y but yr barddoni
Nebawd nossweith y byddwn nessaf iddi.