Awdl i Foredydd ab Llewelyn, o uwch Aeron
Gwedd
gan Deio ab Ieuan Du
- Mae M'redydd ddeurudd Aëron, ab Cynfarch
- yn canfod Cerddorion;
- mae'r Aur Rhudd, mawr a rhoddion.
- Melys yw, canmol a Sôn!
- Mawr yw Son, Beirddion, am en bûdd a'u Gwin
- ag ynnil dadanudd;
- mawr ydyw'r dawn Meredudd!
- mwy yw'r Gras, ymrïg ei Rudd.
- Meredudd deurudd y Cerddorion
- arno, Gwyl Iago, mae golygon?
- gwirod taladwy, a gae'r Tlodion,
- gwïn Osai, a fydd gam ei Weifion;
- gwïn, o Gaerfyrddin, i feirddion, a Chlêl
- gwedi i'r haedder, gydâ rhoddion.
- Gweldd Fyrddin, a'i chwaer gwelodd Feirddion,
- seigiau ar ddrysau, heirdd a roeson;
- y Llynn Arogl, llyna yr Awron,
- i'r Cwmmwd Perfedd, gwledd golyddon:
- Drysau, Neuaddau, newyddion ,bob dau,
- y Bwydau, a'r Seigiau'n wresogion.
- Irlwyn, Ifor Hael, ar lann Afon,
- ym Morgannwg.. gynt muriau gwynnion;
- Tai Carrig ymrig, Ceredigion,
- ynglann Massaleg, ag Anrhegion;
- Tir Padarn, a farn, hyd Fon, mam Gymry
- a Gwr a ddyry, i Gerddorion.
- Pan ballai ereill, o'r cyfeillion,
- yno y rhoddai, ynn' Aur rhuddion;
- Nid unrhyw, yr Yw, a gwydd yr Onn,
- nid ydyw'n debyg Pendefigion;
- nid un fydd crynwydd, crinion, heb gynnydd
- bennydd ag Irwydd, a ddwg Aëron.
- Meredudd, yw Nudd, Awenyddion,
- mawr ydyw heddyw, dy Wahoddion!
- mab LLewelyn, llynn, y dillynnion,
- mae rhif y gwlith, o bur Fendithion;
- mae Ced, a gwiwged, Gwgon a'i Gleddrudd.
- meredudd, waywrudd, un o'i Wyrion.
- Iawn yw ynn' goffa ein hen gyffion,
- ach Llowdden, a Gwenn, hyd ar Ganon;
- iawnach yw euro, yn Uwch Aëron,
- na llawer marchog Ynghaer Llëon;
- uchel iawn ydyw ei wychion belydr,
- o'i Achau gwelydr, uwch eu galon.
- Calon Uwch Aëron, a chiried, bîoedd
- hyd Bowys gwlad Ddyfed:
- Cnewyllyn Cynfyn, pob Ced,
- cawn o'i fodd, cynn Ufudded.
- Maredudd, Ufudd, ddefod, hael wellwell
- hil Olwyn ab Cadrod;
- mae yn rhwym, mewn rhyw Ammod,
- morc i'r Glêr, mawr i cae'r glôd!
- Af a'i glod, mal ôd, mawr wydd, drwy Battent
- Talu Rhent tâl Aur rhudd;
- af i'w Blas ef heb o ludd,
- af a'r Awdl, i Feredudd.