Bachgen bach o dincer

Oddi ar Wicidestun

Can werin sydd hefyd yn hwiangerdd i blant. Mae'r alaw o dras Celtaidd a'r geiriau fel a ganlyn:

Bachgen bach o dincer

yn myned trwy y wlad

Cario'i becyn ar ei gefn

A gweithio'i waith yn rhad

Yn ei law roedd haearn

Ac ar ei gefn roedd bocs

Pwt o getyn yn ei geg

A dan ei drwyn roedd locs

Awdur anhysbys.