Awdl III

Oddi ar Wicidestun

gan Hywel ab Owain Gwynedd

Asswynwny heddiw varch gloyw liw glas
a threiddyaw arnat geinwlat Gynlas
e hayddu daddyl weith kyn lleith lleas,
gan hun arlludyaw hoen arlludyas.
Ac ym bei arwyd yr yn was etmyc
e lliw oed debyc gwenyc gwynlas.
Hiraythawc vyg kof yg kyweithas;
hoet yrddi ami genti yn gas.
Kyt gwnelwyf ar ddyn urddas o volyant
nym gwna poen rwydant; bodyant pa dras?
Tonn a gallonn honn; hoet a gauas.
Yr twf mein riein rudeur wanas
nyt ydiw heddiw; nyt hu atas vym porth
yny myn yd oed vym perthynas.
Oi a un mab Duw o derynas nef,
kyn addef goddef gway ui nam llas.